Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cynllun Gwella a Llesiant 2020/21

Pwrpas yr Adroddiad

Rhoi gwybod i’r Aelodau am hynt ymgynghoriad cyhoeddus yr Awdurdod, a chynnig diwygio’r amcanion gwella a llesiant fel rhan o’r broses o greu’r Cynllun Gwella a Llesiant nesaf.

Crynodeb Gweithredol

Rhaid i’r Awdurdod Tân ac Achub (yr Awdurdod) gyhoeddi amcanion gwella a llesiant, a rhaid iddo fod wedi cynnwys y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill yn y broses o ddatblygu’r amcanion hynny.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cip ar hynt ymgynghoriad cyhoeddus yr Awdurdod sy’n mynd yn ei flaen, ac mae’n cynnig bod yr Awdurdod, yn dilyn adborth a gafwyd gan Gomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn manteisio ar y cyfle i ddiwygio a helaethu ei amcanion hirdymor ar gyfer 2020/21 ac ymlaen.

Argymhellion 

Bod yr Aelodau’n:

  • nodi hynt ymgynghoriad cyhoeddus yr Awdurdod sy’n mynd yn ei flaen, gan geisio cael barn am y gwaith o ddatblygu a mabwysiadu strategaeth amgylcheddol; a
  • cymeradwyo’r cynnig fod Swyddogion yn llunio cyfres helaethach o amcanion gwella a llesiant i’w hystyried, yn y lle cyntaf, gan y Panel Gweithredol ac yna gan yr Awdurdod llawn yn ei gyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2020.

Sylwadau’r Panel Gweithredol/Pwyllgor Archwilio

Yn ei gyfarfod ar 13 Mai 2019, bu’r Panel Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o’r cynnydd a wnaed gan y Gweithgor Cynllunio wrth ddatblygu amcanion gwella a llesiant yr Awdurdod ar gyfer 2020/21. Yn y cyfarfod hwnnw, penderfynodd y panel argymell i’r Awdurdod llawn y dylai ymgynghori ynghylch datblygu strategaeth amgylcheddol i’w mabwysiadu o Ebrill 2020 ymlaen. Yn ei gyfarfod ar 21 Hydref 2019, penderfynodd y Panel Gweithredol y byddai hefyd yn argymell adolygu’r modd y mae’r Awdurdod yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  

Cefndir 

Rhaid i’r awdurdodau tân ac achub yng Nghymru gyhoeddi amcanion gwella yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, ynghyd ag amcanion llesiant yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. At ddibenion prosesau cynllunio’r Awdurdod, mae’r rhain yn cael eu trin fel un peth yn yr ystyr fod amcanion gwella byrdymor yn gallu bod hefyd yn gamau tuag at gyfalawni amcanion llesiant hirdymor.

Dan y gyfraith, rhaid i’r Awdurdod ymdrechu i wella ei wasanaethau yn y tymor byr ac ystyried llesiant cenedlaethau o bobl yn yr ardal yn y dyfodol. Rhaid i’r amcanion llesiant y mae’n eu mabwysiadu gyfrannu at gyflawni nodau llesiant Cymru, a rhaid i’r Awdurdod allu dangos ei fod yn cymryd pob cam rhesymol (wrth gyflawni ei swyddogaethau) i gyflawni ei amcanion.

Dyma amcanion hirdymor presennol yr Awdurdod:

  • efnogi pobl i atal tanau damweiniol mewn cartrefi ac i aros yn ddiogel os bydd tanau o’r fath yn digwydd; a
  • hwyluso gwasanaethau tân ac achub sydd o ansawdd uchel, yn ymatebol ac wedi’u hintegreiddio’n well fel bod gweithgareddau ataliol ac ymateb brys yn parhau i fod ar gael pryd a lle mae eu hangen, a hynny’n fforddiadwy, yn deg ac ar sail risg.

Rhaid i’r Awdurdod gynnwys pobl eraill yn y broses o ddatblygu a gosod ei amcanion, a rhaid iddo adrodd ynghylch y cynnydd wrth eu cyflawni.

Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd o’r Gweithgor Cynllunio yn 2019, bu’r Aelodau’n ystyried amcanion yr Awdurdod, ac yna penderfynodd yr Awdurdod ymgynghori’n gyhoeddus ynghylch y gwaith o ddatblygu a mabwysiadu strategaeth amgylcheddol.

Fel rhan o drafodaethau’r Gweithgor Cynllunio, bu’r Aelodau’n ystyried effaith newid yn yr hinsawdd a thywydd eithafol ar y Gwasanaeth, ynghyd â’r budd o ddatblygu strategaeth amgylcheddol, yn cynnwys, er enghraifft:

  • cynllunio adnoddau i ddelio ag eithafion gweithgareddau’n ymwneud â’r tywydd, megis llifogydd eang a mwy o danau ar laswelltir;
  • addysgu’r cyhoedd a chydweithio i leihau effaith digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r tywydd ar gymunedau lleol;
  • monitro a rheoli’r modd mae’r Gwasanaeth ei hun yn defnyddio ynni a thanwydd ac yn rheoli gwastraff;
  • diwygio polisïau caffael a threfniadau cyfrifyddu;
  • gwneud cyfraniadau cadarnhaol tuag at fioamrywiaeth.

Mae sawl blwyddyn ers iddynt fabwysiadu’r datganiadau amgylcheddol a pholisi ynni, felly roedd yr Aelodau’n cydnabod y byddai’n briodol rhoi bywyd newydd yn y gwaith hwn drwy ddatblygu strategaeth amgylcheddol newydd ar gyfer yr Awdurdod i fynd i’r afael yn fwy amlwg â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, yn ogystal â’r gwaith sy’n cael ei ddatblygu drwy’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngogledd Cymru.

Gwybodaeth

Ymgynghoriad Cyhoeddus 2019

Mae’r ymgynghoriad yn parhau i geisio barn gan y cyhoedd a rhanddeiliaid ynglŷn â’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu strategaeth amgylcheddol. Mae’n cynnwys amrywiaeth o ddeunyddiau ymgysylltu, sy’n cynnwys:

  • dogfen wybodaeth esboniadol; a
  • holiadur ar-lein, gyda’r dewis o gyflwyno ymatebion ysgrifenedig petai hynny’n well gan bobl.

Mae’r dulliau cyfathrebu wedi cynnwys:

  • datganiad i’r wasg, gyda dolen i’r ddogfen ymgynghori a gwybodaeth ynglŷn â chymryd rhan;
  • llythyrau at randdeiliaid, gyda chopi o’r ddogfen ymgynghori a gwybodaeth ynglŷn â chymryd rhan;
  • negeseuon ategol ar y cyfryngau cymdeithasol i gyfeirio pobl at yr ymgynghoriad, gan gynnal yr ymwybyddiaeth drwy fideo byr a thynnu sylw at y dyddiad cau; ac
  • erthyglau a nodiadau atgoffa mewn cyhoeddiadau i’r staff.

Mae’r swyddogion wedi cwrdd â chynrychioliwyr o nifer o gynghorau sir a chynghorau tref a chymuned i esbonio beth sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad ac i’w hannog i ymateb i’r hyn y cynigir fydd mewn strategaeth amgylcheddol ar gyfer yr Awdurdod.

Roedd holiadur ar-lein yn cyflwyno tair agwedd ar y gwaith o ddatblygu strategaeth amgylcheddol:

  • cyfrifoldeb corfforaethol sy’n cynnwys, er enghraifft, effaith gweithrediadau’r Gwasanaeth ei hun, ei ddefnydd o danwydd, gwres a goleuadau, ei bolisïau caffael a’i weithdrefnau rheoli gwastraff;
  • gweithgareddau ataliol a’r heriau sy’n gysylltiedig â chael chydbwysedd rhwng effaith amgylcheddol y milltiroedd sy’n cael eu teithio a chyfrifoldebau’r Gwasanaeth i atal tanau; ac
  • ymateb brys, a’r heriau sy’n gysylltiedig â delio â newid yn yr hinsawdd sy’n arwain at e.e. cynnydd mewn llifogydd yn ystod gaeafau mwy gwlyb ac at gynnydd mewn tanau awyr agored yn ystod hafau mwy sych a phoeth.

Mae ymatebion i’r ymgynghoriad yn dal i ddod i law ac i gael eu cydgrynhoi, a bydant yn cael eu hystyried wrth gwblhau Cynllun Gwella a Llesiant yr Awdurdod ar gyfer 2020/21.

Caiff adroddiad ar yr ymateb cyffredinol i’r ymgynghoriad ei gyflwyno er mwyn i’r Panel Gweithredol ei ystyried yn ei gyfarfod nesaf ym mis Chwefror 2020.

Amcanion Gwella a Llesiant ar gyfer 2020/21

 Roedd adborth a gafwyd yn ddiweddar gan Gomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn awgrymu bod angen i’r Awdurdod gynyddu nifer yr amcanion y mae’n bwrw ymlaen â nhw. Mae hyn yn seiliedig ar ddehongli Adran 3(2)(a) Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fod rhaid i gorff cyhoeddus osod a chyhoeddi amcanion “…sy’n cael eu cynllunio i sicrhau ei fod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd pob un o’r nodau llesiant”.

Bydd yr aelodau’n cofio mai pwrpas nodau llesiant Cymru yw sicrhau: Cymru lewyrchus; Cymru gydnerth; Cymru iachach; Cymru fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus; Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu; a Chymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang.

Felly, cynigir bod y swyddogion yn llunio cyfres helaethach o amcanion gwella a llesiant i gael eu hystyried gan y Panel Gweithredol yn ei gyfarfod nesaf yn Chwefror 2020. Bydd y gyfres helaethach yn rhoi ystyriaeth i adborth y Comisiynydd, a bydd hefyd yn ystyried sut i wella adroddiadau am y nodau llesiant yn y dyfodol, ac o bosibl am y Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub. Yna, gellir ymgorffori’r amcanion diwygiedig yn y Cynllun Gwella a Llesiant drafft terfynol ar gyfer 2020/2, sydd i gael ei gymeradwyo gan yr Awdurdod llawn yn ei gyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2020.

Goblygiadau

Amcanion Llesiant

Goblygiad uniongyrchol o gytuno ar amcanion hirdymor yr Awdurdod a’r camau byrdymor cysylltiedig tuag at eu cyflawni.

Cyllideb

Mae perthynas rhwng cynlluniau’r Awdurdod ar gyfer 2020/21 a’i adnoddau ariannol. Bydd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2020/21 yn cael ei chymeradwyo erbyn Rhagfyr 2019, ac yn cael ei chadarnhau erbyn canol mis Chwefro 2020.

Cyfreithiol

Mae’n gymorth i gydymffurfio â deddfwriaeth yn ymwneud â chynllunio gwelliannau a llesiant.

Staffio

Dim effaith hysbys ar lefelau staffio

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg

Bydd effeithiau camau penodol ar yr agweddau hyn yn cael eu hasesu ar adeg priodol yn eu datblygiad.

Risgiau

Mae’n lleihau’r risg o beidio â chydymffurfio â’r gyfraith ac o fethu â chyllidebu a chynllunio’n briodol.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen