
Oriau a Thâl
Oriau Gwaith
Mae ein Diffoddwyr Tân ar alw yn darparu gwasanaeth 'ar-alwad' am nifer penodol o oriau’r wythnos (cyfeirir at hyn fel 'argaeledd'); maent yn cario teclyn galw ac mae'n rhaid iddynt gyrraedd yr orsaf dân ymhen 5 munud o gael eu galw yn ystod eu horiau argaeledd. Mae nifer o ddiffoddwyr tân ar alw yn ymateb i argyfyngau o'r cartref ac eraill, gyda chaniatâd eu cyflogwr, o'r gwaith.
Yn ogystal â darparu gwasaneth ar-alwad, maent yn mynychu nosweithiau ymarfer unwaith yr wythnos. Mae'r nosweithiau ymarfer yn para 3 awr ac yn ystod yr oriau hyn maent yn cael datblygu eu sgiliau a derbyn hyfforddiant.
Mae'n rhaid i'n Diffoddwyr Tân Ar Alwad allu cyrraedd yr orsaf dân ymhen 5 munud o gael eu galw allan a dim ond o dan amgylchiadau prin y gall y Gwasaneth gynyddu'r amser ymateb hwn. Un o'r ffactorau a fyddai'n ein caniatáu i ymateb yr amser ymateb gyda disgresiwn fyddai'r lefelau staffio ar yr orsaf a'i lleolid, fodd bynnag, mae'n rhaid i'r Gwasanaeth ystyried yr holl risgiau ac opsiynau gwydnwch sydd ar gael ar sail unigol.
Os oes gennych chi swydd barhaol arall mae'n rhaid i chi drafod eich cais gyda'ch prif gyflogwr a chael eu caniatád nhw i ddarparu gwasanaeth yn ystod oriau gwaith.
Tâl
Graddfeydd Cyflog Diffoddwyr Tân Ar Alwad cymwysr ers 1af Gorffennaf 2017
Ffi-gadw flynyddol |
£2,993 y flwyddyn (cyflawn) NEU £2,244 y flwyddyn (Rhannol) (gweler isod) |
Ffi hyforddi a datblygu |
£41.01 Pob noson ymarfer (3 awr yr wythnos) |
Ffi troi allan (yn cynnwys ffi aflonyddu) |
£17.61 pob tro y byddwch yn troi allan (taladwy yn ystod yr awr a chwarter cyntaf ar ôl cael eich galw at ddigwyddiad) |
Tâl fesul awr |
£13.67 yr awr (taladwy mewn blociau o 15 munud - £3.42 fesul bloc - yn dilyn yr awr a chwarter cyntaf ar ôl cael eich galw at ddigwyddiad) |
Ffi mynychu |
£10.78 pob tro (taladwy os byddwch yn cyrraedd yr orsaf mewn da bryd, ond bod dim rhaid i chi fynd at y digwyddiad) |
Cyflawn - Telir y ffi-gadw flynyddol i Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad sydd yn ar gael am o leiaf 120 o oriau'r wythnos
Rhannol – Telir y ffi-gadw flynyddol i Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad sydd yn ar gael am hyd at 120 o oriau'r wythnos