Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Taflu Goleuni Ar Wythnos Diogelwch Tân Trydanol

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân Ac Achub Gogledd Cymru yn ymbil pobl i fod yn ymwybodol o beryglon socedi wedi eu gorlwytho a chyfarpar sy'n gorboethi.

Wrth i Wythnos Diogelwch Tân Trydanol fynd rhagddi, mae'r Gwasanaeth yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am un o brif achosion tanau damweiniol yn y cartref ar hyd a lled y wlad.

Mae offer trydanol wedi dod yn rhan annatod o fywyd modern - yn oergelloedd a ffonau , yn dostwyr neu setiau teledu; mae'n anodd dychmygu sut y byddwn yn dygymod heb yr eitemau hanfodol hyn sy'n cael eu pweru gan drydan. A gyda'r tywydd oer diweddar, mae'n bosib y llwythwyd nifer o'r socedi â gwresogyddion a phlancedi trydan.

Meddai Gareth Griffiths, Uwch Swyddog Diogelwch Tân: "Yn aml iawn nid yw pobl yn y sylweddoli y gall trydan achosi tân, efallai gan nad oes fflam agored. Ond, er hyn, mae yna berygl - peidiwch byth â diystyru'r perygl o dân trydanol."

Dyma ychydig o gyngor ar ddiogelwch trydanol gan Gareth :

● Cadwch offer trydanol yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da ac archwiliwch hwy yn rheolaidd
● Peidiwch byth â phrynu cyfarpar trydanol heb wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel i'w ddefnyddio.
● Dylai cyfarpar newydd gael marc diogelwch Prydeinig neu Ewropeaidd arnynt.
● Peidiwch â gadael cyfarpar trydanol yn y modd segur (standby), oni bai eu bod wedi eu cynllunio i gael eu gadael ymlaen (oergelloedd a rhewgelloedd er enghraifft). Dylid diffodd pob cyfarpar arall yn y plwg, ac, yn ddelfrydol, dylid tynnu'r plwg o'r soced cyn gadael y tŷ neu fynd i'r gwely.
● Dylech sicrhau bod eich system drydanol yn cael ei harchwilio gan drydanwr cymwys cofrestredig bob 10mlynedd o leiaf.
● Sicrhewch eich bod yn defnyddio dyfais cerrynt gweddilliol (RCD) gydag offer gardd trydanol er mwyn eich diogelu rhag sioc drydanol neu gael eich trydanu.
● Peidiwch â gorlwytho socedi - defnyddiwch dim ond un plwg ym mhob soced.
- Defnyddiwch addasydd "bar" â ffiws ar wifren, yn hytrach nag addasydd "bloc".
- Peidiwch â gadael cyfanswm ampau yr holl blygiau sydd wedi eu plygio yn yr addasydd fynd yn fwy na 13 amp (neu 3000 wat o bŵer).
- Peidiwch â phlygio addasydd i addasydd arall - defnyddiwch un addasydd ym mhob soced.

Y mae Gareth hefyd yn eich cynghori i archwilio gwifrau a phlygiau am draul a gwifro gwallus, ffiwsys sy' chwythu am ddim rheswm, goleuadau'n fflachio, a marciau llosg ar socedi neu blygiau. Mae'n argymell bod trydanwr cymwys yn archwilio'r gwifrau.

Fe ychwanegodd: "Er mwyn eich diogelwch a diogelwch eich teulu, sicrhewch fod gennych o leiaf un larwm mwg ar bob llawr o'ch cartref a'u bod yn cael eu profi yn rheolaidd."

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim. Bydd aelodo'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, yn rhannu cynghorion diogelwch, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan yn rhad ac am ddim.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru - i gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, anfonwch e-bost at dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

Ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk - dilynwch ni ar Facebook a Twitter.


Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen