Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gweithredwyr Yr Ystafell Reoli

Gweithredwyr Yr Ystafell Reoli

Gweithredwyr yr Ystafell Reoli

Mae gofyn i Weithredwyr yr Ystafell Reoli ddelio gyda nifero o alwadau brys a difrys.  Maent yn delio gyda nifer o ddigwyddiadau, yn cynnwys gwrthdrawiadau ar y ffordd, achub anifeiliaid a digwyddiadau brys eraill.  Mae'r swydd yn gofyn am sgiliau bysellfwrdd rhagorol a'r gallu i gyfathrebu'n rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae'r broses recriwtio yn cynnwys:

- Didoli'r Ffurflenni Cais

- Prawf ymarferol - Yn cynnwys prawf rhifyddeg a llafar, prawf teipio a chyfieithu o'r Gymraeg

- Cyfweliad - Bydd y cyfweliad yn seiliedig ar rinweddau a phriodoleddau personol, a fydd yn gofyn i ymgeiswyr dynnu ar brofiad.  Cynhelir rhan o'r cyfweliad yn Gymraeg.
 
- Mae'r swyddi a gynigir yn amodol ar eirdaon boddhaol, archwiliad meddygol ac Archwiliad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.


Mae'r Ystafell Reoli yn bwynt cyswllt hanfodol rhwng aelodau'r cyhoedd sydd angen ein help a'n timau brys.

Pan fydd unrhyw un yng Ngogledd Cymru yn galw 999/112 ac yn gofyn am y Gwasanaeth Tân ac Achub byddant yn cael eu cysylltu â staff yr Ystafell Reoli yn y Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd yn Llanelwy.

Mae staff yr Ystafell Roli yn gyfrifol am ddosbarthu criwiau a pheiriannau o'r 44 gorsaf dân yng Ngogledd Cymru ynghyd  ag unrhyw offer arbenigol sydd ei angen.

Mae'r staff yn delio gydag oddeutu 97,000 o alwadau bob blwyddyn, ac y mae oddeutu  19,000 o'r rhain yn alwadau brys, gyda nifer ohonynt yn peryglu bywydau. Mae ein Gweithredwyr wedi eu hyfforddi i ddelio gyda phobl sydd yn gaeth a chynnig cyngor dianc o dân.  

Mae'r galwadau brys yn amrywio o danau, gwrthdrawiadau ar y ffordd, digwyddiadau yn ymwneud â defnyddiau peryglus, llifogydd a llawer mwy.

Mae'r Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd ar agor 24/7, 365  o ddiwrnodau'r flwyddyn.  Mae'r staff yn gweithio mewn timau ac yn defnyddio ystod o dechnolegau gwybodaeth soffistigedig i'w cynorthwyo i anfon yr adnoddau agosaf a mwyaf addas o'n gorsafoedd tân i unrhyw leoliad yng Ngogledd Cymru.  

Mae staff yr Ystafell Reoli yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau.  Mae ganddynt sgiliau dwyieithog rhagorol ac yn gallu meddwl yn gyflym a chyfnewid gwybodaeth yn gywir.

Yn ogystal ag ymateb i alwadau 999 ac anfon peiriannau tân i ddigwyddiadau maent hefyd yn gyfrifol am ystod eang o ddyletswyddau ac  mae'n hanfodol eu bod yn gweithio'n fanwl iawn ac yn cysylltu ag aelodau'r gwasanaeth, asiantaethau eraill, y cyhoedd a'r wasg.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen