Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

PWRPAS YR ADRODDIAD

Cyflwyno, i gael cymeradwyaeth yr Aelodau, asesiad drafft o berfformiad Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ystod 2019/20 mewn perthynas â’r canlynol:

(i) ei gynnydd tuag at gyflawni ei amcanion Gwella a Llesiant tymor hir a’i Amcanion Cydraddoldeb tymor canolig; a

(ii) ei gydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg sy’n berthnasol iddo.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Y llynedd gwnaeth yr Awdurdod gynnydd da tuag at gyflawni ei amcanion gwella a llesiant tymor hir. Cyflawnwyd hyn yn rhannol drwy gwblhau’r gweithgareddau a amlinellwyd yng Nghynllun Gwella a Llesiant yr Awdurdod ar gyfer 2019/20 yn llwyddiannus .

Gwnaed cynnydd cyson yn ystod y flwyddyn tuag at gyflawni amcanion cydraddoldeb yr Awdurdod ar gyfer 2016-20 yn ogystal; ac mae’r Awdurdod wedi parhau i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg sydd yn berthnasol iddo. 

ARGYMHELLIAD

Bod yr Aelodau yn:

(i) cymeradwyo’r asesiad drafft o berfformiad yr Awdurdod yn ystod 2019/20 (yn amodol ar fân ychwanegiadau a chywiriadau os oes angen), sydd eisoes wedi ei gyhoeddi ar wefan yr Awdurdod  cyn y dyddiad terfynol statudol, sef 30/10/20; a

(ii) nodi bwriad y Gwasanaeth i gyhoeddi taflen syml i grynhoi  elfennau allweddol yr adroddiad asesu.

SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO

Nid yw’r Aelodau wedi ystyried yr adroddiad hwn o’r blaen.

CEFNDIR

Dan wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth, rhaid i’r Awdurdod rhoi cyfrif cyhoeddus o’i berfformiad, ei gynnydd a’i gydymffurfiaeth. Mae’r darnau o ddeddfwriaeth hyn yn cynnwys: 

  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 sydd yn mynnu bod yr Awdurdod yn gosod ac yn cyhoeddi amcanion a fydd yn cyfrannu at wella llesiant lleol ac yn symud Cymru yn nes at gyflawni ei hamcanion llesiant. Ar ôl gosod yr amcanion tymor hir, rhaid i’r Awdurdod gymryd pob cam rhesymol i fynd ynglŷn â nhw ac i adrodd yn gyhoeddus ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol am y cynnydd a wnaed ganddo.
  • Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 sydd yn mynnu bod yr Awdurdod yn gosod ac yn cyhoeddi amcanion gwella, a’i fod yn cyhoeddi gwybodaeth am berfformiad, bob blwyddyn erbyn 31 Hydref, am y flwyddyn ariannol flaenorol.
  • Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb Cymru 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 sydd yn mynnu bod Awdurdodau Tân ac Achub yn llunio cynllun cydraddoldeb strategol ac yn adrodd bob blwyddyn erbyn 31 Mawrth ynghylch y cynnydd a wnaed ganddo tuag at gyflawni’r cynllun hwnnw yn y flwyddyn ariannol flaenorol.
  • Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sydd yn mynnu bod yr Awdurdod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ac adrodd yn flynyddol erbyn 30 Medi ar ei gydymffurfiaeth â’r Safonau hynny.

Er hwylustod, mae’r cynnydd mewn perthynas â phob un o’r pedwar gofyniad deddfwriaethol a nodir uchod wedi cael eu cyfuno mewn un ddogfen adrodd ar wefan yr Awdurdod. 

GWYBODAETH

Mae rhannau agoriadol yr  adroddiad ar yr Asesiad o Berfformiad Blynyddol eleni (Atodiad 1) yn disgrifio’r gofynion adrodd cyfreithiol ac yn cyflwyno gwybodaeth am yr ardal a wasanaethir gan yr Awdurdod. Mae hyn yn darparu cyd-destun er mwyn iddo fod yn haws deall y gwasanaethau a ddarperir gan yr Awdurod a’i gyfraniad tuag at lesiant cymunedau Gogledd Cymru.

Mae rhan ganol adroddiad yr asesiad yn darparu cyfrif manwl o’r camau penodol a gymerodd yr Awdurdod yn ystod y flwyddyn i gyflawni ei ddau amcan gwella a llesiant tymor hir. Gan ymateb i’r argymhellion a gafwyd yn ddiweddar gan swyddfa Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae mwy o bwyslais wedi cael ei roi yn yr adroddiad eleni ar naratif ac astudiaethau achos, er mwyn dangos y gwahaniaeth go iawn y mae gwaith yr Awdurdod yn ei wneud i fywydau pobl.

Llwyddwyd i gyflawni pob un o’r pedwar ar ddeg o weithgareddau yr oedd yr Awdurdod wedi bwriadu’u cyflawni yn ystod y flwyddyn. Gellir gwrthbwyso’r diffyg o 5% yn nifer yr archwiliadau diogel ac iach a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn  gyda’r ffaith bod 30% o’r archwiliadau hynny wedi eu cyfeirio at aelwydydd mwy bregus trwy atgyfeiriadau gan asiantaethau partner. Y targed ar gyfer y flwyddyn oedd llwyddo i gyflawni o leiaf 25% ohonynt drwy atgyfeiriadau.

Mae rhan ganol yr adroddiad asesu hefyd yn cyflwyno gwybodaeth am lefel cydymffurfiaeth yr Awdurdod â Safonau’r Gymraeg. Fel ac yr oedd pethau ar 31 Mawrth 2020, roedd bron i 83% o’r 866 o weithwyr a gyflogir gan y Gwasanaeth wedi hunan asesu neu gael eu hasesu â bod â rhywfaint o sgiliau iaith Gymraeg o leiaf, a dynodwyd bod 34% o’r rheiny yn siaradwyr Cymraeg rhugl. O’r swyddi newydd neu wag a gafodd eu hysbysebu yn ystod y flwyddyn roedd 41% wedi eu dynodi fel swyddi “Cymraeg hanfodol”. Am y drydedd flwyddyn yn olynol, ni ddaeth unrhyw gwynion i law mewn perthynas â’r Gymraeg. Mae’r camau niferus gan yr Awdurdod  i hyrwyddo’r Gymraeg a mynd ati’n rhagweithiol i annog dewis iaith i’w holl staff a defnyddwyr hefyd wedi eu disgrifio yn yr adran hon.

Gan fod rhaid adrodd yn erbyn Safonau’r Gymraeg erbyn diwedd Medi, cafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ar wefan yr Awdurdod fis diwethaf, ac mae wedi ei gynnwys eto er hwylustod yn yr adroddiad asesu perfformiad blynyddol.

Mae’r cynnydd a waned yn ystod 2019/20 tuag at gyflawni pob un o chwe amcan cydraddoldeb strategol yr Awdurdod hefyd wedi ei ddisgrifio yn rhan ganol yr adroddiad asesu. Trwy lu o gamau gweithredu mae’r Awdurdod wedi llwyddo i gyfrannu tuag at wella agweddau o fywydau pobl dan bob un o’r meysydd pwnc sef: bywyd ac iechyd; cyflogaeth; addysg; diogelwch personol; cynrychiolaeth a llais; mynediad at wasanaethau, gwybodaeth ac adeiladau. 

Mae rhannau olaf yr adroddiad asesu yn cynnwys gwybodaeth am y dangosyddion perfformiad yng Nghyd-destun Cymru ac yn disgrifio’r modd y mae’r Awdurdod wedi cyflawni ei ymrwymiadau dan ‘Siarter Ymateb i Danau Mewn Anheddau Cymru gyfan’. Mae ei weithgarwch yn ystod y flwyddyn yn cynnwys:

  • delio gyda 12,304 o alwadau brys 999/112 ;
  • mynd at 4,872 o ddigwyddiadau brys, yr oedd 1,950 ohonynt yn danau;
  • cyrraedd 82% o danau mewn anheddau mewn llai na 15 munud (sydd yn cynnwys yr amser a gymerwyd i gyrraedd yr orsaf dân a theithio i’r digwyddiad);
  • cwblhau 21,251 o sgyrsiau diogelwch tân mewn ysgolion i blant a phobl ifanc yng nghyfnodau allweddol 1 i 4.

Mae gwybodaeth ychwanegol ar ddiwedd yr adroddiad yn cynnwys canlyniad y gwaith a gwblhawyd gan Archwilio Cymru i edrych yn benodol ar y modd y mae’r Awdurdod yn cynnwys rhanddeiliaid wrth gynnig newidiadau i wasanaethau neu bolisïau, ac wrth gynllunio gweithgareddau. Gan ganolbwyntio ar ddau faes penodol o waith diweddar  y Gwasanaeth  i a) lleihau achosion o logi bwriadol a b) dylunio a datblygu hwb adnoddau addysgol ar-lein, daeth Archwilio Cymru i’r casgliad bod gan yr awdurdod bocedi o wasgarweddau ymgysylltu da y gall adeiladu arnynt er bod lle i wella o ran datblygu dull mwy integredig tuag at gyfranogi.

GOBLYGIADAU

Amcanion llesiant - Mae’r asesiad hwn yn disgrifio cynnydd yr Awdurdod yn ystod 2019/20 mewn perthynas â chyflawni ei amcanion llesiant tymor hir.

Cyllideb - Ni chanfuwyd dim.

Cyfreithiol - Mae’r ddogfen gyfun yn cyflawni dyletswyddau’r Awdurdod dan y canlynol: Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009; Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015; Deddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliadau (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011; a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Staffio - Ni chanfuwyd dim.

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/y Gymraeg - Mae’r goblygiadau i’r nodweddion gwarchodedig yn cael sylw yn yr asesiad drafft.

Risgiau - Ni chanfuwyd dim.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen