Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Sut i Ymchwilio i Larymau Tân Awtomatig (LTAau) sydd yn Seinio Rhybudd

Arweiniad i reolwyr Safle

O hyn ymlaen ni fydd GTAGC  yn anfon peiriannau tân i alwadau o safleoedd lle mai'r unig wybodaeth ar gael yw bod " y larwm tân yn seinio".  Nod y cyngor isod yw eich help i sicrhau y bydd GTAGC yn ymateb i'ch safle os bydd tân.

Bydd yn rhaid i'r rheolwr safle ymchwilio i'r rheswm pam bod y larwm tân wedi seinio, cyn belled ag y bo modd gwneud hynny'n ddiogel.  Fe ddylai'r trefniadau ar gyfer gadael y safle gael eu rhoi ar waith yn syth ar ôl i'r larwm seinio rhybudd.  

Os bydd staff yn dod o hyd i dân wrth ymchwilio i'r rheswm dros y rhybudd fe ddylent adael drwy'r allanfa agosaf, galw 999 a bydd GTAGC yn ymateb.

Sut i ymchwilio

Cofiwch eich bod yn chwilio am arwyddion tân ac nid y tân ei hun.  

  • Chwiliwch fesul dau os yw hyn yn bosibl

Edrychwch ar banel y larwm tân i weld ym mha ran o'r adeilad y mae'r larwm wedi seinio - defnyddiwch y cynllun a ddylai fod yn ymyl panel y larwm tân

Gofynnwch i aelod o'r staff aros wrth y panel a chadwch mewn cysylltiad drwy ffôn symudol neu offer radio llaw

Wrth ymchwilio am arwyddion tân edrychwch, gwrandewch, teimlwch ac aroglwch. Efallai y byddwch yn gweld mwg, clywed synau anarferol neu'n teimlo'r  gwres.

Cyn agor drysau, defnyddiwch gefn eich llaw , cyn uched ag y medrwch, i chwilio am arwyddion gwres. Os ydy'r drws yn boethpeidiwchâ'i agor.

Os dewch o hyd i arwyddion tân, ewch allan drwy'r allanfa agosaf a galwch 999

Wrth alw'r gwasanaeth tân nodwch yn glir eich bod wedi archwilio'r adeilad a'ch bod yn adrodd amDÂNac nid larwm awtomatig

Dim Arwyddion o Dân?

Nod ycyngor canlynol yw eich helpu i gydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth diogelwch tân a chadw eich staff a'ch safle yn ddiogel rhag tân:

Gadwech i'r trefniadau i adael yr adeilad fynd rhagddynt - drwy ymyrryd yn y trefniadau hyn gallwch achosi dryswch ac achosi i bobl gredu bod pob larwm yn larwm ffug.

Gwnewch yn siwr bod pwy bynnag sydd yn gyfrifol am ailosod y larwm wedi ei hyfforddi a'i fod yn gymwys i wneud hynny.  Os oes gennych drefniadau gyda thrydydd parti i wneud yn siwr bod y larwm wedi ei ailosod, nodwch y broses ar gyfer gwneud hyn yn ymyl y panel.  Bydd gofyn i chi wirio'r camau hyn yn rheolaidd i wneud yn siwr eu bod yn ddibynadwy.

Fe ddylai trydydd parti sydd wedi ei gontractio i ailosod eich larwm mwg fod â'r gallu i wneud hynny ymhen cyfnod rhesymol gan nad ydy'r rhan fwyaf o larymau yn gweithio yn iawn hyd nes eu bod wedi cael eu hailosod.

NI FYDD GTAGC yn ailosod eich larwm mwg.  Chi sy'n gyfrifol am ei ailosod, neu gyflogi cwmni trydydd parti i wneud hyn ar eich rhan.

Dylid nodi achosion o alwadau diangen yn llyfr log y larwm tân.  Nodwch yr achos a lleoliad y larwm. Mae hyn yn hanfodol er mwyn dangos cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth diogelwch tân ac er mwyn nodi unrhyw broblemau gyda'r system.

Dylid nodi unrhyw LTAau  i reolwr y safle fel y gellir cymryd camau addas i atal larymau diangen yn y dyfodol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen