Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cydlynydd Ffenics

Enw: Pam

Rôl: Cydlynydd Ffenics

Ychydig bach am fy rôl…

Rydw i’n rheoli pedwar o bobl i helpu i ddarparu Prosiect y Ffenics ledled Gogledd Cymru.

Rydym yn ymgysylltu gyda phobl ifanc rhwng 13 – 25 oed i’w cynorthwyo i deimlo’n fwy brwdfrydig a chadarnhaol amdanynt eu hunain er lles y gymuned leol.

Beth ydi’ch gweithgareddau ar ddiwrnod arferol?

Ar gwrs y Ffenics rydw i weithiau yn y swyddfa’n casglu gwybodaeth ystadegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, rheoli’r gyllideb, marcio a dilysu llyfrau gwaith y myfyrwyr a llofnodi tystysgrifau’r myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Mae rhan o’r swydd yn golygu siarad gyda’r myfyrwyr yn unigol os ydynt yn cael trafferth ymdopi gyda’r cwrs.

Rydw i’n ceisio’u cael i ddeall buddion y cwrs a’u hannog i’w gwblhau. Rydw i hefyd yn ymweld â’r maes ymarfer i oruchwylio’r gwersi gweithredol y mae’r myfyrwyr yn eu derbyn, ac mae hynny’n golygu dringo ysgolion a chwistrellu dŵr!

Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?

Rydw i’n mwynhau amrywiaeth y rôl, cael gweithio ar hyd a lled Gogledd Cymru, cwrdd â myfyrwyr a’u gweld yn newid yn ystod eu hwythnos ar gwrs y Ffenics.

Gweld y balchder sydd gan y myfyrwyr yn ystod y seremoni gyflwyno i rieni ac ysgolion a gwybod ein bod ni wedi chwarae rhan yn hynny.

Pam wnaethoch chi ddewis hyn fel gyrfa?

Ar ôl gadael yr ysgol cefais gyfle i ymuno ar Gynllun Hyfforddi Ieuenctid lle mynychais gyfweliad a chael cyfle i gwblhau’r cynllun gyda’r Llyfrgell, Gwasanaethau Cymdeithasol, Safonau Masnachu a’r gwasanaeth tân ac achub.

Roeddwn yn meddwl bod y gwasanaeth tân yn rôl wahanol a diddorol iawn.

Pa gymwysterau neu brofiad sydd ei angen i wneud y gwaith?

Ar ôl cychwyn ar fy ngyrfa gyda’r gwasanaeth tân ac achub yn ifanc iawn rydw i wedi cael llawer iawn o brofiad mewn gwahanol rolau, sydd wedi rhoi’r sgiliau sydd arnaf i eu hangen ar gyfer y rôl - yn enwedig yr elfen weithredol.

Rydw i’n dysgu rhywbeth newydd am weithio gyda phobl ifanc bob dydd.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd yn awyddus i ddilyn hyn fel gyrfa?

Mae’r gwasanaeth tân ac achub wedi bod yn gyflogwr gwych i mi ac rwyf yn ei argymell fel gyrfa.

Os gwelwch swydd y cael ei hysbysebu, peidiwch â chymryd yn ganiataol mai swydd diffodd tanau ydi hi - mae llawer iawn o rolau amrywiol. Mae’r cyfleoedd datblygu a’r hyfforddiant yr ydw i wedi ei gael wedi fy ngalluogi i fynd tu hwnt i fy nisgwyliadau pan ymunais am y tro cyntaf.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen