Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Adroddiad Blynyddol a Chylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau

PWRPAS YR ADRODDIAD

Cyflwyno adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau i’r Awdurdod Tân ac Achub fel sy’n ofynnol dan y gyfraith; a gofyn i’r Aelodau gymeradwyo cylch gorchwyl diwygiedig yr Aelodau.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Fel mater o lywodraeth gorfforaethol dda mae’r Pwyllgor Safonau yn darparu adroddiad blynyddol i’r Awdurdod Tân ac Achub am ei weithgarwch yn ystod pob blwyddyn ariannol.

Felly, mae pymthegfed adroddiad blynyddol y Pwyllgor wedi cael ei atodi er mwyn i’r Aelodau ei ystyried.

ARGYMHELLION

Bod yr Aelodau’n gwneud y canlynol:

(i)            nodi adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2019/20;

(ii)           cymeradwyo cylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Pwyllgor Safonau;

(iii)          cofnodi diolch yr Awdurdod i Antony P Young am fod yn aelod o’r Pwyllgor am wyth mlynedd, a gofyn i’r Cadeirydd ysgrifennu llythyr i ddiolch iddo;

(iv)         penodi aelodau etholedig newydd i’r Pwyllgor Safonau;

(v)          cadarnhau cyfnod swydd Gill Murgatroyd, sef 4 blynedd o 1 Medi 2019 ymlaen.

GWYBODAETH

Yn hanesyddol, mae gwefan yr Awdurdod yn dweud “na all y cynrychiolwyr sydd o blith yr Awdurdod Tân ac Achub fod yn rhai sydd â swydd ar yr Awdurdod.” Ni wyddom beth yw tarddiad y penderfyniad hwn, ac nid yw wedi dod o ddeddfwriaeth. Nid oedd y Cyng. D Rees yn dal swydd pan gafodd ei ethol i’r Pwyllgor, ond ers hynny mae wedi dod yn is-gadeirydd i’r Awdurdod.

Bu aelodau’r Pwyllgor yn trafod y mater ac ystyriwyd nad oedd cael rhywun sy’n dal swydd ar yr ATA i fod yn aelod o’r Pwyllgor yn broblem mewn gwirionedd ond gallai’r canfyddiad fod yn wahanol. Felly, penderfynwyd gofyn fod aelod newydd, sydd heb fod yn dal swydd, yn cael ei benodi i’r Pwyllgor.

Nid oedd y penderfyniad i benodi Gill Murgatroyd yn Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau yn cynnwys cyfnod ei swydd. 4 blynedd oedd cyfnod swydd Aelod Annibynnol a benodwyd yr un pryd, a dylai’r ddau gyfnod fod yn gyson.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen