Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Nadolig

Dethlir y Nadolig gan Gristnogion i gofio genedigaeth Iesu Grist, mab Duw.

Daw’r gair Nadolig o'r Lladin Natalicia (Natalis) sy'n golygu digwyddiad sy'n ymwneud â geni.

Wedi’r hydref ac wrth i’r ddaear droi’n wyn, gwyddwn fod y Nadolig ar y gorwel. Gwelwn oleuadau’n ddisgleirio ym mhob tŷ a choed Nadolig ym mhobman gydag anrhegion wedi eu pentyrru oddi tanynt. Mae’r Nadolig ymhlith un o’r gwyliau Cristnogol pwysicaf o’r flwydd, ond beth ydi gwir ystyr y Nadolig?

 

  • Anrhegion?
  • Hwb blynyddol i’r economi?

 

Yn ein rhan ni o’r byd mae'r Nadolig yn gymysgedd o draddodiadau cyn-Gristnogol, Cristnogol a Seciwlar. 

Mae’n adeg i fyfyrio ar sylfaeni pwysig y ffydd Gristnogol. Ond mae hefyd yn gyfle i ddathlu cariad Duw ledled y byd trwy enedigaeth ei fab: Iesu.

Mae stori’r geni wedi ei gofnodi yn Luc 2:4-19.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am wneud yn siŵr fod pawb yn mwynhau tymor y Nadolig yn ddiogel ac felly hoffai petaech yn cymryd munud i ddarllen gair o gyngor i’ch cadw chi a’ch teulu’n ddiogel dros y Nadolig a’r Flwyddyn newydd.

Mae’r Nadolig yn gyfle i ddathlu, gyda theulu a ffrindiau. Yn ystod mis Rhagfyr mae nifer y tanau, anafiadau  a marwolaethau fwy na dwbl y cyfartaledd misol. Felly cymrwch bwyll dros y Nadolig  - mae’n hawdd iawn anghofio am beth yr ydych chi’n ei wneud ynghanol y prysurdeb a’r miri.  Dilynwch ein cyngor ar gadw’n ddiogel dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

 

Larymau Mwg

  • Sicrhewch fod gennych larymau mwg gweithredol ar bobl llawr yn eich cartref. Fe all larwm gweithredol roi cyfle i chi a’ch teulu fynd allan mewn achos o dân.
  • Sicrhewch eich bod chi’n profi’ch larymau mwg bob wythnos.
  • Peidiwch BYTH â thynnu batri’ch larwm mwg.

 

Cynllun Dianc

  • Gwnewch gynllun dianc a thrafodwch y cynllun gyda’ch teulu. Gwnewch yn siŵr bod perthnasau a ffrindiau sy’n ymweld â chi hefyd yn ymwybodol ohono.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych arferion diogelwch gyda’r nos. Diffoddwch oleuadau Nadolig, canhwyllau, sigaréts a phlygiau cyn mynd i’r gwely.

 

Trydanol

  • Peidiwch â gorlwytho socedi. Cofiwch - dim mwy na un plwg ym mhob soced.
  • Diffoddwch blygiau cyfarpar trydanol os nad ydych yn eu defnyddio oni bai eu bod yn bethau sydd i fod i gael eu gadael ymlaen, rhewgelloedd er enghraifft.

 

 

 

Bwyta ac yfed dros y Nadolig

  • Gellir priodoli 25% o’r holl danau sydd yn digwydd i alcohol
  • Roedd yfed alcohol yn ffactor gyfrannol yn achos 33% o danau
  • Peidiwch byth ag yfed a gyrru - bwciwch dacsi cyn mynd allan
  • Peidiwch byth ag yfed a choginio - rhag ofn i chi anghofio amdano. 

Coginio’n fwy diogel

  • Mae’r rhan fwyaf o danau yn cychwyn yn y gegin felly mae’n ardal risg uchel. Tra bydd nifer ohonom yn mwynhau llymaid dros y Nadolig ceisiwch osgoi coginio dan ddylanwad alcohol.
  • Os ydych chi’n mynd allan am y noson prynwch tecawê yn hytrach na pharatoi bwyd ar ôl dod adre.
  • Diffoddwch gyfarpar ar ôl gorffen coginio.
  • Ceisiwch ganolbwyntio ar y dasg yn enwedig os oes gennych chi lond tŷ,
  • Peidiwch byth â throi’ch cefn ar fwyd sydd yn coginio. 

Diogelwch Canhwyllau

  • Cadwch ganhwyllau ymhell oddi wrth addurniadau, coed Nadolig, cardiau, papur lapio, tanau, goleuadau a gwresogyddion.
  • Peidiwch byth â throi’ch cefn ar ganhwyllau wedi eu tanio.
  • Cadwch ganhwyllau ymhell o gyrraedd anifeiliaid anwes a phlant.

 

Addurniadau

  • Tynnwch blygiau’ch goleuadau Nadolig cyn mynd i’r gwely neu adael y tŷ
  • Gwnewch yn siŵr bod eich goleuadau’n cydymffurfio gyda’r safon ddiogelwch berthnasol e.e. Safon Brydeinig 60598
  • Defnyddiwch RCD (dyfais cerrynt gweddilliol) wrth ddefnyddio offer tu allan. Fe all y ddyfais achub bywydau trwy ddiffodd y pŵer os oes nam. Maent ar gael mewn siopau DIY.
  • Peidiwch â gorlwytho socedi gyda gormod o oleuadau.
  • Peidiwch â blocio allanfeydd gyda choed Nadolig, anrhegion ayb.  

Gwresogyddion

  • Os ydych chi’n defnyddio gwresogyddion ychwanegol cadwch nhw’n ddigon pell oddi wrth lenni, soffas, coed Nadolig ac addurniadau ayb.

 

Ysmygu

  • Diffoddwch hi, yn llwyr. Diffoddwch sigaréts yn llwyr a chymrwch bwyll os ydych chi wedi bod yn yfed neu wedi blino. Mae’n hawdd iawn syrthio i gysgu gyda sigarét yn eich llaw a rhoi’r dodrefn ar dân.

 

Gair i gall ar gadw’n ddiogel y Nadolig hwn

  • Cofiwch brynu digon o fatris fel na chewch chi’ch temtio i dynnu batris o’ch larymau mwg er mwyn eu rhoi mewn teganau ac ati

 

  • Cadwch addurniadau a chardiau ymhell o danau a ffynonellau gwres eraill megis goleuadau a chadwch lygaid ar ganhwyllau sydd ynghyn.

 

  • Rhowch ddigon o amser i’ch hun i baratoi a choginio cinio Nadolig rhag ofn i chi gael damwain wrth ruthro a chofiwch lanhau gollyngiadau yn syth rhag ofn i chi gael codwm.

 

  • Gochelwch rhag ceblau a gwifrau sy’n treulio os ydych chi’n rhuthro i ddefnyddio cyfarpar newydd sbon, a darllenwch y cyfarwyddiadau bob tro.

 

  • Codymau ydi’r damweiniau amlycaf felly cadwch eich cartref yn dwt a gwnewch yn siŵr bod digon o olau ar y grisiau a’u bod yn rhydd o geriach.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen