Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Seremoni Wobrwyo Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

 

Fe gyflwynodd Arglwydd Raglaw Gwynedd, Ei Anrhydedd Huw Morgan Daniel, Fedalau am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw yn ystod seremoni Wobrwyo a  gynhaliwyd yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl Ddydd Iau 27ain Medi.

Mae'r Medalau am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw yn cael eu cyflwyno i ddiffoddwyr tân gan un o Gynrychiolwyr Ei Mawrhydi i gydnabod 20 mlynedd o wasanaeth.

Meddai Simon Smith, Prif Swyddog Tân : "Mae derbyn medal yn achlysur pwysig iawn i bob diffoddwr tân ac mae'r seremoni hwn yn cynrychioli dros 100 mlynedd o ymroddiad ac ymrwymiad i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Dylai pob un ymfalchïo yn y ffaith eu bod wedi derbyn y Fedal am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw neu Wobr am Wasanaeth Hir. "

Fe gyflwynodd Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, y Cynghorydd Aled Morris Jones, wobr  am Wasanaeth Ffyddlon i aelod o staff sydd wedi cwblhau 20 mlynedd o wasanaeth.

Fe gyflwynwyd y gwobrau cymunedol yn ystod y seremoni yn ogystal i gydnabod aelodau staff ac aelodau'r gymuned sydd wedi gweithio'n galed i wella diogelwch cymunedol yng Ngogledd Cymru.

 

 

 

Medalau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw'r Gwasanaeth Tân

 

PETER JOHN DAVIS

 

Fe gychwynnodd Peter ar ei yrfa gyda Gwasanaeth Tân Clwyd ym  1992 fel Gweithredydd Rheoli Tân yn y Rhyl, cyn cael ei benodi'n Weithredydd Rheoli Tân Arweiniol ym 1998.

 

Y mae wedi chwarae rhan allweddol mae nifer o brosiectau pwysig dros y blynyddoedd diwethaf y cynnwys y System Rheoli Cofnodion, y Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd a rhoi'r prosiect Airwave ar waith.

 

Ar hyn o bryd mae Peter yn gweithio fel Rheolwr y System Rheoli  yn y Ganolfan Cyfathrebiadau ar y Cyd yn Llanelwy.

 

 

DEWI GLYN JONES

 

Fe ymunodd Dewi  â Gwasanaeth Tân Gwynedd ym 1990 fel diffoddwr tân yng Ngorsaf Dân Llandudno.  Wedi seibiant byr fe ailymunodd ym 1997 a chafodd ei benodi'n Rheolwr Criw yn 2005.

 

Mae Dewi yn gweithio yng Ngorsaf Dân Llandudno ar hyn o bryd.

 

 

BRYN LLOYD ROBERTS

 

Fe ymunodd Bryn â Gwasanaeth Tân Gwynedd ym 1991 fel diffoddwr tân yng Ngorsaf Dân Llanberis, a chafodd ei ddiffoddwr tân arweiniol yn 2003.

 

Mae Bryn yn Rheolwr Criw yng Ngorsaf Dân Llanberis ar hyn o bryd.

 

 

 

ANNOETHION NEVILLE WESTON

 

Fe ymunodd Neville fel diffoddwr tân gyda Gwasanaeth Tân Clwyd ym 1992 yng Ngorsaf Dân Dinbych, a chafodd ei benodi'n ddiffoddwr tân arweiniol ym 1995.

 

Mae Neville yn gweithio yng Ngorsaf Dân Abergele ar hyn o bryd.

 

 

MEURIG GLYN WILLIAMS

 

Fe gychwynnodd Meurig ar ei yrfa gyda Gwasanaeth Tân Gwynedd ym 1992 fel diffoddwr tân yng Ngorsaf Dân Benllech.

 

Mae Meurig yn parhau i wasanaethau'r gymuned yng Ngorsaf Dân Benllech.

 

 

 

 

Y WOBR AM WASANAETH FFYDDLON

 

JAMES FRANCIS HUGHES

 

Fe gychwynnodd Jim ar ei yrfa gyda Gwasanaeth Tân Gwynedd ym 1990 fel diffoddwr tân yng Ngorsaf Dân Amlwch, a chafodd ei benodi'n ddiffoddwr tân arweiniol yn 2001.

 

Cafodd yrfa hir a ffyddlon fel diffoddwr tân ac y mae bellach yn gweithio fel Swyddog Cwynion sy'n gorfodi'r ddeddfwriaeth diogelwch tân.  Mae wedi ei leoli  yn Swyddfa Sirol Ynys Môn, Llangefni.

 

GWOBRAU CYMUNEDOL

 

Cyfraniad Arbennig gan unigolyn

 

Mae'r wobr yma'n cydnabod aelod o staff sydd wedi gweithio y tu hwnt i'w ddyletswyddau arferol.

 

Mae Adam Brightman yn rhan o'r Tîm Gweithredol ac y mae'n gweithio fel Rheolwr Cefnogi Gweithrediadau yn y  Rhyl.

 

Mae Adam  wedi arwain nifer o brosiectau ar ran yr Adran Weithrediadau ac y mae'n chwarae rhan amlwg wrth drefnu'r seremoni gyflwyno Medalau am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw.

 

Mae Adam hefyd wedi chwarae rhan amlwg yn y gwaith o gyflwyno'r 21 peiriant tân newydd dros y misoedd diwethaf.  Ef oedd yn gyfrifol am gydlynu'r rhaglen ddosbarthu, yn ogystal â rhannu gwybodaeth am y peiriannau gyda'r criwiau yn y gorsafoedd.  Roedd gofyn iddo weithio oriau hir, yn aml iawn gyda'r nos ac ar benwythnosau.  

 

Yn ddiweddar, er mwyn sicrhau bod peiriant ar gael mewn un o'n gorsafoedd, fe wirfoddolodd Adam i weithio er mwyn gwneud yn siŵr bod peiriant ychwanegol ar gael i ymateb i alwadau cyn gynted â phosibl.  Roedd gofyn iddo newid ei drefniadau ar gyfer y penwythnos ar fyr rybudd gan nad oedd ef i fod i weithio'r penwythnos hwnnw.

 

Cyfraniad Arbennig i Elusen neu Elusennau

 

Cyflwynir y wobr hon i unigolyn sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol y flwyddyn i godi arian, ac sydd hefyd wedi rhoi llawer o'u hamser er lles pobl eraill.

 

Mae Keith Hulse yn Ddiffoddwr Tân yng Ngorsaf Dân y Rhyl ac y mae wedi gweithio'n galed dros y blynyddoedd i godi arian i nifer o elusennau lleol a chenedlaethol.  

 

Dros y 30 mlynedd diwethaf mae Keith wedi bod yn aelod blaenllaw o'r criw sydd yn trefnu'r Arddangosfa Tân Gwyllt flynyddol yn y Rhyl.  Mae'r digwyddiad yn denu oddeutu 7,000 o bobl o'r Rhyl ac ardaloedd cyfagos bob blwyddyn ac mae'n ein  helpu i atal pobl rhag tanio tân gwyllt yn eu gerddi cefn yn ogystal â helpu'r sefydliad i  gyflawni ei weledigaeth o sicrhau bod y cyhoedd yn mynd i nosweithiau tân gwyllt sydd wedi eu trefnu'n iawn.

 

Cyfraniad Arbennig i'r Iaith Gymraeg

 

Cyflwynir y wobr hon i unigolyn sydd wedi gweithio'n galed i hybu'r iaith Gymraeg yn y Gwasanaeth.

 

Mae Katy Welch yn Gynorthwyydd Gweinyddol y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn Sir Ddinbych ac yn frwd dros y Gymraeg.  

 

Mae Katy wedi bod yn Hyrwyddwr Iaith Gymraeg ers dechrau'r fenter ac y mae'n ymdrechu i hybu'r Gymraeg yn y gweithle.  Mae hi wedi ymrwymo i'w rôl fel Hyrwyddwr ac mae bob amser yn gwrando ar gyngor gan ddysgwr ac y mae'n barod iawn i helpu ac yn hyblyg.

 

Yn aml iawn mae hi'n mynd tu hwnt i'r gofynion drwy ymgymryd â gwaith hyfforddi ychwanegol.

 

 

Y Wobr Cyflogwr y Flwyddyn

 

Cyflwynir y wobr Cyflogwr y Flwyddyn i gydnabod cyflogwr lleol sydd yn rhyddhau staff yn rheolaidd fel y gallant gyflawni eu dyletswyddau diffodd tân yn y gymuned. Mae'r cyflogwyr hyn yn hanfodol o safbwynt sicrhau bod ein peirannau tân ar gael i ateb galwadau ar hyd a lled y Gogledd.  

 

Eleni rydym yn gwobrwyo tri chyflogwr yn y categori hwn.

 

Mae Colin Cross yn Rheolwr Criw yng Ngorsaf Dân Biwmares. Mae'n hunangyflogedig ac yn rhedeg ei fusnes argraffu ei hun.  Pan fydd Biwmares yn derbyn galwad mae Colin a'i fab yn cau'r busnes ac yn gadael eu gwaith er mwyn ateb yr alwad.  Golyga hyn bod y cwmni ar gau am gyfnod a bod yn rhaid i Colin ailafael yn y gwaith rywbryd eto.

 

Mae Ernie Bradbury yn berchen garej yn Abermaw a thros y blynyddoedd mae ef a nifer o'i deulu a'i weithwyr wedi gwasanaethu fel diffoddwr tân i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Bellach, mae nifer o'i weithwyr wedi ymddeol o'r Gwasanaeth, ond y mae Ernie yn dal i gyflogi un diffoddwr tân sydd yn barod i ymateb i alwadau i Orsaf Dân Abermaw yn ôl y galw.


Mae Abersoch Land and Sea yn gyflogwyr rhagorol sydd yn cyflogi nifer o ddiffoddwyr tân sydd wedi eu lleoli yng Ngorsaf Dân Abersoch.  Mae Abersoch Land and Sea yn caniatáu i'r unigolion hyn ymateb i argyfyngau pan fo'r amserlen yn caniatáu, yn aml iawn yn ystod adegau o'r dydd sydd fel rheol yn anodd iawn i ddod o hyd i gyflenwad staff y System Dyletswydd yn Ôl y Galw.

 

Heb gydweithrediad y cyflogwyr hyn byddai'n anodd iawn sicrhau bod y gorsafoedd ar gael i ymateb i alwadau. Os oes un aelod o'r  criw yn methu bod yn bresennol yna nid yw'r orsaf honno ar gael i ateb galwadau yn y gymuned.

 

 

Y Wobr Partner Diogelwch Cymunedol

 

Cyflwynir y Wobr Partner Diogelwch Cymunedol i gydnabod gwaith ein partneriaid a chyrff cyhoeddus sydd wedi gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i rannu ein negeseuon diogelwch hanfodol.

 

Eleni mae dau sefydliad yn derbyn y wobr.  

 

Mae'r Gwasanaeth wedi bod yn gweithio gyda Dermot O'Leary o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a Meurig Jones o Heddlu Gogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf i hybu diogelwch ffyrdd fel rhan o'r ymgyrch 'Ffrindiau Peryg Bywyd'.

 

Mae'r ymgyrch yn mynd o amgylch ysgolion a cholegau ar hyd a lled y Gogledd lle mae cynrychiolwyr o'r heddlu, ambiwlans a gwasanaeth tân ac achub yn sôn am ddiogelwch ar y ffyrdd gyda'r bobl ifanc o bersbectif y gwahanol asiantaethau. Dros y tair blynedd diwethaf mae dros 15,000 o fyfyrwyr wedi gwrando ar y cyflwyniad.

 

Mae Dermot yn Barafeddyg ac mae wedi ei leoli yn y Rhyl. Mae bob amser yn hapus i fynychu digwyddiadau yn ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd.

 

Mae Meurig yn gweithio yn yr Adran Draffig gyda Heddlu Gogledd Cymru.  Dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn gyfrifol am orfodi'r gyfraith mewn perthynas â cherbydau nwyddau trwm.  Yn ystod yr amser hwn mae wedi parhau gyda'i ymrwymiad i'r prosiect Ffrindiau Peryg gan ei fod yn credu fod y prosiect yn gwneud gwahaniaeth mawr.

 

Mae Meurig yn trafod rôl yr heddlu a'u gwaith yn dilyn gwrthdrawiad ar y ffordd,  yn ogystal â'r effaith ar y rheiny sydd yn y fan a'r lle.

 

Y Wobr Cymuned Fwyaf Diogel

 

Cyflwynir y wobr Cymuned Fwyaf Diogel i unigolyn sydd wedi  darparu gwasanaeth digyffelyb i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel aelod o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.

 

Eleni mae dau aelod o staff yn derbyn y wobr.

 

Y cyntaf yw Richard William Jones o Amlwch.

 

Fe ymunodd Richard â'r Gwasanaeth ym mis Rhagfyr 1978 ac y mae wedi treulio'i yrfa yng Ngorsaf Dân Amlwch. Ar hyn o bryd ef yw'r Rheolwr Gwylfa yn Amlwch.

 

Yr ail yw Trevor Wynne Roberts o Harlech

 

Fe ymunodd Trevor â'r Gwasanaeth ym 1979 ac y mae wedi treulio'i yrfa yng Ngorsaf Dân Harlech.  Ar hyn o bryd mae'n gweithio fel Rheolwr Criw.

 

Y Cynllun Awgrymiadau gan Staff

 

Mae'r cynllun awgrymiadau gan staff yn rhoi cyfle i staff gynnig syniadau neu fentrau newydd fel y gallwn ddarparu ein gwasanaeth mewn ffordd fwy effeithiol ac effeithlon.  Eleni rydym yn cydnabod dau o'r awgrymiadau hyn.

 

Mae Karen Nicholson yn gweithio yn yr Aran Hyfforddiant ac fe awgrymodd hi y dylid ailedrych ar y lleoliadau ar gyfer cynnal seminarau i staff drwy wneud yn fawr o safleoedd y Gwasanaeth er mwyn gwneud arbedion.

 

Mae Jodie Hamilton yn ddiffoddwr tân yng Ngorsaf Dân Wrecsam ac fe awgrymodd ef y dylid defnyddio breil ar gardiau adnabod ein staff. Mae'r fenter yn ein galluogi i ymgysylltu ag aelodau'r gymuned sydd gan nam gweledol.

 

Fe dderbyniodd y ddau siec gwerth £50 am eu hawgrymiadau.

 

Cyfraniad Arbennig gan Adran

 

Mae'r wobr yma'n cydnabod adran sydd wedi gwneud gwaith nodedig dros y deuddeng mis diwethaf.

 

Sefydlwyd y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn 2005.

 

Ers hynny mae'r tîm wedi datblygu perthynas waith ragorol a chynhyrchiol iawn gyda nifer o asiantaethau allanol, yn cynnwys Heddlu Gogledd Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion, asiantaethau ieuenctid ac elusennau i enwi dim ond ychydig.  Mae'r partneriaethau hyn yn ganolog i lwyddiant y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol a blaenoriaethau strategol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.  

 

Ers ymuno â'r tîm mae Amanda Venables, Melanie Lawton a Lynne Jones wedi ennill cymwysterau fel Swyddogion Atal Troseddau a Hwyluswyr Diogelwch Tân.

Y llynedd fe gwblhaodd Amanda a Lynne dros 200  o ymweliadau atal troseddu yn dilyn atgyfeiriadau risg uchel

Mae'r tîm wedi bod yn gyfrifol am dreialu a rhoi'r rhaglen Diwrnodau Gweithredu Amgylcheddol ar waith.  Mae'r cynllun hwn bellach yn cael ei ddefnyddio gan asiantaethau allanol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen