Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cynllun Gwella a Llesiant 2020/21

PWRPAS YR ADRODDIAD

Cyflwyno’r Cynllun Gwella a Llesiant 2020/21 i’w gymeradwyo.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Rhaid i’r Awdurdod Tân ac Achub (yr Awdurdod) gyhoeddi amcanion gwella a llesiant a bod wedi cynnwys y cyhoedd a rhanddeiliaid erail yn y broses o ddatblygu’r amcanion hynny.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno, er mwyn cael cymeradwyaeth yr Aelodau, y cynllun gwella a llesiant draft terfynol ar gyfer 2020/21. Mae’r amcanion sydd yn y cynllun wedi cael eu diwygio a’u helaethu yn dilyn adborth gan Gomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

ARGYMHELLION

Bod yr Aelodau’n cymeradwyo’r draft terfynol o’r Cynllun Gwella a Llesiant ar gyfer 2020/21, i’w gyhoeddi ar wefan yr Awdurdod cyn diwedd mis Mawrth 2020.

SYLWADAU GAN Y PANEL GWEITHREDOL

Mae’r gyfres ddiwygiedig a helaethach o amcanion gwella a llesiant wedi cael eu hystyried o’r blaen gan y Panel Gweithredol.

CEFNDIR

Rhaid i’r Awdurdod gyhoeddi amcanion gwella blynyddol yn unol â Mesur Llywodraeth Leol 2009, ac amcanion llesiant yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Ar gyfer prosesau cynllunio’r Awdurdod, mae’r rhain yn cael eu trin fel petaent yr un rhai, yn yr ystyr fod amcanion gwella mwy byrdymor yn gallu bod yn gamau hefyd tuag at gyflawni amcanion llesiant mwy hirdymor.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i’r Awdurdod wella ei wasanaethau yn y tymor byr ac ystyried llesiant cenedlaethau o bobl yn yr ardal yn y tymor hir. Rhaid i’r amcanion llesiant a fabwysiadwyd ganddo gyfrannu at gyflawni nodau llesiant Cymru, a rhaid i’r Awdurdod fod yn gallu dangos ei fod yn cymryd pob cam rhesymol (wrth gyflawni ei swyddogaethau) i gyflawni ei amcanion.

Swyddogaeth Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yw hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gweithredu fel gwarchodwr er lles cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, a chefnogi’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf I weithio tuat at gyflawni’r nodau llesiant. Gall y Comisiynydd wneud argymhellion i gorff cyhoeddus ynghylch y camau y mae wedi eu cymryd neu y mae’n cynnig eu cymryd i osod, ac yna i gyflawni, ei amcanion llesiant. Rhaid i gyrff cyhoeddus gymryd pob cam rhesymol i ddilyn yr argymhellion a wnaed gan y Comisiynydd.

Dyma amcanion hirdymor cyfredol yr Awdurdod:

cefnogi pobl i atal tanau damweiniol mewn cartrefi ac i aros yn ddiogel os bydd tanau o’r fath yn digwydd; a

hwyluso gwasanaethau tân ac achub sydd o ansawdd uchel, yn ymatebol ac wedi’u hintegreiddio’n well fel y gall gweithgareddau ataliol ac ymateb brys barhau i fod ar gael pan a ble mae eu hangen, a hynny’n fforddiadwy, yn deg ac ar sail risg.

GWYBODAETH

Mae adborth a gafwyd yn ddiweddar gan Gomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn awgrymu bod angen i’r Awdurdod gynyddu nifer yr amcanion y mae’n mynd ynglŷn â nhw. Mae hyn yn seiliedig ar ddehongliad o Adran 3(2)(a) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, sef bod rhaid i gorff cyhoeddus osod a chyhoeddi amcanion “…sy’n cael eu cynllunio i sicrhau ei fod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd pob un o’r nodau llesiant”.

Bydd yr Aelodau’n cofio mai nodau llesiant Cymru yw sicrhau: Cymru lewyrchus; Cymru gydnerth; Cymru iachach; Cymru fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus; Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu; a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae’r Cynllun Gwella a Llesiant drafft sydd wedi’i atodi yn cynnwys cyfres ddiwygiedig a helaethach o amcanion sydd wedi ystyried adborth y Comisiynydd a hefyd wedi ystyried sut i wella’r gwaith o adrodd ynghylch y nodau llesiant ac o bosibl ynghylch y Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant

Mae’n cynyddu nifer yr amcanion unigol y mae’r Awdurdod yn eu cyflawni. Goblygiad uniongyrchol i’r gwaith o gytuno ar y camau tuag at amcanion llesiant tymor hir yr Awdurdod.

Cyllideb

Mae cysylltiad clir rhwng cynlluniau’r Awdurdod ar gyfer 2020/21 a lefel yr adnoddau ariannol sydd ar gael. Rhaid i’r gyllideb ar gyfer 2020/21 gael ei chadarnhau erbyn canol Chwefror 2020.

Cyfreithiol

Mae’n gymorth i gydymffurfio â deddfwriaeth llesiant a chynllunio gwelliannau.

Staffio

Ni wyddom am unrhyw effaith ar y lefelau staffio.

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg

Bydd effaith camau penodol ar yr agweddau hyn yn cael ei hasesu ar yr adeg briodol wrth eu datblygu.

Risgiau

Mae’n lleihau’r risgiau o beidio â chydymffurfio â’r gyfraith, ac o beidio â chyllidebu a chynllunio’n briodol.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen