Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Penodi Aelod Awdurdod Tân ac Achub i Wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau

PWRPAS YR ADRODDIAD

Penodi un aelod o’r Awdurdod Tân ac Achub i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Gan fod y Cynghorydd Dylan Rees yn Ddirprwy Gadeirydd yr Awdurdod, mae’r Pwyllgor Safonau wedi gofyn i aelod arall gael ei enwebu/henwebu er mwyn atal y posiblrwydd o unrhyw wrthdaro buddiannau.

ARGYMHELLION

Bod yr Awdurdod yn penodi un aelod i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau yn lle’r Cynghorydd Dylan Rees gan ei fod yn Ddirprwy Gadeirydd yr Awdurdod.

CEFNDIR

O dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, mae’n ofynnol bod gan yr Awdurdod Tân ac Achub Bwyllgor Safonau. Mae pedwar aelod annibynnol ar y pwyllgor.

O dan Reoliadau Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001, nid yw’r gofynion o safbwynt cydbwysedd gwleidyddol, a nodir yn Rhan I Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, yn berthnasol ar gyfer y penodiadau hyn.

GWYBODAETH

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau ym mis Chwefror 2020, rhoddodd y Dirprwy Glerc wybod i’r aelodau fod mater wedi dod i’r golwg yn ddiweddar ynghylch aelodau’r Pwyllgor Archwilio; ar wefan yr Awdurdod roedd yn dweud “na all y cynrychiolwyr sydd o blith yr Awdurdod Tân ac Achub fod yn rhai sydd â swydd ar yr Awdurdod”. Cydnabyddir na wyddys beth yw tarddiad y penderfyniad hwn, ac nid yw wedi dod o ddeddfwriaeth. Wedi trafod y mater, doedd aelodau ddim yn ystyried fod cael rhywun sy’n dal swydd ar yr ATA i fod yn aelod o’r Pwyllgor yn broblem mewn gwirionedd ond fe allai’r canfyddiad fod yn wahanol. Felly, penderfynwyd argymell i’r ATA y dylai aelod arall o’r ATA, sydd heb fod yn dal swydd, gymryd lle’r Cyng. Dylan Rees, sydd bellach yn Ddirprwy Gadeirydd yr Awdurdod.

Gellir penodi unrhyw aelod o’r Awdurdod Tân ac Achub, ar wahân i’r Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd, i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau.

GOBLYGIADAU

Amcanion Llesiant - Ystyrir nad yw hyn yn berthnasol
Y Gyllideb - Bydd y costau presenoldeb yn dod o’r gyllideb a ddyrannwyd eisoes
Cyfreithiol - Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn unol â’r cylch gorchwyl y cytunwyd arno. Mae disgwyl i aelodau ddilyn y cod ymddygiad bob amser
Staff - Ystyrir nad yw hyn yn berthnasol
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Iaith Gymraeg - Ystyrir nad yw hyn yn berthnasol
Risg - Ystyrir nad yw hyn yn berthnasol

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen