Pryd wnaethoch chi wirio eich larwm mwg ddiwethaf?
Eich cadw'n ddiogel yn eich cartref yw ein blaenoriaeth
Wrth gofio nad yw coronafirws wedi diflannu, rydym yn ymdrechu i barhau i gyflawni ein gweithgareddau craidd - mae hyn yn cynnwys darparu cyngor ac ymyriadau diogelwch yn y cartref yn ein cymunedau.
Fodd bynnag, rydym wedi newid y modd yr ydym yn cynnal archwiliadau diogel ac iach. Rydym wedi addasu’n cyngor a byddwn yn siarad â pherchnogion tai dros y ffôn yn gyntaf, er mwyn lleihau faint o amser a dreuliwn yn ystod ymweliadau yn y cartref.
Yn ystod yr alwad ffôn byddwn yn asesu’r risgiau yn eich cartref trwy ofyn i chi ateb cwestiynau. Fel rhan o’r asesiad byddwn yn holi a oes gennych chi larymau mwg yn eich cartref. Os oes angen gosod larwm mwg yn eich cartref byddwn yn gofyn i chi eu gosod eich hun, neu gyda help aelod o’r teulu, ffrind neu ofalwr. Mae hyn er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r haint rhwng y preswylydd, eich teulu a’n staff. Byddwn yn postio’r larymau mwg atoch am ddim.
Os na allwch osod y larymau mwg eich hun neu os nad oes gennych chi deulu neu ofalwr i’ch helpu dan amgylchiadau cyfyngedig fe allwn ni eu gosod i chi,. Bydd ein staff yn gwisgo offer gwarchod personol ac yn gofyn i chi gadw’ch pellter trwy fynd i ystafell arall wrth i’r larymau gael eu gosod.
Cyn i ni ymweld â chi i osod y larymau bydd ein staff yn gofyn i chi ateb cwestiynau sgrinio rhag COVID-19. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr nad oes unrhyw un yn yr eiddo â symptomau neu’n hunan-ynysu ar ôl bod dramor neu ar ôl dod i gysylltiad gyda rhywun a oedd yn arddangos symptomau COVID-19. Mae hyn er mwyn cydymffurfio gyda’r protocolau Profi, Olrhain, Diogelu.
Mae archwiliadau diogel ac iach ar gal yn rhad ac AM DDIM, a'r cyfan sydd angen ei wneud yw:
- Llenwi'r ffurflen ar-lein
- Ein ffonio ni ar 0800 169 1234 rhwng 9am-5pm o Ddydd Llun i Dydd Gwener
- Anfon e-bost atom drwy ddefnyddio y bocs ar y dde
Gallai gweithredu heddiw olygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw.
Dywedodd Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Rydym wedi gweld y dinistr y gall tanau ei achosi ac rydym yn gwybod y gallai ychydig o gamau syml fod wedi atal nifer o drasiedïau. Peidiwch â gadael i drasiedi daro'ch teulu chi - rhwystrwch y tân rhag cychwyn yn y lle cyntaf."