Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cwestiynau Cyffredin

Y broses Asesu Risg Diogelwch Tân - Cwestiynau cyffredin

Beth yw asesiad risg diogelwch tân?


Mae asesiad risg diogelwch tân yn archwiliad wedi ei drefnu ar eich safle, y gweithgareddau sy'n cael eu gwneud yn eich safle, a'r tebygrwydd y gallai dân gychwyn ac achosi niwed i'r rhai tu mewn ac o gwmpas y safle.

Mae 5 cam mewn asesiad risg diogelwch tân:
1. Adnabod y peryglon tân
2. Adnabod y bobl sydd mewn perygl
3. Gwerthuso, symud neu ostwng, ac amddiffyn rhag perygl
4. Cofnodi, cynllunio, hysbysu, cyfarwyddo a hyfforddi
5. Adolygu

Oes angen asesiad risg diogelwch tân os oes gen i dystysgrif tân yn barod?

Oes, mae angen asesiad risg diogelwch tân. Pan ddaeth y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) i rym, cafodd y ddeddfwriaeth oedd yn gofyn am dystysgrif tân ei ddiddymu. Nid yw tystysgrifau tân yn cael eu rhoi nawr, ac nid oes ganddynt statws cyfreithiol.

O dan y ddeddfwriaeth bresennol, gall y wybodaeth ar y dystysgrif tân eich helpu i gynhyrchu'r asesiad tan gofynnol.

Oes angen asesiad risg diogelwch tân ar fy safle i?

Mae'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i bob safle annomestig yn Lloegr a Chymru, gan gynnwys rhannau cyffredin mewn blociau o fflatiau a chartrefi amlbreswyliaeth.

Nid yw'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i:-
- Adeiladau domestig
- Gosodiadau alltraeth
- Llong (Pan o dan gyfarwyddiad y capten)
- Caeau, coedwigoedd neu unrhyw dir arall sy'n llunio rhan o fusnes amaethyddol neu goedwigaeth
- Awyren, locomotif neu stoc rholio, trelar neu hanner trelar sy'n cael ei ddefnyddio fel trafnidiaeth neu gerbyd lle mae trwydded mewn grym o dan y Ddeddf Cofrestru Cerbydau 1994.
- Pwll glo
- Twll turio
Mae pob safle sy'n dod o dan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) angen asesiad risg diogelwch tân.

Pwy ddylai wneud yr asesiad risg diogelwch tân?

Mae'r Gorchymyn Rheoleiddio Diwygio (Diogelwch Tân) 2005 yn caniatáu i unrhyw berson cymwys wneud asesiad risg diogelwch tan. Am adeiladau syml, bach, mae hyn yn caniatáu i berson cyfrifol gydag ychydig o hyfforddiant ffurfiol neu brofiad gallu gwneud asesiad trwy ddilyn y canllaw sy'n benodol i'w math nhw o adeilad.

Bydd angen asesu adeiladau mwy cymhleth gan berson sydd wedi cael hyfforddiant neu brofiad cynhwysfawr mewn asesiadau risg tân. Mae nifer o sefydliadau sy'n barod i ymgymryd ag asesiadau risg diogelwch tân, gyda'r manylion ar gael yn y llyfr ffôn busnes neu ar y rhyngrwyd. Os yw unigolyn neu gwmni allanol yn cael ei ddefnyddio i wneud yr asesiad, mae'r cyfrifoldeb am yr asesiad yn parhau gyda'r person cyfrifol, ddylai sicrhau ei bod wedi eu bodloni fod cymhwysedd yr unigolyn yn ddigonol.

Mae rhagor o wybodaeth ar ddewis asesydd ar gael yn yr adran 'Dewis Asesydd Risg'.

Pan fydda i wedi gwneud yr asesiad risg diogelwch tân, oes angen i mi ei gofnodi?

Rhaid cofnodi darganfyddiadau arwyddocaol yr asesiad risg diogelwch tân pan fydd:-
1. Pump neu fwy o weithwyr yn cael eu cyflogi
2. Mae trwydded o dan ddeddfiad mewn grym mewn perthynas â'r safle - enghraifft fyddai Trwydded Annedd o dan Ddeddf Trwyddedu 2003
3. Rhybudd eilededd o dan y Gorchymyn Rheoleiddio Diwygio (Diogelwch Tân) 2005

Fodd bynnag, byddai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn argymell fod gwybodaeth yn cael ei gofnodi ar gyfer pob asesiad risg tân fel mater o arfer da.

Pa mor aml ddylwn i adolygu'r asesiad risg diogelwch tân?

Rhaid adolygu'r asesiad risg diogelwch tân yn rheolaidd er mwyn ei gadw'n gyfredol. Bydd angen ei ail-archwilio os amheuir nad yw'n ddilys bellach neu os oes newid arwyddocaol.

Byddai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn argymell adolygu'r asesiad bob 12 mis fel arfer da.

Oes angen i'r asesiad risg diogelwch tân fod ar gael i unrhyw un?

Rhaid i'r person cyfrifol roi gwybodaeth gynhwysfawr a pherthnasol ar y risgiau sy'n cael eu henwi yn yr asesiad risg.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen