Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Myfyrwyr yn creu fideo diogelwch tân ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

Mae myfyrwyr sy'n cychwyn ar eu bywyd prifysgol yng Ngogledd Cymru yn cael cyngor diogelwch tân yn sgil cyfres o fideos a grëwyd gan actorion ifanc ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Comisiynwyd y criw o fyfyrwyr theatr a pherfformio gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i gynhyrchu'r ffilmiau byr, sydd wedi cael eu postio ar eu tudalen YouTube.

Mae bob un o'r fidoes diogelwch myfyrwyr yn cynnwys straeon ffuglennol wedi'u seilio ar wahanol themâu diogelwch - â phob un yn cynnwys neges ddeifiol.

Mae'r rhain yn cynnwys Miss Flame [Miss Fflam]1963, parodi o sioe sgwrsio yn cynnwys gwesteion â llosgiadau a achoswyd gan danau, a Seven Deadly Sins [Saith Pechod Marwol], ble mae ffilmiau yn canolbwyntio ar saith gweithred wahanol gan gynnwys glythineb, chwant ac ariangarwch yn atgyfnethu neges 'Ewch Allan, Arhoswch Allan' y gwasanaeth tân.

Cynhyrchodd y myfyrwyr y prosiect o ddim, gan ddyfeisio eu syniadau storïol eu hunain cyn mynd ati i sgriptio, storifyrddio ac yna eu hactio.

Yn gyfrifol am ffilmio a golygu oedd myfyriwr arall o BrifysgolGlyndŵr, Chris Mungovan, sy'n astudio cyfryngau lens creadigol.

Meddai Elen Mai Nefydd, uwch ddarlithydd mewn theatr a pherfformio: "Rydym yn gweithio gyda mudiadau allanol trwy'r amser er mwyn darparu ein myfyrwyr gyda phrosiectau bywyd go-iawn, a dyma'r prosiect diweddaraf.

"Roedd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru am i ni wneud rhywbeth ychydig yn wahanol er mwyn hyrwyddo diogelwch tân i lasfyfyrwyr, ac fe ofynnon nhw a oedden ni eisiau cyfranogi.  

"Eu bwriad gwreiddiol oedd dewis dim ond un o'r pum fideo i'w defnyddio yn eu deunydd cyhoeddusrwydd, ond roedden nhw wedi'u plesio gymaint nes iddyn nhw benderfynu defnyddio pob un.

"Roedd y prosiect yn llwyddiant diolch i waith caled y myfyrwyr, ac mae'n enghraifft arall o'r modd y gall sgiliau theatr a pherfformio fod yn fuddiol ar gyfer gymaint o wahanol senarios.

Meddai Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym wrth ein bodd o gael gweithio gyda myfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr a chafodd safon eu gwaith gryn argraff arnom ni.

"Mae'n bwysig fod myfyrwyr yn deall pwysigrwydd cadw'n saff tra'n cael hwyl - a thrwy weithio gyda Glyndŵr i greu'r fideos byr, anghyffredin yma rydym yn gobeithio y bydd ein negeseuon arbed bywyd yn llwyddo i daro'r post."

Defnyddir y pum fideo mewn cystadleuaeth Facebook Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ble anogir gwylwyr i 'hoffi' eu ffefryn, gydag un 'hoffwr' yn ennill Kindle newydd sbon.

I weld y fideos a chymryd rhan yn y gystadleuaeth, ewch i www.facebook.com/Northwalesfireservice neu fel arall ewch i www.youtube.com/nwalesfireservice.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen