Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Paratoi ar gyfer ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd (Brexit)

PWRPAS YR ADRODDIAD

Rhoi gwybod i’r Aelodau am y camau sy’n cael eu cymryd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (GTAGC) i baratoi ar gyfer ymadawiad y Deyrnas Unedig (DU) â’r Undeb Ewropeaidd (UE) ar 31 Ionawr 2020.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Yn dilyn y refferendwm yn 2016 ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd, mae GTAGC wedi bod yn ystyried pa effaith y gallai gadael yr UE ei chael ar yr Awdurdod a/neu ar weithrediadau’r Gwasanaeth yng Ngogledd Cymru.

Yn fewnol, mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal i nodi a cheisio lleddfu chwilio am unrhyw broblemau posibl o ran darparu gwasanaethau tân ac achub. Yn allanol, mae GTAGC wedi bod yn gweithio drwy ei aelodaeth o’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth i ganfod a lleihau unrhyw effeithiau ar y gymuned ehangach yng Ngogledd Cymru.

Drwy weithio’n annibynnol a gyda sefydliadau sy’n bartneriaid i ni, mae GTAGC wedi ceisio canfod yr effeithiau posibl a’r camau y gellid eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol.

ARGYMHELLION

Bod yr Aelodau’n nodi’r wybodaeth sydd yn yr adroddiad hwn.

SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO

Nid yw’r adroddiad wedi cael eu ystyried gan Aelodau yn flaenorol.

CEFNDIR

Canlyniad y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 oedd y byddai’r DU yn gadael yr UE. Ar 29 Mawrth 2017, fe wnaeth DU danio Erthygl 50 o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd i ddechrau ymadawiad y DU o’r UE, sef Brexit. Newidiodd hyn ac fe adawodd y DU yr UE ar 31 Ionawr 2020 a chychwyn cyfnod pontio a fydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020.

GWYBODAETH

Cwblhawyd gwaith cynllunio mewnol yn ystod 2019 ac mae hyn wedi parhau i ganfod effeithiau a risgiau posibl yn deillio o ymadawiad y DU o’r UW, ac i benderfynu ar fesurau lliniaru a’u rhoi ar waith.

Mae nifer o faterion posibl yn gyffredin i lawer o rannau o’r sector cyhoeddus ac maent yn ymwneud, er enghraifft, â’r posibilrwydd o darfu ar y cadwyni cyflenwi, ac effaith straen ariannol mewn economi ansicr yn dilyn y cyfnod pontio hwn.

Yng Ngogledd Cymru yn benodol, rhoddir ystyriaeth, er enghraifft, i seilwaith ffyrdd a rheoli ffiniau mewn perthynas â phorthladd Caergybi.

Mae’r Gwasanaeth hefyd wedi bod yn gweithio â phartneriaid yn y Fforwm Lleol Cymru Gydnerth i ganfod risgiau cyfunol neu lle mae angen gweithio ar y cyd i leihau effeithiau negyddol posibl ar, er enghraifft, aelodau o’r cyhoedd a chymunedau lleol. Yng Ngogledd Cymru yn benodol rhoddwyd ystyriaeth, er enghraifft, i isadeiledd ffyrdd a rheoli ffiniau ym mhorthladd Caergybi. Mae trafodaethau gyda’r Grŵp Cydlynu Strategol ar y gweill.

Bu llawer o’r gwaith hwn yn ddamcaniaethol o reidrwydd, ac yn realistig ni ellid gwneud fawr mwy na chadw golwg gan aros am arwyddion mwy pendant o risg.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant - Mae ail gynllun llesiant yr Awdurdod yn ymwneud â hwyluso gwasanaethau tân ac achub sydd o ansawdd uchel, yn ymatebol ac wedi’u hintegreiddio’n well. Gallai tarfu, er enghraifft, ar y cadwyni cyflenwi effeithio o bosibl ar allu’r Awdurdod i gyflawni’r amcan hwn.
Cyllideb - Straen ychwanegol posibl ar gyllideb Awdurdod o ganlyniad i fesurau lliniaru a/neu effaith yn fwy cyffredinol ar economi’r DU ar ôl y cyfnod pontio.
Cyfreithiol - Mae dyletswyddau cyfreithiol ar yr Awdurdod i gynllunio ar gyfer, a cheisio lliniaru, risgiau a allai effeithio ar ei allu i ddarparu ei wasanaethau statudol ac i sicrhau bod ganddo adnoddau digonol i wneud hynny.
Staffio - Ni chanfuwyd dim.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg - Ni chanfuwyd dim.
Risgiau - Risgiau’n gysylltiedig â pharhau i ddarparu gwasanaethau a sicrhau adnoddau ariannol digonol mewn economi ansicr yn y DU ar ôl Brexit (gweler uchod).

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen