Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr tân o’r Rhyl yn codi arian i elusennau

Postiwyd

Fe gyflwynodd ddiffoddwyr tân o'r Rhyl sieciau i elusennau lleol yr wythnos diwethaf ar ôl eu hymdrechion prysur i godi arian dros yr haf.  

Daeth cynrychiolwyr o Hosbis St Kentigerns, PentrePeryglon ac Elusen y Diffoddwyr Tân i Orsaf Dân y Rhyl ddydd Gwener diwethaf, Hydref 12fed, lle cyflwynwyd sieciau iddynt.

Mae Kevin Warner, Rheolwr Gwylfa ar y Wylfa Wen, yn egluro mwy: "Rydym wrth ein bodd ein bod yn cael cyflwyno'r sieciau hyn i elusennau mor haeddiannol.

"Cafodd yr arian ei godi yn ystod Diwrnod Agored a gynhaliwyd yn yr orsaf ym mis Awst ac yn ystod taith feicio noddedig a gynhaliwyd ddiwedd fis Mehefin.

"Codwyd £1000 o bunnoedd yn ystod y Diwrnod Agored a chafodd yr arian yma ei gyflwyno i Hosbis St Kentigerns.

"Yn ystod y daith feicio noddedig, lle seiclodd diffoddwyr tân o Gastell Caernarfon i Gastell Caerdydd, fe godasom £1500 o bunnoedd - cafodd yr arian ei rannu rhwng Hosbis St Kentigerns, Elusen y Diffoddwyr Tân a PentrePeryglon.

"Fe gyfrannodd Clwb Hamdden yr Orsaf Dân at y swm o arian a godwyd a hoffem ddiolch i bawb a gefnogodd y digwyddiadau hyn.  Hoffwn ddiolch hefyd i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am gefnogi ein gweithgareddau codi arian."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen