Ail-lansio’r ymgyrch ‘Gwylia’r Cloc - Neu bydd fflamau toc!’ yn Wrecsam
PostiwydYn dilyn yr ymgyrch coginio diogel poblogaidd a lansiwyd yn Wrecsam ddechrau'r flwyddyn, bydd ein diffoddwyr tân yn ailymweld â archfarchnadoedd ar hyd a lled y dref er mwyn rhannu amseryddion cegin a siarad gyda siopwyr am bwysigrwydd coginio'n ddiogel.
Coginio bwyd yw prif achos dros hanner y tanau bwriadol yn y cartref yng Ngogledd Cymru - a bod y ffigwr hwn yn codi i dros 58% yn ardal Wrecsam, sydd gan y nifer uchaf o danau yn ymwneud â choginio ar gyfer pob pen o'r boblogaeth.
Mae'r ymgyrch 'Gwylia'r Cloc - Neu bydd fflamau toc!' yn dwyn i'r amlwg beryglon peidio â thalu sylw pan fyddwch yn coginio a pheryglon gadael bwyd yn coginio heb neb i ofalu amdano.
Peidiwch â gwneud cawlach o bethau yn y gegin drwy anghofio diffodd y pentan, gadael bwyd yn y ficrodon am yn rhy hir, gadel y saim yn eich sosban sglodion i orboethi, llosgi tost ac anghofio diffodd y popty. Gall y rhain arwain at anafiadau difrifol, neu, yn fwy difrifol fyth, ladd rhywun.
Fe ymwelodd diffoddwyr tân â siopau ym mis Mawrth ac Ebrill y llynedd. Yn ystod ail ran yr ymgyrch byddant yn mynd o le i le dros y misoedd nesaf i siarad gyda siopwyr am sut i gadw'n ddiogel yn y gegin a rhannu amseryddion cegin er mwyn annog pobl i gadw diogelwch mewn cof a chadw llygaid ar y cloc pan fyddant yn coginio.
Dywedodd Paul Whybro o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Cawsom ymateb gwych i'r ymgyrch 'Gwylia'r cloc - neu bydd fflamau toc!' a lansiwyd yn gynharach eleni - ac naw rydym yn cychwyn ar yr ail ran, drwy ymweld â Sainsburys, Asda, Tesco a Morrissons ar ddyddiau Gwener dros y ddau fis nesaf.
"Dro ar ôl tro rydym yn cael ein galw i danau yn y cartref sydd wedi cynnau yn y gegin - mae'n hawdd iawn anghofio bod bwyd yn coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, methu â chanolbwyntio neu wedi bod yn yfed. Gall hyn arwain at ganlyniadau trychinebus.
"Felly cymrwch sylw o'r ymgyrch, dewch draw i'n gweld yn eich archfarchnad leol- cewch amserydd cegin handi iawn a bydd cyfle i ennill hamper o fwydydd moethus drwy gymryd rhan yn ein cystadleuaeth.
"Peidiwch ag anghofio bod larymau mwg yn arbed bywydau. Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim galwch ein rhif rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234.
Dyma ein prif gynghorion ar sut i gadw'n ddiogel yn y gegin:
Os oes raid i chi adael y gegin, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres.
- Peidiwch â defnyddio matsis na thanwyr i danio poptai nwy. Mae dyfeisiadau tanio yn llawer mwy diogel.
- Gadewch yn siŵr nad yw handlenni'r sosbenni yn mynd dros ochr y pentan
- Cadwch y popty, pentan a'r gridyll yn lân - gall saim fynd ar dân yn hawdd iawn
- Peidiwch byth â sychu dim byd uwchben y popty.
- Cymrwch ofal os byddwch yn gwisgo dillad llac gan y gallant fynd ar dân yn hawdd iawn
- Pan fyddwch wedi gorffen coginio cofiwch ddiffodd popeth yn llwyr
- Diffoddwch gyfarpar trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
- Peidiwch â defnyddio sosban sglodion - defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres
- Gosodwch larymau mwg - maent ar gael yn rhad ac am ddim a gallant achub eich bywyd."
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gael i rannu cynghorion yn y mannau canlynol:
Dydd Gwener Hydref 12 - Sainsburys
Dydd Gwener Hydref 19 - Sainsburys
Dydd Gwener Hydref 26 - Asda
Dydd Gwener Tachwedd 9 - Tesco
Dydd Gwener Tachwedd 23- Morrissons
Dydd Gwener Tachwedd 30 - Asda