Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cynllun Cydraddoldeb Strategol: Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011

PWRPAS YR ADRODDIAD

Ceisio cael cymeradwyaeth yr Aelodau i’r trydydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol er mwyn ymateb i ofynion Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol wedi cael ei ddatblygu er mwyn i’r Awdurdod allu nodi sut bydd yn cyflawni ei ymrwymiad i gydraddoldeb a sut bydd yn cyflawni’r rhwymedigaethau cyfreithiol sydd arno yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Rhaid i’r Awdurdod Tân ac Achub (yr Awdurdod) gyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol ag amcanion cydraddoldeb bob pedair blynedd. Rhaid adrodd ynghylch cynnydd y cynllun i’r Awdurdod Tân bob blwyddyn, ynghyd ag ystadegau cyflogaeth am y flwyddyn flaenorol.

ARGYMHELLION

Bod yr Aelodau’n:

  • nodi cynnwys yr adroddiad;
  • cymeradwyo’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol i’w gyhoeddi.

CEFNDIR

Mae’r Ddeddf yn gosod Dyletswydd Gyffredinol ar gyrff cyhoeddus rhestredig sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt dalu sylw dyledus i’r canlynol wrth gyflawni eu swyddogaethau:

  • dileu gwahaniaethu, aflonyddu, fictimeiddio ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi ei wahardd gan y Ddeddf neu odani
  • hybu cyfle cyfartal rhwng personau sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu
  • meithrin perthynas dda rhwng personau sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu.

Daeth Deddf Cydraddoldeb 2010 i rym yn Hydref 2010. Roedd y Ddeddf yn disodli dyletswyddau cydraddoldeb ar wahân a oedd yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail hil, rhywedd ac anabledd yn Neddf Cysylltiadau Hiliol 1976, Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975 a Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ymestyn sylw’r Ddyletswydd i’r nodweddion gwarchodedig eraill sef oedran, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, beichiogrwydd a mamolaeth ac ailbennu rhywedd.

Yn Ebrill 2011, fe wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru arfer ei phwerau i gyflwyno Dyletswyddau Penodol a oedd wedi’u cynllunio i gynorthwyo â thryloywder ac i alluogi awdurdod cyhoeddus yng Nghymru i gyflawni’r Ddyletswydd Gyffredinol. Nodir y rhain yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.

Caiff cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth ei rheoleiddio gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC). Rôl y Comisiwn dan y gyfraith yw amddiffyn, gorfodi a hyrwyddo cydraddoldeb. Caiff y rôl ei chyflawni drwy ddarparu arweiniad, a gwaith rheoleiddio a gorfodi.

SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO

Nid yw’r adroddiad hwn wedi cael ei ystyried o’r blaen.

GWYBODAETH

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi ein hymrwymiad parhaus i sicrhau parch a tegwch i drigolion, aelodau etholedig, aelodau o staff a’r holl ymwelwyr ag ardal Gogledd Cymru.

Mae’r Ddyletswydd Benodol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru lunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy’n nodi amcanion cydraddoldeb sy’n gyson â’r rheoliadau. Rhaid i’r cynllun adolygu ei amcanion cydraddoldeb, cyn diwedd y cyfnod o bedair blynedd fan bellaf.

Mae’r rheoliadau’n cynnwys gofynion ar gyfer:

  • sicrhau bod deunyddiau cyhoeddedig ar gael yn rhwydd;
  • asesu effaith polisïau ac arferion perthnasol;
  • hyfforddiant a chasglu gwybodaeth am gyflogaeth;
  • hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Ddeddf ymysg ei weithwyr;
  • y darpariaethau ymgysylltu a chynnwys ar gyfer grwpiau nodweddion gwarchodedig;
  • mynd i’r afael â gwahaniaethau annheg rhwng cyflogau;
  • adolygu’r cynnydd a wnaed ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’r amcanion cydraddoldeb cysylltiedig;
  • darpariaethau ynghylch arferion caffael.

Mae cynllun drafft y Gwasanaeth yn amlinellu’r amcanion cydraddoldeb allweddol a ganfuwyd gan ein rhanddeiliaid, ac mae wedi ei ddylunio i adeiladau ar y llwyddiannau yn ein Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol blaenorol yn ogystal â bodloni’r dyletswyddau cyfreithiol newydd.

Hefyd, mae cynnwys yr amcanion gwella wedi eu cysoni â:

  • gofynion Dyletswydd Cydraddoldeb Gyffredinol y Sector Cyhoeddus, a’r Rheoliadau Penodol 2011 (Cymru);
  • amcanion gwella a lles Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru;
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant

Mae gan y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn gysylltiad â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, sy’n ceiso sicrhau Cymru fwy cyfartal.

Cyllideb

Dim goblygiadau sylweddol I’r gyllideb ar hyn o bryd.

Cyfreithiol

Mae’r holl ddeddfwriaeth berthnasol wedi cael ei hystyried er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.

Staffio

Ni wyddom am effaith ar lefelau staffio.

 

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg

Mae’r holl nodweddion gwarchodedig wedi cael eu hystyried pan ysgrifennwyd y cynllun ac wrth ddatblygu’r Amcanion Cydraddoldeb ar gyfer 2020-2024.

Risgiau

Drwy gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, bydd hynny’n lleihau’r risgiau o beidio â chydymffurfio.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen