Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhodri’n ar ben ei ddigon ar ôl ennill ein cystadleuaeth diogelwch tân

Postiwyd

Mae Rhodri Campbell, sydd yn ddisgybl yn Ysgol Bethel, yn hogyn hapus iawn ar ôl ennill pabell ar gyfer chwech o bobl ar ôl iddo gymryd rhan yn y gystadleuaeth diogelwch dros yr haf a drefnwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.  

 

Fe gymrodd Rhodri, sydd yn bedair blwydd oed, ran yn y cwis i enwi'r pum perygl tân yn ein pabell arbennig ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nglynllifon ym mis Awst.  

 

Fe gymrodd miloedd o blant ran yn y cwis yma a chystadlaethau tebyg mewn gwahanol ddigwyddiadau dros yr haf, ond taflen Rhodri gafodd ei dewis ar hap.

 

Mae Rhodri wedi ennill pabell i chwech o bobl yn ogystal â gwelyau aer a sachau cysgu, a roddwyd gan Gelert Ltd.

 

Meddai Terry Williams, Rheolwr Diogelwch Cymunedol dros Wynedd a Môn gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:  "Mae plant o bob cwr o'r rhanbarth wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth diogelwch dros yr haf drwy gwblhau cwis a oedd yn amlygu'r peryglon cyffredin a'u helpu i ddeall sut i gadw mor ddiogel â phosibl rhad tân dros fisoedd yr haf.  

 

"Cawsom ymateb gwych i'r ymgyrch wrth i ni deithio o le i le ac rydym yn falch iawn o gyflwyno'r wobr i Rhodri gyda diolch i haelioni Gelert Ltd."

 

 

Meddai llefarydd ar ran Gelert Ltd: "Rydym yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i sicrhau bod pawb sydd yn defnyddio ein hoffer yn yr awyr agored yn cadw mor ddiogel â phosibl rhag tân."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen