Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cofnodion 09 Tachwedd 2020

AWDURDOD TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU

Cofnodion cyfarfod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a gynhaliwyd ddydd Llun 9 Tachwedd 2020, drwy Zoom.

YN BRESENNOL

Y Cynghorydd Yn cynrychioli
P Lewis (Cadeirydd) Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
B Apsley Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
M Bateman Cyngor Sir y Fflint
B Blakeley Cyngor Sir Ddinbych
A Davies Cyngor Sir Ddinbych
M Ll Davies Cyngor Sir Ddinbych
M Dixon Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
A I Dunbar Cyngor Sir y Fflint
P Evans Cyngor Sir Ddinbych
V Gay Cyngor Sir y Fflint
J B Hughes Cyngor Gwynedd
E W Jones Cyngor Sir Ynys Môn
S Lloyd-Williams Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
G Lowe Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
R E Parry Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
D Rees Cyngor Sir Ynys Môn
R Roberts Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
P Shotton Cyngor Sir y Fflint
A Tansley Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
W O Thomas Cyngor Sir y Fflint
G Williams Cyngor Gwynedd
D Wisinger Cyngor Sir y Fflint

Hefyd yn bresennol:

S A Smith (Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr); C Everett (Clerc a Swyddog Monitro’r Awdurdod); K W Finch (Trysorydd yr Awdurdod); R Fairhead a K Roberts (Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol); S Morris a H MacArthur (Prif Swyddogion Cynorthwyol); G Owens (Dirprwy Glerc); T Williams (Rheolwr Cyfathrebu Corfforaethol); A Davies (Swyddog Cyswllt Aelodau).

YMDDIHEURIADAU

Y Cynghorydd Yn cynrychioli
R Griffiths Cyngor Sir Ynys Môn
B Parry-Jones Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
G A Roberts Cyngor Gwynedd
N Smith Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

1 DATGAN BUDDIANNAU

1.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

2 NODIADAU O’R CYFARFOD A GANSLWYD YM MAWRTH 2020, A CHADARNHAU’R PENDERFYNIADAU A WNAED

2.1 Fe wnaeth y Clerc gyflwyno’r adroddiad a oedd yn esbonio bod cyfarfod yr ATA ym mis Mawrth wedi cael ei ganslo oherwydd COVID-19, a bod yr Aelodau wedi derbyn pob adroddiad yn electronig ac wedi cael cyfle i roi sylwadau os oeddent yn dymuno – ni ddaeth unrhyw sylwadau i law.

2.2 Nodwyd bod y rhan fwyaf o’r adroddiadau yn gallu cael eu cymeradwyo gan y Cadeirydd, a hynny drwy awdurdod wedi’i ddirprwyo iddo. Fodd bynnag, roedd angen i’r Awdurdod gadarnhau’r adroddiadau canlynol:

1. Cynllun Gwella a Llesiant 2020/21
2. Strategaeth Gyfalaf a Rheoli’r Trysorlys
3. Datganiad ar Bolisi Tâl 2020/21
4. Cynllun Cydraddoldeb Strategol: Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011

2.3 Roedd yr adroddiadau hyn wedi cael eu cyhoeddi yn unol â gofynion deddfwriaeth berthnasol, gyda nodyn yn esbonio y byddent yn cael eu cadarnhau gan yr Awdurdod llawn yn y cyfarfod nesaf a fyddai ar gael.

2.4 PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad, a chadarnhau’r adroddiadau a nodir uchod.

3 MATERION YN CODI

3.1 Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

4 MATERION BRYS

4.1 Nid oedd unrhyw faterion brys.

5 ADRODDIAD Y CADEIRYDD

5.1 Mae adroddiad y Cadeirydd wedi bod yn gyfle rheolaidd i roi gwybod i’r Aelodau am y cyfarfodydd a’r digwyddiadau yr aeth y Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd iddynt. Fodd bynnag, oherwydd effaith COVID-19 yn 2020, roedd yr adroddiad yn talu teyrnged i holl aelodau staff GTAGC am eu gwaith caled ers mis Mawrth 2020. Hefyd, fe wnaeth y Cadeirydd ganmol y Prif Swyddog Tân am ddarparu gwybodaeth yn rheolaidd i’r Aelodau.

5.2 Cadarnhawyd mai yn rhithiol y cynhaliwyd yr holl gyfarfodydd yr aeth y Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd iddynt.

5.3 PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a ddarparwyd.

6 GWYBODAETH AM COVID-19

6.1 Fe wnaeth y Prif Swyddog Tân gyflwyno’r adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i’r Aelodau am weithgareddau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ers dechrau pandemig y coronafeirws ym mis Mawrth 2020.

6.2 Fe wnaeth yr Aelodau longyfarch y Gwasanaeth am barhau i ddarparu ei wasanaethau cystal ers dechrau’r achosion o COVID-19. Roedd yr Aelodau’n falch o nodi hefyd fod dull cydweithredol y Gwasanaeth wedi parhau, a bod y Gwasanaeth wedi darparu cymorth i sefydliadau eraill yn ystod y pandemig.

6.3 PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

7 ASESIAD DRAFFT O BERFFORMIAD YR AWDURDOD YN 2019/20

7.1 Fe wnaeth y PSC Morris gyflwyno’r asesiad drafft o berfformiad Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ystod 2019/20, ynghylch y cynnydd a wnaed ganddo wrth gyflawni ei amcanion gwella a llesiant hirdymor, ei amcanion cydraddoldeb tymor canolig, a’i gydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg sy’n berthnasol.

7.2 Nodwyd bod yr Awdurdod wedi gwneud cynnydd da y llynedd o ran cyflawni ei amcanion gwella a llesiant hirdymor. Roedd hyn yn rhannol drwy lwyddo i gyflawni’r camau gweithredu arfaethedig a amlinellwyd yn y Cynllun Gwella a Llesiant a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod ar gyfer 2019/20. Gwnaed cynnydd cyson hefyd yn ystod y flwyddyn o ran cyflawni amcanion cydraddoldeb yr Awdurdod ar gyfer 2016-20, ac fe wnaeth yr Awdurdod barhau i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg sy’n berthnasol.

7.3 Roedd yr Aelodau’n croesawu’r adroddiad, ynghyd â’r ffaith fod y gwaith ym maes llesiant wedi cael ei gynnwys. Roedd yr Aelodau’n falch o nodi hefyd fod cydymffurfiaeth y Gwasanaeth â Safonau’r Gymraeg wedi cael ei gynnal, ac na chafwyd unrhyw gwynion am y drydedd flwyddyn yn olynol. Cyfeiriodd y Cadeirydd at waith ac ymdrechion cadarnhaol y Gwasanaeth i barhau i rannu’r neges am ddiogelwch â phobl ifanc drwy gystadlaethau posteri a gwahanol fentrau eraill sydd wedi digwydd ar-lein eleni.

7.4 Ar ôl derbyn canlyniad gwaith Archwilio Cymru a oedd yn edrych yn benodol sut mae’r Awdurdod yn cynnwys rhanddeiliaid wrth gynnig newidiadau i wasanaethau a pholisïau, nodwyd y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Panel Gweithredol, i amlinellu’r camau a gymerir er mwyn gwella gwaith ymgysylltu’r Awdurdod ac i gael dull mwy integredig o gynnwys pobl.

7.5 PENDERFYNWYD

(i) cymeradwyo’n ôl-weithredol yr asesiad drafft o berfformiad yr Awdurdod yn 2019/20 (yn ddibynnol ar fân ychwanegiadau a chywiriadau os oes angen) a oedd wedi cael ei gyhoeddi eisoes ar wefan yr Awdurdod erbyn y dyddiad statudol, sef 30/10/2020; a
(ii) nodi bwriad y Gwasanaeth i gyhoeddi fersiwn cryno syml o’r elfennau allweddol o adroddiad yr asesiad;
(iii) nodi y bydd adroddiad a chynllun gweithredu ar gyfer gwaith cyfranogiad yr Awdurdod yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Panel Gweithredol.

8 CYNLLUN GWELLA A LLESIANT 2021/22

8.1 Fe wnaeth y PSC Morris gyflwyno’r adroddiad a oedd yn cadarnhau sail Cynllun Gwella a Llesiant yr Awdurdod Tân ac Achub ar gyfer 2021/22.

8.2 Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa o’r broses y mae’r Awdurdod yn ei dilyn er mwyn cyhoeddi Cynllun Gwella a Llesiant bob blwyddyn. Gofynnwyd i’r Aelodau gadarnhau a oeddent eisiau i’r Awdurdod barhau i fynd ynglŷn â’r amcanion a fabwysiadwyd ym mis Mawrth 2020, ynteu fynd ynglŷn â set ddiwygiedig. Esboniodd y PSC Morris fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu ei set gyfredol o amcanion yn ddiweddar iawn, fod pandemig COVID-10 wedi cyfyngu’n anochel ar y cynnydd yn ystod y flwyddyn bresennol, a bod y newid tebygol i aelodaeth yr Awdurdod ar ôl etholiadau Lywodraeth Leol ym mis Mai 2020 yn golygu bod yr Aelodau’n cael eu hargymell i gario amcanion cyfredol yr Awdurdod drosodd i 2021/22.

8.3 PENDERFYNWYD cymeradwyo’r bwriad i ddatblygu Cynllun Gwella a Llesiant drafft ar gyfer 2021/22, a hwnnw’n seiliedig ar barhau â set gyfredol yr Awdurdod o amcanion gwella a llesiant.

9 PARATOI AR GYFER YMADAWIAD Y DEYRNAS UNEDIG Â’R UNDEB EWROPEAIDD (BREXIT)

9.1 Fe wnaeth y PSTC Fairhead gyflwyno’r adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i’r Aelodau am y camau a gymerwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ystod y cyfnod pontio ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020.

9.2 Nodwyd bod y Gwasanaeth yn cynnal cyfarfodydd yn fewnol i ganfod a cheisio lliniaru unrhyw broblemau posib wrth ddarparu gwasanaethau tân ac achub, ac yn allanol drwy’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth gan weithio â phartneriaid i ganfod a lleihau unrhyw effeithiau ar y gymuned yn ehangach yng Ngogledd Cymru.

9.3 Fe wnaeth y PSTC Fairhead gadarnhau bod y swyddogion yn gwylio’r sefyllfa genedlaethol, a byddant yn addasu gwaith y Gwasanaeth ar gyfer Brexit fel y bo’r angen.

9.4 Fe wnaeth yr Aelodau ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr, a PHENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a ddarparwyd.

Ar yr adeg hon, fe wnaeth y Cyng. R Roberts adael y cyfarfod.

10 HER GYFREITHIOL I’R DIWYGIADAU PENSIWN YN 2015

10.1 Fe wnaeth y PSC MacArthur gyflwyno’r adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i’r Aelodau am yr her gyfreithiol i weithredu’r diwygiadau i gynllun pensiwn y diffoddwyr tân a ddaeth i rym yn 2015. Cafodd yr her gyfreithiol lwyddiannus ei chyflwyno gan Undeb yr FBU, a hynny ar ran ei aelodau ar sail gwahaniaethau uniongyrchol ar sail oedran. Mae i’r canlyniadau oblygiadau i bob cynllun pensiwn yn y sector cyhoeddus.

10.2 Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa am y manylion yn ymwneud â Dyfarniad McCloud/Sargeant, a bod y Llys Apêl wedi dyfarnu o blaid yr hawlwyr ac wedi cadarnhau nad oedd cyfiawnhad dros y gwahaniaethu ar sail oedran a oedd yn ymhlyg yn y diwygiadau i’r pensiwn yn 2015.

10.3 Cydnabuwyd bod hwn yn achos cymhleth a hirfaith, ac er mwyn cefnogi’r broses o bennu’r rhwymedi priodol, roedd Trysorlys EM wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori i nodi nifer o opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r gwahaniaethu yn holl gynlluniau’r sector cyhoeddus. Roedd copi o ymateb yr Awdurdod wedi cael ei atodi i’r adroddiad.

10.4 Nododd yr Aelodau fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi cadarnhau y bydd y canlyniad yn gymwys i holl gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn y DU.

10.5 I ymateb i gwestiwn gan un o’r Aelodau, esboniodd y PSC MacArthur nad yw’r Gwasanaeth, eto, yn gallu prosesu hawliadau gan aelodau unigol oherwydd nid yw cynigion y rhwymedi wedi cael eu cwblhau’r derfynol. Fodd bynnag, cadarnhawyd y bydd y Rheoliadau, ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi, yn cynnwys cynllun cyfathrebu ar gyfer delio ag ymholiadau gan aelodau.

10.6 Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am eu gwaith yn y mater cymhleth hwn.

10.7 PENDERFYNWYD nodi:

(i) y cefndir i Ddyfarniad McCloud/ Sargeant;
(ii) y sefyllfa bresennol o ran rhwymedi;
(iii) goblygiadau ariannol y rhwymedi; a
(iv) ymateb i’r ymgynghoriad a gyflwynwyd ar ran yr Awdurdod.

11 BWRDD PENSIWN LLEOL CYNLLUNIAU PENSIWN Y DIFFODDWYR TÂN – ADRODDIAD BLYNYDDOL 2019-20 A CHYLCH GORCHWYL DIWEDDAREDIG

11.1 Fe wnaeth y PSC MacArthur gyflwyno adroddiad blynyddol y Bwrdd Pensiwn Lleol, a’i gylch gorchwyl diwygiedig.

11.2 Roedd yr Aelodau’n falch o nodi bod disgwyl i aelodau’r Bwrdd Pensiwn Lleol gael llawer o hyfforddiant er mwyn cyflawni eu rôl ar y Bwrdd.

11.3 PENDERFYNWYD

(i) cymeradwyo adroddiad blynyddol y bwrdd pensiwn lleol ar gyfer 2019-20, i’w gyhoeddi ar wefan yr Awdurdod; a
(ii) nodi’r cylch gorchwyl.

12 DATGANIAD POLISI DISGRESIYNOL CYNLLUNIAU PENSIWN Y DIFFODDWYR TÂN

12.1 Fe wnaeth y PSC MacArthur gyflwyno’r adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i’r Aelodau am y gofyniad i’r Rheolwr Cynllun (sef yr Awdurdod) lunio Polisi Disgresiynol ar gyfer Cynlluniau Pensiwn y Diffoddwyr Tân. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried gan y Bwrdd Pensiwn Lleol ar 27 Mai 2020, ac na thynnwyd sylw at unrhyw faterion o bwys.

12.2 Nodwyd bod Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn y Diffoddwyr Tân yn rhoi’r cyfrifoldeb ar yr Awdurdod i wneud penderfyniadau am rai elfennau disgresiynol o’r cynllun. Rhaid i’r Awdurdod lunio a chyhoeddi polisi disgresiynol sy’n nodi sut bydd yn cyflawni’r ddyletswydd hon. Dywedodd y PSC MacArthur fod unrhyw faterion cyfreithiol neu ddadleuol sy’n codi yn cael eu cyfeirio at gyfreithwyr yr Awdurdod.

12.3 PENDERFYNWYD cymeradwyo’r penderfyniadau sydd yn Natganiad Polisi Disgresiynol Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân, gan gynnwys, pan fo’n briodol, y broses o ddirprwyo i’r Prif Swyddog Tân a’r Trysorydd.

Ar yr adeg hon, fe wnaeth y Cyng. A Tansley adael y cyfarfod.

13 ADRODDIAD BLYNYDDOL ARCHWILIO MEWNOL 2019/20

13.1 Fe wnaeth Keith V Williams, o Adran Archwilio Mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyflwyno adroddiad blynyddol archwilio mewnol 2019/20. Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Aelodau yn dadansoddi gwaith y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn 2019/20 ac yn cynnwys y datganiad o sicrwydd yn seiliedig ar y gwaith Archwilio Mewnol yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020.

13.2 Gofynnodd Mr Williams i’r Aelodau nodi’r gwall teipio wrth y farn archwilio am Reoli’r Fflyd. Dylai ddweud ‘boddhaol’ yn hytrach nag ‘uchel’.

13.3 Cadarnhawyd y bydd Pennaeth Archwilio Mewnol yn gallu darparu sicrwydd, yn seiliedig ar y gwaith archwilio mewnol a wnaed, ynghyd â’r wybodaeth sydd gan yr adran Archwilio Mewnol am y sefydliad a’i weithdrefnau, fod gan yr Awdurdod drefniadau effeithiol ar gyfer llywodraethu corfforaethol, rheoli risgiau a rheolaeth fewnol er mwyn rheoli’r gwaith o gyflawni amcanion yr Awdurdod.

13.4 Nodwyd nad yw gwaith yr adran Archwilio Mewnol wedi canfod unrhyw wendidau a fyddai’n amodi’r farn hon ac nid oedd unrhyw faterion o bwys yn berthnasol wrth lunio’r datganiad llywodraethu blynyddol. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys sicrwydd fod y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn gweithredu yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig i alluogi’r Awdurdod gael sicrwydd o’r farn hon.

13.5 Ar ôl cael cyfle i ofyn cwestiynau i Mr Williams,
PENDERFYNWYD nodi cynnwys adroddiad blynyddol y Pennaeth Archwilio a Chaffael, a’r ‘farn’ gyffredinol ynghylch pa mor ddigonol ac effeithiol yw fframwaith yr Awdurdod o lywodraethu, rheoli risgiau a rheolaeth.

Ar yr adeg hon, fe wnaeth y Cyng. J B Hughes adael y cyfarfod.

14 DATGANIAD ARCHWILIEDIG O GYFRIFON A DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL 2019/20

14.1 Fe wnaeth y PSC MacArthur gyflwyno’r datganiad archwiliedig o gyfrifon 2019/20, sy’n cynnwys y datganiad llywodraethu blynyddol. Roedd yr adroddiad hefyd yn cyflwyno canfyddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru, a oedd yn cadarnhau barn archwilio ddiamod.

14.2 Nodwyd bod y cyfrifon drafft wedi cael eu cyflwyno i’w harchwilio ar 29 Mai 2020. Roedd y rhain yn cadarnhau £35.226m o wariant net, a oedd wedi arwain at gyfraniad o £0.011m i’r cronfeydd wrth gefn, ac nid yw’r sefyllfa archwiliedig derfynol wedi newid.

14.3 Yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2010, mae’n ofynnol i’r cyfrifon archwiliedig a’r datganiad llywodraethu blynyddol gael eu cymeradwyo gan yr Aelodau erbyn 31 Gorffennaf 2020. Fodd bynnag, oherwydd pandemig COVID-19, roedd Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Coronafeirws) (Diwygio) 2020 Rhif 404 yn ymestyn dyddiad cyhoeddi’r Cyfrifon hyd at 30 Tachwedd 2020.

14.4 Roedd y PSC MacArthur eisiau cofnodi ei gwerthfawrogiad o’r holl waith a wnaed gan Helen Howard, Pennaeth Cyllid GTAGC, a Graham Williams o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, am gwblhau’r cyfrifon yn derfynol er gwaethaf yr heriau oherwydd y pandemig. Ategwyd hyn gan yr Aelodau.

14.5 Fe wnaeth Amanda Hughes o Archwilio Cymru gyflwyno’r cyfrifon archwiliedig i’r Aelodau, a chadarnhau y bydd barn archwilio ddiamod yn cael ei chyhoeddi am y cyfrifon, ar yr amod fod yr Awdurdod yn anfon llythyr o gynrychiolaeth, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, at Archwilydd Cyffredinol Cymru.

14.6 Fe wnaeth Ms Hughes dynnu sylw’r Aelodau hefyd at y “Pwyslais ar Fater – effeithiau Covid-19 ar brisiadau o asedau pensiwn eiddo” – o ran cymalau ynghylch ansicrwydd sylweddol wrth brisio yn yr adroddiad prisio ar y Cronfeydd Eiddo Cyfun, sydd gan Gronfa Bensiwn Clwyd, oherwydd amgylchiadau a achosir gan bandemig COVID-19. Fodd bynnag, nid yw hyn yn newid y farn.

14.7 PENDERFYNWYD

(i) cymeradwyo’r sefyllfa alldro archwiliedig a’r perfformiad fel sydd yn Natganiad o Gyfrifon 2019/20;
(ii) cymeradwyo’r cronfeydd a glustnodwyd ac a gariwyd drosodd, fel yr oedd pethau ar 31 Mawrth 2020;
(iii) cymeradwyo’r trefniadau llywodraethu a’r cynllun gweithredu fel yr amlinellir yn Natganiad Llywodraethu Blynyddol 2019/20;
(iv) nodi adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy’n cadarnhau barn archwilio ddiamod; a
(v) cymeradwyo’r llythyr arfaethedig o gynrychiolaeth.

15 GWEITHGAREDDAU RHEOLI’R TRYSORLYS A DANGOSYDDION DARBODUS GWIRIONEDDOL 2019/2020

15.1 Fe wnaeth Graham Williams o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyflwyno’r adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i’r Aelodau am weithgareddau rheoli’r trysorlys a’r dangosyddion darbodus ar gyfer yr Awdurdod yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20. Mae’r adroddiad yn un o ofynion y Cod Darbodus.

15.2 Nodwyd bod gweithgareddau’r Awdurdod i reoli’r trysorlys yn cael eu rheoleiddio gan godau proffesiynol, statudau a chyfarwyddyd. Y sefyllfa o ran benthyciadau ar 31 Mawrth 2020 oedd £30.9m, sydd o fewn y terfyn a gymeradwywyd gan yr Aelodau. £16m oedd gwerth y benthyciadau byrdymor, sydd o fewn y terfyn a osodwyd yn y strategaeth. Nid oedd unrhyw fenthyciadau cyfradd amrywiol yn cael eu dal yn ystod y flwyddyn ariannol.

15.3 PENDERFYNWYD nodi gweithgareddau rheoli’r trysorlys; a chymeradwyo’r dangosyddion darbodus terfynol ar gyfer 2019/20.

16 RHEOLI’R TRYSORLYS A DANGOSYDDION DARBODUS 2020/21

16.1 Fe wnaeth Graham Williams gyflwyno’r adroddiad i’r Aelodau. Un o ofynion Cod Darbodus Cyllid Cyfalaf CIPFA yw bod Dangosyddion Darbodus yn cael eu monitro’n rheolaidd, a bod unrhyw newidiadau o bwys yn cael eu cymeradwyo. Hefyd, dan God Ymarfer CIPFA ar Reoli’r Trysorlys, rhaid rhoi gwybod i’r Aelodau am unrhyw newidiadau mewn benthyciadau hirdymor, a newidiadau i fuddsoddiadau partïon i gontract yr Awdurdod.

16.2 Fe wnaeth yr Aelodau nodi’r ffaith fod Strategaeth Gyfalaf a Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2020/21 wedi’i gynnwys yn y papurau a ddosbarthwyd i’r aelodau ar gyfer cyfarfod yr Awdurdod Tân ac Achub ar 16 Mawrth 2020. Ers hynny, mae’r dangosyddion darbodus wedi cael eu diwygio, ac maent wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn, er mwyn cael eu cymeradwyo.

16.3 PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Dangosyddion Darbodus diwygiedig sydd yn atodiad A i’r adroddiad.

17 ALLDRO AMCANOL 2020/21

17.1 Fe wnaeth y PSC MacArthur gyflwyno’r adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i’r Aelodau am sefyllfa’r gwariant refeniw a chyfalaf a ragwelir, fel yr oedd pethau ar 30 Medi 2020.

17.2 Nodwyd bod yr Awdurdod, yn ei gyfarfod ar 16 Rhagfyr 2019, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw yn werth £35.9m, ac mai’r sefyllfa alldro a ragwelir o hyd yw y bydd yr Awdurdod yn adennill y costau o gymharu â’r gyllideb. Fodd bynnag, cafodd yr Aelodau wybod y bu’n rhaid, yn ystod y flwyddyn, adolygu dyraniad y gyllideb ar draws y penawdau incwm a gwariant, a rhagwelir y bydd angen gwneud newidiadau pellach yn ystod y flwyddyn ariannol i adlewyrchu’r heriau parhaus oherwydd pandemig COVID-19.

17.3 Hefyd yn Rhagfyr 2019, roedd yr Awdurdod wedi cymeradwyo cyllideb gyfalaf yn werth £4.1m. Oherwydd cyfyngiadau pandemig COVID-19, adolygwyd hyn a’i ddiwygio i £1.0m. Ers i’r rhaglen gael ei diwygio, bu oedi ar brosiectau’n ymwneud â gwaith adeiladu a pheiriannau tân, a bu oedi hefyd ar rai cynlluniau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu oherwydd bod gwaith y tîm TGCh wedi’i ailflaenoriaethu er mwyn rheoli’r broses o drawsnewid i weithio o bell. Rhagwelir y bydd y cynlluniau gohiriedig yn cael eu cwblhau yn 2021/22.

17.4 PENDERFYNWYD

(i) nodi sefyllfaoedd alldro drafft y refeniw a’r cyfalaf, fel y nodir uchod;
(ii) cymeradwyo’r cais i ail-gysoni’r gyllideb.

Ar yr adeg hon, fe wnaeth y Cyng. B Apsley adael y cyfarfod.

18 STRATEGAETH ARIANNOL TYMOR CANOLIG 2021/24 A CHYLLIDEB 2021/22

18.1 Fe wnaeth y PSC MacArthur gyflwyno’r strategaeth ariannol tymor canolig ar gyfer 2021/24, ynghyd â’r cyllidebau refeniw a chyfalaf drafft ar gyfer 2021/22.

18.2 Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod rhaid i’r Awdurdod osod cyllideb fantoledig ar gyfer pob blwyddyn ariannol, a chadarnhau ffigyrau cyfraniadau am y tro i bob awdurdod cyfansoddol erbyn diwedd mis Rhagfyr cyn dechrau’r flwyddyn ariannol. Nodwyd bod cyllideb 2021/22 a’r strategaeth ariannol tymor canolig yn cynnwys nifer o ragdybiaethau allweddol, risgiau ac ansicrwydd a ganfuwyd yn ystod y broses o gynllunio’r gyllideb.

18.3 Aseswyd y risgiau mewn perthynas â’r gyllideb ddrafft, a nodwyd y risgiau allweddol a ganlyn:
• mae’r gyllideb yn seiliedig ar ragdybiaeth mai 2% fydd y dyfarniadau cyflog. Ni ddaethpwyd i gytundebau cenedlaethol eto;
• y rhagdybiaeth gynllunio yw bydd yw cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynnydd ym mhensiynau’r diffoddwyr tân yn parhau. Os na chaiff hyn ei gefnogi, mae £1.1m o risg;
• y rhagdybiaeth gynllunio yw bydd y cyllid o £0.4m gan Lywodraeth Cymru yn parhau mewn perthynas â’r rhwydwaith gwasanaethau brys cenedlaethol (grant Airwave);
• cynlluniau’r Awdurdod i ddatblygu Strategaeth Amgylcheddol yn ystod 2021/22. NI wnaethpwyd asesiad o’r costau eto; ac
• mae’r ansicrwydd ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd yn parhau, ac nid oes costau ychwanegol wedi’u cynnwys yng nghyllideb 2021/22.

18.4 Rhoddodd y PSC MacArthur wybod i’r Aelodau ei bod hi wedi cwrdd â Chyfarwyddwyr Cyllid pob awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru, a’i bod wedi datgan dull yr Awdurdod. Roedd pob Cyfarwyddwr Cyllid wedi cael gwybod am ffigyrau’r cyfraniadau sydd wedi’u gosod am y tro i bob awdurdod lleol.

18.5 Dywedodd y Clerc ei bod yn bwysig nodi bod y gyllideb yn cael ei gosod ar sail y modelau cyflawni gwasanaethau cyfredol, ac ni ellid lleihau rhagor ar y gyllideb heb adolygu’r rhain.

18.6 PENDERFYNWYD
(i) cymeradwyo’r gyllideb gyfalaf a’r gyllideb refeniw ar gyfer 2021/22, ar sail cynnydd o £1.13m yn y cyfraniadau gan yr awdurdodau cyfansoddol, a gan nodi bod hyn yn seiliedig ar y sefyllfa a’r amcangyfrifon presennol;
(ii) nodi’r risgiau allweddol a’r ansicrwydd a ganfuwyd yn ystod y broses o gynllunio’r gyllideb, fel y nodir uchod; a
(iii) cadarnhau’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2021/24.

19 DYFARNIAD CYFLOG Y PRIF SWYDDOGION 2020

19.1 Fe wnaeth y Clerc gyflwyno’r adroddiad a oedd yn gofyn i’r Aelodau nodi a chadarnhau’r trefniadau ar gyfer cytuno ar y dyfarniadau cyflog blynyddol i’r Prif Swyddogion yn 2020.

19.2 Esboniodd y Clerc fod y dyfarniadau cyflog blynyddol i’r Prif Swyddogion yn cael eu cytuno drwy ddefnyddio trefniadau dau gorff negodi cenedlaethol gwahanol, a dyma’r sefyllfa bresennol ar gyfer y cyrff negodi:

i. Nid yw Cyd-gyngor yr NJC wedi dod i gytundeb eto ar gyfer 2020 am y Prif Swyddog Tân a’r Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol.

ii. Roedd cytundeb yr JNC yn cadarnhau cynnydd blynyddol o 2.75%, i ddod i rym ar 1 Ebrill 2020 ac yn gymwys i’r Prif Swyddogion Cynorthwyol a’r Trysorydd.

19.3 PENDERFYNWYD:

(i) nodi’r trefniadau negodi a chymeradwyo ar gyfer dyfarniadau cyflog y Prif Swyddogion;

(ii) cymeradwyo’r dyfarniad cyflog o 2.75% ar gyfer y Prif Swyddogion Cynorthwyo a’r Trysorydd, i ddod i rym ar 1 Ebrill 2020;

(iii) nodi safbwynt presennol Cyd-gyngor yr NJC o ran y dyfarniad cyflog yn 2020 i’r Prif Swyddog Tân a’r Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol; a

(iv) cytuno ar dalu’r dyfarniad sydd yn yr arfaeth ar gyfer y Prif Swyddog Tân a’r Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol unwaith y bydd trafodaethau cenedlaethol yr NJC wedi dod i ben.

20 CYNLLUN CYDNABYDDIAETH ARIANNOL I’R AELODAU

20.1 Fe wnaeth y Clerc gyflwyno’r adroddiad i roi gwybod i’r Aelodau am Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2020/21, sy’n nodi’r newidiadau i’r gydnabyddiaeth ariannol i’r aelodau o 1 Ebrill 2020 ymlaen. Roedd y Panel newydd gyhoeddi ei adroddiad drafft ar gyfer 2021/22, ac roedd y cynnydd arfaethedig wedi’i gynnwys er gwybodaeth.

20.2 PENDERFYNWYD

(i) nodi penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ynghylch lwfansau a chydnabyddiaeth ariannol i’r aelodau o 1 Ebrill 2020 ymlaen;

(ii) rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Clerc ddiweddaru’r rhestr o’r gydnabyddiaeth ariannol i’r aelodau o fewn cyfansoddiad yr Awdurdod, ac i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i restr 2020/21 o bryd i’r gilydd yn ystod y flwyddyn ddinesig, a hynny er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau yn aelodaeth yr Awdurdod, neu o ganlyniad i unrhyw adroddiadau atodol a ddaw gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

21 PENODI AELOD O’R AWDURDOD TÂN AC ACHUB I WASANAETHU AR Y PWYLLGOR SAFONAU

21.1 Fe wnaeth y Clerc gyflwyno’r adroddiad a oedd yn gofyn i’r Aelodau benodi aelod o’r Awdurdod Tân ac Achub i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau.

21.2 Gan fod y Cyng. Dylan Rees yn Ddirprwy Gadeirydd yr Awdurdod, roedd y Pwyllgor Safonau wedi gofyn i aelod arall gael ei enwebu er mwyn atal unrhyw wrthdaro posibl rhwng buddiannau.

21.3 PENDERFYNWYD penodi’r Cyng. Michael Dixon i’r Pwyllgor Safonau.

RHAN II

22 YMDRIN AG ELFENNAU O DÂL AR GYFER PENSIWN

22.1 Fe wnaeth y PSC MacArthur gyflwyno’r adroddiad a oedd yn cyflwyno argymhellion i Aelodau’r Awdurdod ynghylch trafodaethau gydag Undeb yr FBU am statws pensiynol rhai elfennau penodol o dâl i weithwyr sy’n aelodau o Gynlluniau Pensiwn y Diffoddwyr Tân.

22.2 Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o’r cyngor cyfreithiol cyfrinachol, a breintiedig yn gyfreithiol, a gafwyd am y setliad, ac roedd yn ceisio cael cymeradwyaeth gan yr Aelodau i weithredu’r cytundeb.

22.3 Fe wnaeth y PSC MacArthur esbonio’r cefndir i’r Aelodau. Mae dyletswydd ar yr Awdurdod, fel y Rheolwr Cynllun ar gyfer Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân, i sicrhau bod y rheoliadau’n cael eu cymhwyso’n briodol. Mae ymdrin â rhai lwfansau penodol fel rhai pensiynadwy neu amhensiynadwy wedi bod yn destun nifer o heriau drwy’r Ombwdsmon a phrosesau llys. Mae’r dyfarniad cyfreithiol mwyaf diweddar wedi cynyddu’r tebygolrwydd o her, neu heriau, cyfreithiol, mewn perthynas â lwfansau criw dydd a lwfansau hyfforddi sy’n cael eu talu i weithwyr Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Dosbarthwyd adroddiad i’r Aelodau ym mis Mawrth 2020, a chytunwyd y dylid negodi setliad er mwyn osgoi achos cyfreithiol posibl.

22.4 Nodwyd mai’r Bwrdd Pensiwn Lleol fyddai’n ystyried materion y cynllun pensiwn fel arfer, er mwyn cefnogi’r Awdurdod fel Rheolwr Cynllun. Fodd bynnag, mae aelodau’r Bwrdd Pensiwn Lleol cynnwys cynrychiolwyr o blith y gweithwyr, felly gallai hynny fod yn achos posibl o wrthdaro rhwng buddiannau.

22.5 Roedd y Cadeirydd yn cydnabod bod yr Undeb yr FBU yn defnyddio dull pragmatig yn y trafodaethau a’r negodiadau, a dywedodd y byddai’r Aelodau’n gwerthfawrogi y dylai’r Awdurdod ddilyn y cyngor cyfreithiol a ddarparwyd, gan nodi’r risgiau a amlinellir yn yr adroddiad. Hefyd, dywedodd y Clerc y dylai’r Aelodau gefnogi’r argymhellion.

22.6 PENDERFYNWYD

(i) nodi cynnwys y cytundeb;
(ii) nodi’r cyngor cyfreithiol cyfrinachol, a breintiedig yn gyfreithiol, a gafwyd; a
(iii) cymeradwyo’r cytundeb cyfun gydag Undeb yr FBU.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen