Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr Tân yn atgoffa ffermwyr i ‘Alw cyn Llosgi!’

Postiwyd

Yn dilyn yr ymgyrch llosgi dan reolaeth lwyddiannus a lansiwyd dwy flynedd yn ôl,  bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymweld â marchnadoedd anifeiliaid ar hyd a lled y rhanbarth er mwyn sicrhau fod tirfeddianwyr yn cymryd sylw o weithdrefnau diogelwch tân sylfaenol ac yn  hysbysu'r Gwasanaeth pan fyddant yn llosgi dan reolaeth.

 

Mae'r Rheolau Llosgi Grug a Glaswellt yn dynodi mai dim ond rhwng 1af Hydref a 31ain Mawrth y caniateir llosgi ar uwchdiroedd a  rhwng 1af Tachwedd a 15fed Mawrth ymhobman arall.

 

Bydd nifer o ffermwyr nawr yn manteisio ar y cyfle i losgi grug, rhedyn ac eithin dan reolaeth ar eu tir.

 

Yr wythnos roeddem ym marchnadoedd Bryncir a Rhuthun i lansio ymgyrch 2012, bydd staff hefyd yn ymweld â marchnad yr Wyddgrug, Gaerwen, Dolgellau a Llanrwst dros yr wythnosau nesaf ac yn rhannu calendrau sydd wedi eu dylunio'n arbennig a pheryddion aer sy'n hysbysebu rhif ffôn y llinell losgi dan reolaeth a thaflenni yn atgoffa tirfeddianwyr sut i losgi yn ddiogel.  

 

Er mwyn adeiladu ar y bartneriaeth waith a ddatblygwyd y llynedd, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymuno â swyddogion o Ardaloedd o Harddwch Naturiol Mynyddoedd Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a phrosiect y Grug a'r Caerau yn rhai o'r marchnadoedd i annog ffermwyr sydd gan ffermydd mewn ardal o harddwch naturiol i losgi grug yn ddiogel a pharhau i wella'r tir ar gyfer amaeth, bywyd gwyllt a'r tirlun.

 

Meddai Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Pob blwyddyn, yn ystod y tymor llosgi dan reolaeth, cawn ein galw i nifer o ddigwyddiadau yn ddiangen yn ogystal â thannau dan reolaeth sydd wedi ymledu - felly fe benderfynom fynd â'r ymgyrch hon i'r marchnadoedd fferm er mwyn rhannu ein neges â thirfeddianwyr wyneb yn wyneb.

 

"Rydym yn erfyn ar i dirfeddianwyr sydd yn bwriadu llosgi dan reolaeth  gysylltu â ni cyn gwneud drwy ffonio'r Ystafell Reoli ar 01745 535805. Bydd hyn yn ein helpu i osgoi galwadau tân ac anfon criwiau i danau yn ddiangen yn ogystal â sicrhau ein bod yn barod i ymateb petaech yn colli rheolaeth ar y tân.

 

"Rydym hefyd yn gofyn i'r tirfeddianwyr hyn fod yn gyfrifol wrth losgi dan reolaeth. Mae tanau fel hyn yn cael eu cynnau mewn ardaloedd sydd yn anodd eu cyrraedd a lle mae'r cyflenwad ddŵr yn brin - gall tân sydd allan o reolaeth roi pwysau mawr ar adnoddau, gan y bydd diffoddwyr tân yn brysur am beth amser yn ceisio dod â'r tân dan reolaeth. Gall y tanau hyn beryglu cartrefi ac anifeiliaid heb sôn am fywydau'r criwiau a thrigolion gan na fydd diffoddwyr tân ar gael i ymateb i ddigwyddiadau brys gwirioneddol.  

 

"Os gwelwch yn dda, dilynwch y cyfarwyddiadau canlynol os ydych yn bwriadu llosgi dan reolaeth:

 

- Sicrhewch fod digon o bobl o gwmpas a bod offer digonol ar gael rhag ofn i chi golli rheolaeth ar y tân.

- Edrychwch i ba gyfeiriad y mae'r gwynt yn chwythu i sicrhau nad oes perygl i eiddo, ffyrdd a bywyd gwyllt

-Os collwch reolaeth ar y tân cysylltwch â'r gwasanaeth tân yn syth gan roi manylion lleoliad a mynediad.

- Mae'n anghyfreithlon gadael tân heb neb yn arofalu amdano neu beidio â chael digon o bobl i'w gadw dan reolaeth. - Gwnewch yn siŵr fod y tân wedi diffodd yn llwyr cyn gadael a dychwelwch i'r fan y diwrnod canlynol er mwyn gwneud yn siŵr nad ydyw wedi ailgynnau."

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen