Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Betws y Coed


BetwsGorsaf Dân Betws y Coed


Cyfeiriad:

Rhes Gethin,

Pentre Du,

Betws y Coed,

Conwy,

LL24 0BU

Ffôn01745 535250

Manylion Criw:

Mae Gorsaf Dân Betws y Coed yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.

Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod  y dydd ac/neu ar benwythnosau.

Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:

Yr A5 o Fetws hyd at Lyn Ogwen, yr A5 i Bentrefoelas,  yr A4086 i Ben y Pas,  yr A470 i Bont y Pant,  yr  A470 i Hafod a'r B4407 tuag at Ysbyty Ifan.

Safleoedd o Risg:

Gwestai, ysgolion lleol, parciau carafannau, canolfannau awyr agored a  Thŷ Mawr Wybrnant (lle ganwyd yr Esgob William Morgan a gyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg).

Hanes yr Orsaf:

Adeiladwyd yr orsaf gyntaf ym 1953 ac roedd wedi ei lleoli yn Royal Oak Stables (sydd nawr yn ganolfan gwybodaeth i ymwelwyr). Roedd dau gerbyty o gwmpas maint garej i gadw'r teclynnau a'r offer, ac ystafell wylfa a man ymgynnull i'r ochr.

Roedd naw o bobl yn y criw gwreiddiol, ac mae dau ohonynt yn parhau i weithio yn yr orsaf.  Yr offeryn oedd pibell ddŵr tendio1942 gyda phwmp ôl-gerbyd Berisford. Cafwyd offer newydd ym 1970, sef dau landrofer hir  fel ac yr oedd radio gyfathrebu ar gael (hen beiriant o 1960 a'r llall o 1965).  Erbyn y 1970au roedd oddeutu 12 o bobl yn gweithio yn yr orsaf. Ym 1974, newidiodd y Gwasanaeth o Frigâd Dân Sir Gaernarfon i Wasanaeth Tân Gwynedd.

Yn Hydref 1975, roedd yr orsaf dân bresennol wrthi'n cael ei thrawsnewid o'r hen Gapel Elim.  Y Swyddog mewn gofal oedd E.C.J Mills cyn athro a chyn beilot rhyfel ac roedd mwyafrif y criw gwreiddiol yn gyn filwyr adeg rhyfel. Ar yr adeg defnyddiwyd 'VFA' a seiren (fel ar adeg cyrch awyr) i alw am gefnogaeth.  Newidiodd hyn yn Chwefror 1976 pan symudwyd i'r orsaf bresennol a fe'n darparwyd gyda pheiriannau galw radio.  Gyda hyn cawson ein hoffer iawn cyntaf.

Ym 1978 y rheolwr mewn gofal oedd Gordon Williams ac ym 1985 cyrhaeddodd y peiriant disel cyntaf sef Ford D1114 model 1978 ac ym 1988 pwmp landrofer petrol V8.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen