Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Glanhewch eich simdde cyn ei defnyddio

Postiwyd

A hithau'n oeri, efallai eich bod wedi meddwl cynnau tân agored yn eich cartref - ond cyn gwneud hynny, cofiwch lanhau eich simdde.

Yn dilyn nifer o danau simnai yn y rhanbarth dros y dyddiau diwethaf, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am atgoffa trigolion i wneud yn siŵr bod eu simddeau yn ddiogel i'w defnyddio.

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, cafodd diffoddwyr tân eu galw i 920 o danau simdde.  Yn 2011/12 gwelsom leihad yn niferoedd y tanau hyn o gymharu â'r niferoedd y flwyddyn ganlynol - ond mae'n rhaid i bobl fod yn wyliadwrus gan fod y tanau hyn yn dueddol o gynyddu'n sylweddol yn ystod  tywydd garw.

Mae tân agored yn ffordd ddelfrydol o gadw'n gynnes dros y gaeaf, ond os nad ydych yn cynnal a chadw eich simdde yn iawn gall fod yn beryglus.  Eleni, mae mwy o bobl yn dewis llosgi glo neu bren er mwyn lleihau eu costau ynni.

Neithiwr (10fed Hydref) am 19.29 o'r gloch cafodd diffoddwyr tân o Abersoch eu galw i dân mewn simndde yn Aberdaron ger Pwllheli a chafodd criw o Landudno eu galw i ddigwyddiad tebyg ar Ffordd Bryniau am 19.55 o'r gloch - roedd y ddau dân wedi eu hachosi gan huddygl.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog preswylwyr i wneud yn siŵr bod eu simddeau yn ddiogel i'w defnyddio a'u bod yn cael eu glanhau gan lanhawr simndd cofrestredig cyn cynnau tân.

I wneud yn siŵr bod eich simndde yn barod i'w defnyddio dros fisoedd y gaeaf, dilynwch y cynghorion diogelwch canlynol gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru;

  • Defnyddiwch gard tân bob amser er mwyn atal gwreichion rhag neidio o'r tân
  • Gwnewch yn siŵr bod y colsion wedi diffodd yn llwyr cyn mynd i'r gwely
  • Cadwch simneiau a ffliwiau yn lân ac mewn cyflwr da

Mae Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân, yn egluro: "Gyda misoedd oer y gaeaf ar ein gwarthaf, bydd pobl yn dechrau cynnau tanau agored unwaith yn rhagor.  Er mwyn eich cadw chi a'ch teulu'n ddiogel rhag tân, mae'n bwysig eich bod yn glanhau eich simdde yn rheolaidd, yn dibynnu ar y math o danwydd yr ydych yn ei losgi, ac rwyf yn annog pawb i osod larymau mwg gweithredol yn eu cartrefi."

Argymhellion ar gyfer pa mor aml y dylech lanhau'ch simndde:

 

Glo di-fwg

O leiaf unwaith y flwyddyn

Pren

Hyd at bedair gwaith y flwyddyn

Glo Bitwmen

Dwywaith y flwyddyn

Olew

Unwaith y flwyddyn

Nwy

Unwaith y flwyddyn

 

Ychwanega Gareth: "Mae modd atal mwyafrif y tanau simndde.  Gall y tanau hyn achosi difrod helaeth ac maent yn angheuol ar adegau.  Drwy gymryd camau syml gallwch gadw eich teulu mor ddiogel â phosibl."

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.  Yn ystod yr archwiliad bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, yn rhannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc ac , os oes angen, yn gosod larymau mwg newydd yn eich cartref- a'r cyfan am ddim.

I gofrestru, galwch ein rhif rhadffôn 24 awr ar 0800 1691234, neu ewch i  www.gwas-gogcymru.org.uk.

I'w ryddhau ar unwaith - Dydd Iau 11eg Hydref, 2012

Glanhewch eich simdde cyn ei defnyddio

A hithau'n oeri, efallai eich bod wedi meddwl cynnau tân agored yn eich cartref - ond cyn gwneud hynny, cofiwch lanhau eich simdde.

Yn dilyn nifer o danau simnai yn y rhanbarth dros y dyddiau diwethaf, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am atgoffa trigolion i wneud yn siŵr bod eu simddeau yn ddiogel i'w defnyddio.

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, cafodd diffoddwyr tân eu galw i 920 o danau simdde.  Yn 2011/12 gwelsom leihad yn niferoedd y tanau hyn o gymharu â'r niferoedd y flwyddyn ganlynol - ond mae'n rhaid i bobl fod yn wyliadwrus gan fod y tanau hyn yn dueddol o gynyddu'n sylweddol yn ystod  tywydd garw.

Mae tân agored yn ffordd ddelfrydol o gadw'n gynnes dros y gaeaf, ond os nad ydych yn cynnal a chadw eich simdde yn iawn gall fod yn beryglus.  Eleni, mae mwy o bobl yn dewis llosgi glo neu bren er mwyn lleihau eu costau ynni.

Neithiwr (10fed Hydref) am 19.29 o'r gloch cafodd diffoddwyr tân o Abersoch eu galw i dân mewn simndde yn Aberdaron ger Pwllheli a chafodd criw o Landudno eu galw i ddigwyddiad tebyg ar Ffordd Bryniau am 19.55 o'r gloch - roedd y ddau dân wedi eu hachosi gan huddygl.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog preswylwyr i wneud yn siŵr bod eu simddeau yn ddiogel i'w defnyddio a'u bod yn cael eu glanhau gan lanhawr simndd cofrestredig cyn cynnau tân.

I wneud yn siŵr bod eich simndde yn barod i'w defnyddio dros fisoedd y gaeaf, dilynwch y cynghorion diogelwch canlynol gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru;

  • Defnyddiwch gard tân bob amser er mwyn atal gwreichion rhag neidio o'r tân
  • Gwnewch yn siŵr bod y colsion wedi diffodd yn llwyr cyn mynd i'r gwely
  • Cadwch simneiau a ffliwiau yn lân ac mewn cyflwr da

MaeGareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân, yn egluro: "Gyda misoedd oer y gaeaf ar ein gwarthaf, bydd pobl yn dechrau cynnau tanau agored unwaith yn rhagor.  Er mwyn eich cadw chi a'ch teulu'n ddiogel rhag tân, mae'n bwysig eich bod yn glanhau eich simdde yn rheolaidd, yn dibynnu ar y math o danwydd yr ydych yn ei losgi, ac rwyf yn annog pawb i osod larymau mwg gweithredol yn eu cartrefi."

Argymhellion ar gyfer pa mor aml y dylech lanhau'ch simndde:

Glo di-fwg

O leiaf unwaith y flwyddyn

Pren

Hyd at bedair gwaith y flwyddyn

Glo Bitwmen

Dwywaith y flwyddyn

Olew

Unwaith y flwyddyn

Nwy

Unwaith y flwyddyn

Ychwanega Gareth: "Mae modd atal mwyafrif y tanau simndde.  Gall y tanau hyn achosi difrod helaeth ac maent yn angheuol ar adegau.  Drwy gymryd camau syml gallwch gadw eich teulu mor ddiogel â phosibl."

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.  Yn ystod yr archwiliad bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, yn rhannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc ac , os oes angen, yn gosod larymau mwg newydd yn eich cartref- a'r cyfan am ddim.

I gofrestru, galwch ein rhif rhadffôn 24 awr ar 0800 1691234, neu ewch i  www.gwas-gogcymru.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen