Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Broses Asesu Risg

Y Broses Asesu Risg

Asesiad Risgiau - Trosolwg

RHAN 2 - DYLETSWYDDAU DIOGELWCH TÂN  - Asesiad Risgiau - Mae Erthygl 9 paragraff (1) o'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn datgan:-

'Rhaid i'r person cyfrifol wneud asesiad addas a digonol o'r risgiau y mae personau perthnasol yn agored iddynt, a hynny i ddiben adnabod y rhagofalon tân cyffredinol y mae angen eu cymryd er mwyn cydymffurfio â gofynion a gwaharddiadau a roddir arno gan neu dan y Gorchymyn hwn'

Yna, mae Erthygl 9 paragraff (6) yn mynd yn ei flaen i ddweud:-

'Cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi gwneud neu adolygu'r asesiad, rhaid i'r person cyfrifol gofnodi'r wybodaeth a ragnodir gan baragraff (7) -

(a) lle bo'n cyflogi pum neu ragor o weithwyr;
(b) lle bo trwydded dan ddeddfiad mewn grym mewn perthynas â'r safle; neu
(c) lle bo hysbysiad addasiadau mewn grym sy'n gwneud hyn yn ofynnol mewn perthynas â'r safle.

(7) Yr wybodaeth ragnodedig yw -

(a) canfyddiadau arwyddocaol yr asesiad, gan gynnwys y mesurau a gymerwyd neu a gymerir gan y person cyfrifol yn unol â'r Gorchymyn hwn; ac
(b) unrhyw grŵp o bobl a nodwyd gan yr asesiad fel rhai sydd mewn perygl yn arbennig.'

Mae'r gofynion uchod yn rhwymedigaethau cyfreithiol a roddir ar y 'person cyfrifol' a ddiffinnir yn Erthygl 3 o'r Gorchymyn fel:-
Yn y Gorchymyn hwn "person cyfrifol" yw -- 
(a) mewn perthynas â gweithle, y cyflogwr, os yw'r gweithle dan ei reolaeth i unrhyw raddau; 
(b) mewn perthynas ag unrhyw safle nad yw'n dod o fewn paragraff (a) -- 
(i) y person sydd â rheolaeth o'r safle (fel meddiannydd neu fel arall) mewn cysylltiad â chynnal masnach, busnes neu fenter arall (er elw neu beidio) ganddo; neu
(ii) y perchennog, lle mae'r person sydd â rheolaeth o'r safle heb fod mewn cysylltiad â chyflawni masnach, busnes neu fenter arall gan y person hwnnw.

Dan y Gorchymyn, gall unrhyw un sydd â rheolaeth o safle, neu unrhyw un sydd â rhyw raddau o reolaeth dros rannau neu systemau, fod yn 'berson cyfrifol'. Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd angen i Lys Barn gadarnhau cymhwysedd.

Sut byddwch chi'n cwrdd â'r Gorchymyn?

Os mai chi yw'r 'person cyfrifol', rhaid ichi wneud asesiad risgiau tân (fel sydd yn Erthygl 9 uchod). Gallwch roi'r dasg yma i rywun cymwys arall i'w gwneud, ond chi yn bersonol fydd yn gyfrifol dan y gyfraith am gwrdd â gofynion cyfreithiol y Gorchymyn.

Cyfrioldeb y 'person cyfrifol' yw sicrhau, cyhyd ag y bo hynny'n rhesymol yn ymarferol, fod pawb ar y safle, neu gerllaw, yn gallu dianc yn ddiogel os bydd tân.

Mae'r gofyniad hwn yn wahanol i ddeddfwriaeth flaenorol yn yr ystyr fod yn rhaid bellach rhoi ystyriaeth i bob person a allai fod ar y safle (e.e. gweithwyr, ymwelwyr, aelodau o'r cyhoedd). Rhaid rhoi sylw arbennig i bobl a allai fod ag anabledd neu unrhyw un y gallai bod angen cymorth arbennig arnynt. Hefyd, mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i'r 'person cyfrifol' reoli unrhyw risg tân ar eu safle.

Nid yw Awdurdodau Tân yn rhoi tystysgrifau tân erbyn hyn, ac ni fydd statws cyfreithiol gan unrhyw rai a roddwyd o'r blaen. Ond, fe allai tystysgrifau sydd gennych fod yn ddechrau da ar gyfer gwneud yr asesiad risgiau tân.

Os yw eich safle wedi cael ei gynllunio a'i adeiladu yn ôl rheoliadau adeiladau cyfoes (ac yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r rheoliadau hynny), dylai'r rhagofalon tân strwythurol fod yn dderbyniol. Fodd bynnag, bydd disgwyl ichi wneud asesiad risgiau tân a gofalu bod yr holl ragofalon tân a'r drefn cynnal a chadw yn cael eu dilyn.

Y Pum Cam i Asesu Risgiau

Dylai asesiad risgiau tân fod yn gymorth i adnabod yr holl beryglon tân ar eich safle. Bydd angen ichi benderfynu a ydi'r risgiau yma yn dderbyniol, ynteu a oes angen cymryd camau ychwanegol i leihau neu reoli'r risgiau yma.

Mae pum cam yn rhan o'r broses asesu risgiau:-

Cam 1 - Adnabod y peryglon

- adnabod ffynonellau cynnau tân, ffynonellau tanwydd a ffynonellau ocsigen

Cam 2 - Adnabod pobl sydd mewn perygl

- adnabod pobl sydd ar safle a'r cyffiniau, a phobl sydd mewn perygl yn benodol

Cam 3 - Gwerthuso, symud neu leihau, a gwarchod rhag perygl

- pwyso a mesur beth yw'r risg o dân, pwyso a mesur y risg i bobl, symud neu leihau'r risg i bobl rhag tân trwy ddarparu rhagofalon tân

Cam 4 - Cofnodi, cynllunio, goleuo, cyfarwyddo, a hyfforddi

- cofnodi unrhyw ganfyddiadau mawr a chamau a gymerwyd gennych, trafod a gweithio gyda phobl gyfrifol, paratoi cynllun argyfwng, goleuo a chyfarwyddo pobl berthnasol a darparu hyfforddiant

Cam 5 - Adolygiad

- Adolygu'ch asesiad risgiau tân yn rheolaidd, a gwneud newidiadau lle bo hynny'n briodol

Mae rhagor o wybodaeth am wneud asesiad risgiau ar gael ar wefan Y  Llywodraeth.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen