Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diogelwch Tân Gwyllt a Choelcerthi

Diogelwch Tân Gwyllt a Choelcerthi

Rydym yn eich cynghori i fynd arddangosfa wedi ei threfnu os y gallwch yn hytrach na pheryglu eich hun drwy drefnu noson dân gwyllt adref neu gynnau coelcerth yn yr ardd gefn..

Os hoffech brynu tân gwyllt i'w tanio yn eich gardd, dewch wneud hynny. Ond mae tân gwyllt yn beryglus, a dylech feddwl yn ofalus cyn gwneud hynny. Os ydych chi'n prynu tân gwyllt i'w defnyddio gartref, cofiwch ddilyn y Cod Tân Gwyllt bob amser.   

Ni ddylech danio tân gwyllt yn y parc nac unrhyw fannau awyr agored  cyhoeddus eraill. Mae hyn wedi ei wahardd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru. 

Fodd bynnag, os ydych yn bwriadu cynnau  tân gwyllt neu goelcerth adref, cadwch at y canllawiau isod:

Diogelwch Tân Gwyllt

  • Ni ddylid gwerthu tân gwyllt i unrhyw un dan 18 oed
  • Prynwch dân gwyllt gyda marc CE arnynt yn unig
  • Cadwch dân gwyllt mewn bocs metel caeedig 
  • Goruchwyliwch blant a phobl ifanc bob amser
  • Peidiwch ag yfed alcohol wrth danio tân gwyllt
  • Cadwch fflamau noeth, yn cynnwys sigarets, ymhell o dân gwyllt 
  • Darllewch a dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer pob un o'r  tân gwyllt a defnyddiwch dortsh os oes raid
  • Cyfeiriwch dân gwyllt awyrol ymhell o gyfeiriad tai a pobl ac ystyriwch goed gerllaw a chyfeiriad y gwynt 
  • Cadwch fwced o ddŵr neu bibell ddŵr gerllaw 
  • Taniwch nhw hyd braich gyda thapr
  • Peidiwch byth â mynd yn ôl at dân gwyllt -  hyd yn oed os nad ydi o wedi gweithio fe all ffrwydro 
  • Peidiwch â thanio tân gwyllt swnllyd ar ôl 11pm.

Ymhle i'w prynu

Peidiwch â cheisio arbed ceiniog neu ddwy.  Prynwch dân gwyllt o siop ddibynadwy  a gwnewch yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â'r Safonau Prydeinig. Prynwch dân gwyllt sydd â CE arnynt yn unig.

Weithiau bydd siopau yn agor dros dro cyn Noson Tân Gwyllt ac efallai nad y siopau hyn yw'r llefydd gorau i brynu tân gwyllt. Weithiau nid yw staff y siopau hyn yn gwybod llawer am ddefnyddio tân gwyllt ac efallai na fydd y tân gwyllt y maent yn ei werthu yn cydymffurfio â'r Safonau Prydeinig.

Peidiwch byth â phrynu tân gwyllt os nad ydych yn siŵr, megis o gefn fan neu stondin farchnad heb drwydded.

Beth i'w brynu

Mae sawl math gwahanol o dân gwyllt.  Mae gan y cyhoedd yr hawl i brynu a chynnau mwyafrif y tân gwyllt Categori 1 i 3.  Mae'r rhain yn cynnwys tân gwyllt y gellir eu tanio tu mewn, yn yr ardd ac yn ystod arddangosfeydd.

Darllenwch y bocs yn ofalus a gwnewch yn siŵr bod y tân gwyllt yr ydych wedi ei brynu yn addas ar gyfer eich lleoliad.

Darllenwch fwy am y gyfraith tân gwyllt yma.

Diogelwch ffyn gwreichion (sbarclers)

  • Peidiwch byth â'u rhoi i blant dan 5
  • Taniwch nhw un ar  tro a gwisgwch fenig
  • Peidiwch byth â gafael mewn baban neu blentyn os oes gennych sbarcler yn ei llaw 
  • Peidiwch byth â'u tanio mewn arddangosfeydd cyhoeddus, maent yn rhy brysur 
  • Ar ôl gorffen rhowch nhw mewn bwced o ddŵr neu dywod gan eu bod yn aros yn boeth am gyfnod hir iawn 
  • Goruchwyliwch blant bob amser
  • Peidiwch â gwisgo dillad llac 
  • Dangoswch wrth blant sut i'w defnyddio'n ddiogel - ymhell o'r corff a hyd braich 
  • Dysgwch blant i beidio'u chwifio ger plant eraill na rhedeg gyda nhw 

Mae rhagor o gyngor ar gael ar wefan ROSPA.

Coelcerthi

Gwell fyddai peidio â thanio coelcerth o gwbl - meddyliwch am y llygredd y maent yn ei achosi.  Ond os ydych yn mynnu gwneud hynny, dilynwch y cyngor isod:

  • Rhowch wybod i Ystafell Reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar  01931 522006.  Byddant yn gofyn am;
    • Eich enw a manylion cyswllt
    • Lleoliad y goelcerth
    • O ble y gellir gweld y goelcerth
    • Amser cychwyn a gorffen
  • Dylai un person fod yn gyfrifol am y goelcerth a dylid goruchwylio plant bob amser 
  • Dewiswch safle addas ymhell o dai, ffensys, siediau a llefydd lle mae plant yn chwarae 
  • Defnyddiwch ddefnyddiau sych yn unig a peidiwch â rhoi batris, aerosolau na silindrau nwy eraill ar y tân r
  • Peidiwch byth â thasgu petrol, paraffin na gwirod methyl ar y tân - mae'n fwy diogel defnyddio tanwyr hag ofn iddo fflerio
  • Cadwch fwced o ddŵr a pibell ddŵr gerllaw rhag ofn
  • Peidiwch â gwisgo dillad llac a chlymwch wallt hir yn ôl 
  • Ar ôl gorffen, taflwch ddŵr ar y tân yn hytrach na gadael iddo orffen llosgi
  • Os ydych yn colli rheolaeth ar y goelcerth, peidiwch â cheisio'i daclo'ch hun - ffoniwch 999

Llusernau papur

Mae llusernau papur hefyd yn cael eu galw'n Llusernau Tsieineaidd, Llusernau Dymuniad neu Lusernau Awyr.  Mae llusernau traddodiadol yn adnabyddus yn nhraddodiadau Tsieina a  Gwlad Tai ers canrifoedd, ond maent bellach yn cael eu defnyddio ar draws y byd i ddathlu  priodasau, penblwyddi, ac amryw o ddigwyddiadau arbennig.  

Mae'r llusernau hyn wedi eu gwneud o bapur ac mae ganddynt ffrâm fetel  sydd y dal cell danwydd solid.  Nid yw'r papur hwn bob amser wedi ei wneud o ddefnydd gwrthdan.  Maent yn amrywio o ran maint ond maent gan amlaf yn mesur 90cm wrth 80cm.  Mae'r llusernau hyn yn llosgi am gyfnodau gwahanol yn ôl gwahanol wneuthurwyr, gyda rhai yn llosgi am 6 munud ac eraill yn llosgi am hyd at 20 munud.  Mae rhai gwneuthurwr yn honni bod y llusernau'n hedfan yn yr awyr am hyd at filltir!

Tra bod yr unigolyn yn gyfrifol am danio'r llusern, nid oes ganddo unrhyw reolaeth dros y llusern wrth iddi hedfan yn yr awyr ac yna glanio.  Ni ellir gwarantu ychwaith y bydd y gell danwydd wedi diffodd yn llwyr ac oeri  erbyn i'r llusern lanio, ac o ganlyniad gall lanio ar arwyneb fflamadwy ac achosi tân.

Mae'r llusernau hyn wedi achosi tanau, gwastraffu amser yr Heddlu, cael eu camgymryd am fflerau, camarwain awyrennau a lladd anifeiliaid.

Bydd y risgiau hyn yn cynyddu wrth i lusernau Tsieineaidd gael eu defnyddio'n amlach, ac felly nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn eu cefnogi a gofynnwn yn garedig i'r cyhoedd a phobl sydd yn trefnu digwyddiadau beidio eu defnyddio.

Er bod y llusernau hyn yn boblogaidd iawn ac yn brydferth, gallant achosi difrod sylweddol.  

Cliciwch yma i weld ein poster.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen