Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Technegau brawychus i gyfleu neges diogelwch y ffyrdd

Postiwyd

Defnyddiwyd delweddau brawychus a chyfweliadau fideo gyda phobl oedd wedi dioddef gwrthdrawiadau i gyfleu neges allweddol yn ystod digwyddiad diogelwch y ffyrdd a gynhaliwyd yn Airbus ddydd Mercher 10 Hydref, 2012.

 

Daeth Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, Parafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru at ei gilydd i siarad â 160 o brentisiaid Airbus am ganlyniadau goryrru, peidio gwisgo gwregys diogelwch a gyrru o dan ddylanwad cyffuriau.

 

Daeth y gwir deimlad o sut mae'n teimlo i fod yn rhan o wrthdrawiad traffig y ffordd yn amlwg i'r prentisiaid wrth iddynt wylio'r gwasanaethau brys wrth eu gwaith mewn ffug ddamwain lle bu tri phrentis ymddwyn fel teithwyr yn y car a chafodd un ei ddatgan yn 'farw' yn y lleoliad a rhoddwyd ef mewn bag corff.

 

Cafodd y teithiwr yn y sedd flaen, Fleur O'Hagan, prentis ail flwyddyn, driniaeth achub bywyd gan y parafeddygon am 'anafiadau difrifol' a'i thynnu o'r car, a oedd yn cynnwys gorfod torri to'r car i ffwrdd. Dywedodd, "Roedd yn brofiad brawychus iawn - dydw i byth eisiau bod yn y sefyllfa yna go iawn."

 

Dywedodd Ryan Taylor, prentis trydydd blwyddyn, "Da ni wedi gweld pethau eithaf difrifol yma heddiw. Mae'n eich gwneud chi'n ymwybodol o'r canlyniadau ac yn gwneud i chi feddwl ddwywaith am y ffordd yr ydych yn gyrru. Mae'n dda iawn i brentisiaid ifanc sydd newydd basio eu prawf gyrru ond bydd yn gwneud i mi feddwl am gadw pellter, ffonau symudol a defnyddio gwregys diogelwch, yn enwedig mewn tacsis lle nad yw pobl bob amser yn eu defnyddio. Mae'n wych bod Airbus yn cymryd yr amser i gynnal y mathau hyn o ddigwyddiadau.

 

Dywedodd dau brentis blwyddyn gyntaf, sy'n dysgu gyrru ar hyn o bryd, fod y digwyddiad yn un hynod o ddefnyddiol ac ychwanegodd un ohonynt: "Mae llawer iawn o wybodaeth ddefnyddiol yma. Bydd yn gwneud i mi feddwl ddwywaith cyn mynd i gar fy ffrindiau gan fod rhai'n defnyddio ffonau symudol wrth yrru."

 

Roedd y digwyddiad wedi'i anelu at bobl ifanc rhwng 17 a 25 oed sydd â'r mwyaf o risg o fod mewn damwain. Mae ystadegau'n dangos mai bechgyn yw'r rhan fwyaf o yrwyr ac mai teithwyr benywaidd yw'r rhan fwyaf sy'n cael eu lladd.

 

Dywedodd Darren Collins, yr ymgynghorydd hyfforddi prentisiaid, a drefnodd y digwyddiad: "Rydym yn falch iawn bod y gwasanaethau brys wedi gallu dod at ei gilydd i addysgu ein prentisiaid, sydd yn y grŵp oedran mwyaf agored i niwed ar ein ffyrdd. Po fwyaf y gallwn ei wneud i addysgu ein gyrwyr, y gorau yw hynny a gobeithio y bydd ein prentisiaid yn trosglwyddo'r hyn maent wedi'i ddysgu i'w ffrindiau. Mae'r ffordd hon o atgoffa pawb i wisgo gwregys diogelwch, os ydynt yn yrrwr neu'n deithiwr, i gadw at y cyfyngiadau cyflymder ac i beidio ag yfed a gyrru yn cyd-fynd â'n hymgyrchoedd Beicio Diogel, Gyrru Diogel a Pass Plus.

 

"Rydw i wedi gweithio i Airbus ers naw mlynedd, ac yn anffodus wedi gweld rhai o'n prentisiaid yn cael gwrthdrawiadau yn y cyfnod hwnnw. Fel cyflogwr, mae dyletswydd arnom i edrych ar ôl ein pobl ifanc ac i'w helpu nhw i ddod i'r gwaith yn ddiogel. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cyflwyno'r fenter hon i dros 300 o brentisiaid.

 

Mynychwyd y digwyddiad gan Ringyll Mark Jones o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru. Dywedodd: "Mae digwyddiadau diogelwch ffyrdd aml-asiantaeth wedi profi'n ffordd ragorol o gael pobl i feddwl am ganlyniadau'r ffordd maent yn gyrru a drwy weithio mewn partneriaeth, rydym am gyfleu i bobl ifanc beth yw'r peryglon o wneud pethau fel peidio â gwisgo gwregys diogelwch, gyrru'n rhy gyflym a defnyddio ffonau symudol.

 

"Heddiw, cawsom gyfle i ymgysylltu â phobl ifanc, nifer ohonynt sydd newydd basio eu profion gyrru, er mwyn eu haddysgu ymhellach am faterion diogelwch y ffyrdd.

 

Ychwanegodd: "Gobeithiwn fod yr arddangosfeydd ymarferol, ynghyd â'r cyflwyniadau gan y gwahanol asiantaethau, wedi dangos i bobl ifanc beth allai ddigwydd."

 

Meddai Dermot O' Leary sy'n Barafeddyg gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Rydw i'n gwbl gefnogol i ymdrechion yr holl asiantaethau sydd yma heddiw. Mae unrhyw gyfle i gyfathrebu â phobl fel ifanc fel hyn yn gyfle na ddylid ei golli.

 

Ychwanegodd Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru "Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn mynychu nifer fawr o wrthdrawiadau traffig y ffordd sy'n cynnwys pobl ifanc ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i addysgu pobl ifanc a lleihau nifer y damweiniau trasig sy'n digwydd ar ein ffyrdd.

 

"Rydym yn manteisio ar bob cyfle i siarad â phobl ifanc ac i'w haddysgu am ddiogelwch ar y ffyrdd. Drwy ddefnyddio arddangosfeydd gweledol a chyflwyniadau, gobeithiwn y bydd hyn wedi creu argraff ar y bobl ifanc hyn ac y bydd yn rhywbeth y byddant yn ei ystyried wrth yrru.

 

Yn ychwanegol at hynny fe drefnodd PC Mike Riley, sydd wedi'i leoli yn Airbus, i'r sefydliad Wagtail UK roi arddangosfa gydag un o'u cŵn cyffuriau. Mae Wagtail yn cydweithio â sefydliadau preifat, yr heddlu, yr asiantaethau ffiniau a thollau. Maent yn hyfforddi cŵn i ddod o hyd i gyffuriau, arian parod, ffrwydron, tybaco a chyrff.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen