Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau

PWRPAS YR ADRODDIAD

Cyflwyno adroddiad blynyddol y Pwyllgorau Safonau i’r Awdurdod Tân ac Achub, fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Fel mater o lywodraethu corfforaethol da, mae’r Pwyllgor Safonau yn darparu adroddiad blynyddol i’r Awdurdod ynghylch ei weithgareddau yn ystod pob blwyddyn ariannol.

Felly, mae unfed adroddiad blynyddol ar bymtheg (16eg) y Pwyllgor wedi’i atodi er mwyn i’r Aelodau ei ystyried.

ARGYMHELLION

Bod yr Aelodau’n nodi adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau am 2020/21.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGOR SAFONAU AWDURDOD TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU 2020/21

Cefndir

Dyma unfed adroddiad blynyddol ar bymtheg (16eg) y Pwyllgor Safonau i’r Awdurdod Tân ac Achub, ac mae’n cwmpasu’r cyfnod rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021. Yn ôl y ddeddfwriaeth, rhaid i Bwyllgorau Safonau gwrdd o leiaf unwaith y flwyddyn.

Mae Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau yn darparu cylch gwaith i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan Aelodau’r Awdurdod. Hefyd, pan fo’r statud yn caniatáu, i dderbyn adroddiadau a chwynion am Aelodau ac i gynnal neu oruchwylio ymchwiliadau a gwneud argymhellion i’r Awdurdod.

Aelodaeth

Fe wnaeth ail gyfnod Mr Antony P Young yn y swydd ddod i ben ym mis Mawrth 2020, felly nid oedd yn gymwys i barhau ar y Pwyllgor am gyfnod arall. Nid oedd unrhyw faterion eraill yn ymwneud â’r aelodau annibynnol.

O ran cynrychiolwyr yr ATA ar y Pwyllgor, cytunwyd y byddai’n ddoeth, gan fod y Cyng. Dylan Rees wedi’i benodi’n Ddirprwy Gadeirydd yr ATA, i gael aelod arall o’r Awdurdod i sefyll ar y Pwyllgor; bydd y Cyng. Michael Dixon yn ymuno â’r Cyng. Owen Thomas ar y Pwyllgor i gynrychioli’r ATA. Felly, dyma aelodaeth y Pwyllgor Safonau:

Aelodau Annibynnol
Sally Ellis 01/01/18 – 31/12/2021 (yn gymwys am ail gyfnod) (Dirprwy Gadeirydd)
Julia Hughes 01/01/18 – 31/12/2021 (yn gymwys am ail gyfnod) (Cadeirydd)
Gill Murgatroyd 01/09/19 – 31/08/23
Gareth Pritchard 01/09/19 – 31/08/23

Aelodau’r Awdurdod Tân ac Achub
Y Cynghorydd Owen Thomas (19/06/18 tan etholiadau nesaf y cynghorau)
Y Cynghorydd Michael Dixon (09/11/20 tan etholiadau nesaf y cynghorau)

Presenoldeb

Cafodd cyfarfod ei gynnal ar 17 Medi 2020, drwy Zoom. Cafodd Julia Hughes ei hethol yn Gadeirydd, a chafodd Sally Ellis ei hethol yn Ddirprwy Gadeirydd. Roedd Gill Murgatroyd, Gareth Pritchard a’r Cyng. Owen Thomas yn bresennol.

Cafodd ail gyfarfod ei gynnal ar 25 Chwefror 2021, drwy Zoom. Roedd yr holl aelodau’n bresennol.

Y Materion a Drafodwyd

Yn ei gyfarfod ar 17 Medi 2020, bu’r Pwyllgor yn adolygu’r canlynol:

• Presenoldeb aelodau’r ATA yn y cyfarfodydd. Tynnwyd sylw at y ffaith fod methu â mynychu cyfarfodydd yn achosi problem arwyddocaol i’r Awdurdod gan ei fod yn lleihau ei gapasiti ac yn creu bylchau yn nealltwriaeth yr Aelodau, a gall gymryd amser i oresgyn hynny. Mae’r Dirprwy Glerc wedi gweithio gyda’r cynghorau cyfansoddol i wella’r presenoldeb. Yn ystod y flwyddyn, roedd nifer y cyfarfodydd wedi gostwng yn sylweddol oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd i reoli pandemig y coronafeirws. Bydd y symud i gyfarfodydd o bell/rhithiol yn lleihau’r angen i’r aelodau deithio, felly bydd yn haws i’r aelodau gyflawni eu dyletswyddau ar yr Awdurdod
• Polisi’r Awdurdod ynghylch rhoddion a lletygarwch, sy’n ymddangos i fod yn cyd-fynd â pholisïau eraill o’r fath yn yr awdurdodau tân ac achub eraill a’r prif gynghorau yng Nghymru
• Rhaglenni gwaith y Pwyllgorau Safonau yn yr awdurdodau tân ac achub eraill yng Nghymru. Roedd eu rhaglenni gwaith nhw eisoes yn debyg i’w raglenni gwaith ei hun, ac mae’r pwyllgor wedi cytgordio rhagor ar ei raglen waith fel ei bod yn fwy cyson, gan ystyried adroddiadau ychwanegol fel y bo’r angen.

Cyfarfu’r Pwyllgor eto ar 25 Chwefror 2021. Yn y cyfarfod hwn, bu’r Aelodau’n ystyried y materion a ganlyn:

• Ymgynghoriad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch y Canllawiau Diwygiedig ar y Cod Ymddygiad
• Cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru
• Coflyfr ac adroddiad blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
• Pwyllgor safonau ar y cyd
• Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Mae’r Pwyllgor wedi edrych hefyd ar adroddiadau cyhoeddus o bwys i weld a oes unrhyw argymhellion neu achosion o arferion da y gallai’r Awdurdod eu mabwysiadu. Bu’n edrych yn benodol ar yr adroddiad i’r Bomio ym Manceinion, ynghyd â’r adroddiad gan y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus ar fater y Gyfundrefn Foesegol yn Lloegr. Mae wedi gwneud argymhellion i newid y cod ymddygiad yn seiliedig ar adroddiad yr un olaf, ac mae’r Awdurdod wedi mabwysiadu’r cod ymddygiad hwnnw.

Hyfforddiant

Mae’r pwyllgor wedi cytuno y bydd yn cael hyfforddiant ymhob cyfarfod ar faterion yn ymwneud â’i gylch gorchwyl.

Blaengynllun Gwaith

Mae’r Pwyllgor wedi sefydlu blaenraglen waith ar ei gyfer ei hun er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni ei gylch gorchwyl a’i fod yn ystyried pob eitem y mae angen iddo ymdrin â nhw o fewn blwyddyn. Mae’r eitemau sydd i ddod yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y sesiwn hyfforddi rheolaidd (y cyfeirir ati uchod), adborth o sylwadau’r Aelodau Annibynnol o gyfarfodydd, ystyried a ddylid creu Pwyllgor Safonau ar y cyd ag awdurdod arall yng Ngogledd Cymru (naill ai gyngor neu awdurdod parc), a pharhau i adolygu presenoldeb.

Mae’r Pwyllgor yn cynnal adolygiad treiglol o’r codau a’r protocolau sydd yn ei gylch gorchwyl fel bod pob un yn cael ei ystyried o leiaf unwaith ymhob un o dymhorau’r Awdurdod. Mae’r rhaglen honno wedi cael ei chwblhau yn y tymor hwn, ond bydd yn ailddechrau ar ôl yr etholiadau yn 2022.

Cwynion yn erbyn Aelodau’r Awdurdod Tân ac Achub

Ni chafwyd unrhyw gwynion am Aelodau’r ATA yn ystod y cyfnod hwn.

Goblygiadau Ariannol

Caiff cyllideb y Pwyllgor Safonau ei rheoli drwy un pennawd ar gyfer holl gostau’r Awdurdod. Ers 2012, caiff aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau hawlio cydnabyddiaeth ariannol yn seiliedig ar y cyfarfodydd a’r digwyddiadau a fynychir. Ar gyfer mynychu cyfarfodydd yn y flwyddyn ariannol hon, hawliwyd cyfanswm o £850.

Casgliad

Mae’r Pwyllgor Safonau yn argymell bod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn nodi ei adroddiad blynyddol am 2020/21.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen