Alldro Amcanol 2019/20
PWRPAS YR ADRODDIAD
Cyflwyno sefyllfa ragamcanol y gwariant refeniw a chyfalaf, fel yr oedd pethau ar 27 Chwefror 2020.
CRYNODEB GWEITHREDOL
Yn ei gyfarfod ar 17 Rhagfyr 2018, fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo cyllideb refeniw yn werth £35.2m. Y sefyllfa alldro a ragwelir o hyd yw y bydd yr Awdurdod yn adennill y costau o gymharu â’r gyllideb hon. Yng nghyfarfod yr ATA ym mis Medi 2019, cymeradwywyd ailgysoni’r gyllideb.
Ar 17 Rhagfyr 2018, fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo cyllideb gyfalaf yn werth £3.1m. Adolygwyd hyn, a’i newid i £2.1m.
ARGYMHELLION
Gofynnir i’r Aelodau nodi bod yr Awdurdod:
wrthi’n rhagweld y bydd yn defnyddio ei gyllideb refeniw yn llawn, sef £35.2m yn ystod 2019/20; a
yn rhagweld £1.2m o wariant cyfalaf yn ystod 2019/20.
SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO
Nid yw’r Aelodau wedi ystyried yr adroddiad hwn o’r blaen.
CEFNDIR
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am sefyllfa alldro drafft y gwariant refeniw a chyfalaf ym mlwyddyn ariannol 2019/20.
GWYBODAETH
CYLLIDEB REFENIW
Mae’r tabl isod yn nodi sefyllfa alldro’r refeniw drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. Mae’n dangos sefyllfa lle adenillir costau o gymharu â’r gyllideb sy’n £35.237m.
|
Cyllideb 2019/20 £ |
Amcan-estyniad 2019/20 £ |
Amrywiad 2019/20 £ |
Costau Gweithwyr |
27,060 |
26,697 |
-363 |
Safleoedd |
2,190 |
2,484 |
294 |
Cludiant |
994 |
1,024 |
30 |
Cyflenwadau a Gwasanaethau |
4,149 |
4,533 |
384 |
Taliadau i Drydydd Partïon |
417 |
412 |
-5 |
Incwm |
-2,628 |
-2,672 |
-44 |
Ariannu Cyfalaf a Ffioedd Llog |
3,055 |
2,759 |
-296 |
Y gofyn am gyllideb |
35,237 |
35,237 |
0 |
Costau Gweithwyr
Ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20, y gyllideb ar gyfer y gweithwyr yw £27.060m, sef 77% o’r gwariant. Y rhagolwg alldro drafft yw £0.363m o danwariant. Mae hyn yn gysylltiedig ag oedi wrth recriwtio prentisiaid diffoddwyr tân a swyddi gwag ar gyfer diffoddwyr tân amser cyflawn. Yn ystod 2019/20, roedd rhaid rhoi’r flaenoriaeth i recriwtio diffoddwyr tân amser cyflawn er mwyn delio â phroblemau capasiti ar yr ochr weithredol. Mae’r broses o recriwtio prentisiaid diffoddwyr tân wedi dechrau, a disgwylir penodi yn gynnar yn 2020/21.
Safleoedd
£2.190m yw’r gyllideb ar gyfer safleoedd, a rhagwelir £0.294m o orwariant. Mae’r prif feysydd gorwariant yn cynnwys costau cyfleustodau a chasglu sbwriel. Mae profion ar wifrau sefydlog wedi cael eu cwblhau ymhob gorsaf, ac mae hyn wedi arwain at waith cywiro er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith.
Cludiant
£1.02m yw’r gwariant amcanol ar gostau’n ymwneud â chludiant, sef gorwariant bach. Mae’r gorwariant wedi digwydd oherwydd y gofyniad cyfreithiol i gael teiars newydd yn lle rhai sy’n fwy na 10 oed, a hynny ar bob peiriant. Rhagwelir mai £32,600 fydd y gost am wneud y gwaith hwn yn 2019/20. Bydd hyn hefyd yn rhoi pwysau ar y gyllideb yn y blynyddoedd i ddod, a rheolir hyn yn ofalus.
Cyflenwadau
£4.533m yw’r gwariant amcanol ar gyflenwadau, sef £0.384m o orwariant o gymharu â’r gyllideb. Mae hyn yn cynnwys costau uwch ar gyfer trwyddedau cyfrifiaduron, cynnal a chadw cyfrifiaduron, cyfarpar ar gyfer yr ochr weithredol, gwisgoedd amddiffynnol a chost yswiriant atebolrwydd.
Ariannu Cyfalaf
£3.055m yw’r gyllideb ar gyfer ariannu cyfalaf. Mae costau ariannu cyfalaf yn cynnwys codi ar y refeniw am ddibrisio a hefyd am gost benthyca. Rhagwelir £0.296m o danwariant, sy’n adlewyrchu’r gostyngiadau yn rhaglen gyfalaf 2018/19. Mae hyn yn rhagweld y bydd y cyfraddau llog yn aros ar y lefel bresennol.
Incwm
£0.457m yw’r gyllideb incwm, ac eithrio grantiau, a rhagwellir £0.501 o alldro. Mae’r cynnydd yn ymwneud â hawliadau a gyflwynwyd i Wasanaethau Tân ac Achub Swydd Derby a De Swydd Efrog am gymorth a roddwyd yn ystod y llifogydd yn Whaley Bridge a Doncaster.
Arian Grant Refeniw
Dyma ddadansoddiad o’r arian grant yn 2019/20.
£ |
|
Lleihau Llosgi Bwriadol |
1423 |
Archwiliadau Diogel ac Iach |
223 |
Y Ffenics |
163 |
Cydnerthedd Cenedlaethol |
141 |
Cyfraniadau Pensiwn y Diffoddwyr Tân |
1,085 |
Firelink |
416 |
Cyfanswm yr Arian Grant |
2,171 |
Y RHAGLEN GYFALAF
Mae’r Awdurdod wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf sy’n werth £3.119m. Mae’r rhaglen gyfalaf wedi cael ei hadolygu a’i newid er mwyn adlewyrchu’n llwyr y prosiectau sydd wedi cael eu cynllunio i gael eu cyflawni yn ystod y flwyddyn. £2.052m yw’r rhaglen gyfalaf newydd.
£1.204m yw’r alldro amcanol ar gyfer y rhaglen gyfalaf.
2019/20 |
2019/20 |
2019/20 |
||
Adran |
Disgrifiad |
|||
Fflyd |
Cerbydau a chyfarpar i gymryd lle rhai eraill |
180 |
209 |
0 |
Gweithred-iadau/Fflyd |
Cyfarpar |
41 |
0 |
0 |
Cyfleusterau |
Uwchraddio adeiladau |
878 |
606 |
278 |
TGCh/ |
Uwchraddio systemau, a’r gwaith sy’n gysylltiedig â hynny |
954 |
389 |
338 |
Cyfanswm y Cyfalaf |
2,053 |
1,204 |
616 |
Cafwyd rhagor o lithriant mewn perthynas â chyflawni’r rhaglen gyfalaf. O fewn cyllideb Cyfleusterau, cafwyd oedi oherwydd bod angen ail-dendro gwaith. Mae llithriant TGCh/Y Ganolfan Reoli yn ymwneud ag oedi wrth uwchraddio’r System Gorchymyn a Rheoli Digwyddiadau, a’r prosiect Cymru-gyfan ar gyfer uwchraddio terfynellau dyfeisiau symudol mewn peiriannau tân.
Rhagwelir y bydd arian yn cael ei gario drosodd i 2020/21, ar gyfer y llithriant hwn.
GOBLYGIADAU
Amcanion Llesiant |
Mae cysylltiad rhwng yr adroddiad hwn ag amcanion llesiant tymor hir ATAGC. Mae cyllid i’r Gwasanaeth yn fuddiol i gymunedau Gogledd Cymru, ac mae’n sicrhau bod digon o fuddsoddiad yn digwydd mewn seilwaith i alluogi’r Gwasanaeth i ddarparu ymatebion brys a gwaith ataliol ymhell i’r dyfodol. |
Cyllideb |
Mae’r gyllideb yn cael ei gosod bob blwyddyn, a hynny’n unol â’r gwasanaethau arfaethedig, sy’n cynnwys ymateb brys a gwaith ataliol. |
Cyfreithiol |
Rhaid i’r Awdurdod, dan y gyfraith, lunio’r Datganiad o Gyfrifon yn unol â’r safonau a ragnodwyd. |
Staffio |
Dim
|
Risgiau |
Mae incwm a gwariant yn cael eu monitro’n agos er mwyn sicrhau bod unrhyw achos o wyro o’r gyllideb a gymeradwywyd yn cael ei ganfod yn iawn ac yn cael ei adrodd i’r Aelodau. |