Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwersylla

Gwersylla

Dilynwch y canllawiau isod i gadw'n ddiogel wrth wersylla.

Yn ddelfrydol fe ddylech adael o leiaf 6 medr rhwng pob pabell.

Cadwch dortsh wrth law.

  • Peidiwch byth â thanio cannwyll neu unrhyw beth sydd â fflam noeth mewn pabell neu wrth ymyl pabell.
  • Cadwch danwyr a mastys ymhell o gyrraedd plant
  • Coginiwch y tu allan i'r babell ac ymhell o'r babell, waeth pa mor fawr ydi hi
  • Peidiwch byth â defnyddio offer coginio mewn pebyll bychan
  • Peidiwch byth â choginio ger defnyddiau fflamadwy neu laswellt hir
  • Cadwch hylifau fflamadwy a silindrau nwy ymhell o'r babell
  • Peidiwch byth ag ysmygu y tu mewn i'r babell
  • Fe all tân ddinistrio pabell mewn 60 eiliad felly lluniwch gynllun dianc a byddwch yn barod i dorri'r babell er mwyn medru mynd allan mewn achos o dân
  • Gwnewch yn siwr bod pawb yn gwybod beth i'w wneud os aiff eu dillad ar dân - stopio, disgyn a rholio i ddiffodd y fflamau. .
  • Os aiff dillad rhywun arall ar dân dywedwch wrthynt , neu gorfodwch hwy i ddisgyn a cheisiwch lethu'r fflamau gyda blanced neu ddarn mawr o ddefnydd i lonyddu'r fflamau, a dywedwch wrthynt rolio.
  • Gofynnwch beth yw'r trefniadau diogelwch tân ar  y safle
  • Os nad oes gennych chi ffôn symudol gofynnwch lle mae'r ffôn agosaf.

Am ragor o wybodaeth ar wersylla diogel cliciwch yma.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen