Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diogelwch barbeciw

Diogelwch barbeciw

Barbeciws Siarcol

Gwnewch yn siŵr bod eich barbeciw yn gweithio’n iawn.

Dylech gadw bwced o ddŵr, bwced o dywod neu bibell ddŵr gerllaw rhag ofn y bydd argyfwng.

Gwnewch yn siŵr bod safle eich barbeciw ar lawr gwastad ac yn ddigon pell o adeiladau, ffensys, coed a llwyni.  

Defnyddiwch ddigon o siarcol i orchuddio gwaelod y barbeciw yn unig, i ddyfnder o tua 50mm (dwy fodfedd).

Cadwch blant, gemau gardd ac anifeiliaid anwes i ffwrdd o’r man coginio.   

 

Barbeciws Nwy

Gwnewch yn siŵr fod y tap wedi’i ddiffodd cyn i chi newid y silindr nwy.

Newidiwch silindrau nwy yn yr awyr agored os yn bosibl neu agorwch ddrysau a’r ffenestri er mwyn cael digon o aer.

Ar ôl i chi orffen coginio, diffoddwch y silindr nwy cyn diffodd y barbeciw, er mwyn sicrhau eich bod wedi defnyddio unrhyw nwy sydd ar ôl yn y beipen.

Peidiwch â chadw silindrau nwy nad ydych eu hangen. Dychwelwch yr holl silindrau gwag i’r lle y gwnaethoch eu prynu.

Cliciwch yma i wylio'n fideo ar ddiogelwch barbeciws.

Cliciwch yma i lawrlwytho y poster barbeciws.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen