Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

Mae’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn nodi’r diwrnod cyntaf yn y calendr  lloerheulol Tsieineaidd (y calendr Tsieineaidd traddodiadol). Mae hefyd yn cael ei adnabod fel y Flwyddyn Newydd Lloerol neu Ŵyl y Gwanwyn. Mae diwrnod cyntaf yr ŵyl yn digwydd pan fydd lleuad newydd rhyw bryd rhwng yr 21ain  o Ionawr a Chwefror yr 20fed. Mae’r ŵyl yn para 16 diwrnod o’r Nos Galan i’r 15fed diwrnod sydd hefyd yn cael ei nodi fel Gŵyl y Llusernau.

Y Calendr Lloerheulol yn erbyn y Calendr Gregoraidd

Mae’r calendr lloerheuluol yn defnyddio safle’r haul a’r lleuad i bennu dyddiadau’r calendr. Mae’r calendr Gregoraidd, sef y calendr a ddefnyddir yn fyd eang heddiw, yn defnyddio safle’r haul i bennu dyddiadau’r calendr.

O amgylch y byd

Mae cymunedau Tsieineaidd yn dathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd mewn gwledydd ledled y byd, yn cynnwys America, Canada, nifer o wledydd Ewropeaidd, India, Pakistan, Indonesia, Singapore, Malaysia, Gwlad Thai ac Ynysoedd y Philipinau a llawer mwy. Mae nifer o gymunedau Tsieineaidd yn cael eu galw’n ardaloedd Tsieineaidd yn y gwledydd hyn fel Chinatown San Francisco, Los Angeles, a Sydney.

I nifer mae’n gyfle i ddathlu diwedd yr hen flwyddyn a dechrau’r flwyddyn newydd drwy goginio pryd arbennig i berthnasau a ffrindiau. Gan fod pobl yn treulio mwy o amser yn y cartref yn dathlu neu’n ymlacio, mae’r risg o dân yn cynyddu. Mae pobl yn brysur ar yr adeg yma o’r flwyddyn ac felly maent yn fwy agored i ddioddef tân yn y cartref am eu bod yn canolbwyntio ar fwy nag un dasg - mae’n hawdd iawn anghofion am fwy sydd yn coginio.

Felly os byddwch chi’n dathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd mae Gwasanaeth ân ac Achub Gogledd Cymru yn eich annog i wneud hynny’n ddiogel, felly dyma air i gall.

Coginio

  • Mae dros hanner y tanau y cawn ein galw atynt yn cychwyn yn y gegin, felly os ydych chi’n coginio pryd ar gyfer eich teulu a’ch ffrindiau dilynwch y cyngor isod:
  • Peidiwch byth â llenwi sosban â mwy na thraean o olew neu saim
  • Peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio
  • Peidiwch byth â rhoi bwyd yn y sosban neu’r badell os ydi’r olew wedi dechrau mygu. Diffoddwch y gwres a gadewch i’r olew oeri rhag ofn iddo fynd ar dân.
  • Peidiwch â gwisgo dillad llac wrth goginio rhag ofn i’ch dillad fynd ar dân neu rhag ofn i’ch dillad gael ei ddal yn rhywbeth neu dynnu rhywbeth am eich pen.
  • Cadwch lieiniau sychu llestri yn ddigon pell oddi wrth gyfarpar coginio rhag ofn iddynt fynd ar dân
  • Glanhewch bentan eich popty yn rheolaidd rhag saim - fe all fynd ar dân yn hawdd iawn 

Tân Gwyllt

Cadwch blant yn ddiogel

Rydym ni am i blant fwynhau tân gwyllt ond mae’n rhaid iddynt ddeall eu bod yn gallu bod yn beryglus os cânt eu defnyddio’n anghywir. Pob blwyddyn mae dros hanner yr anafiadau tân gwyllt yn digwydd i blant. Mae rhagor o wybodaeth ar gadw plant yn ddiogel ar gael gan yr Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Ymhlith Plant ac yn Direct.gov

Oeddech chi’n gwybod bod ffyn gwreichion (sbarclers) bum gwaith yn boethach nag olew coginio? Peidiwch byth â’u rhoi i blant dan bump oed.

Cadwch anifeiliaid yn ddiogel

Dylech amddiffyn eich anifeiliaid anwes ar yr adegau o’r flwyddyn pan gaiff tân gwylltu eu tanio.

Prynu tân gwyllt

Peidiwch â cheisio arbed ceiniog neu ddwy.  Prynwch dân gwyllt o siop ddibynadwy  a gwnewch yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â'r Safonau Prydeinig. Fe ddylent fod â BS 7114 ar y bocs.

Weithiau bydd siopau yn agor dros dro cyn digwyddiadau fel hyn ac efallai nad y siopau hyn yw'r llefydd gorau i brynu tân gwyllt. Weithiau nid yw staff y siopau hyn yn gwybod llawer am ddefnyddio tân gwyllt ac efallai na fydd y tân gwyllt y maent yn ei werthu yn cydymffurfio â'r Safonau Prydeinig.

Peidiwch byth â phrynu tân gwyllt os nad ydych yn siŵr, megis o gefn fan neu stondin farchnad heb drwydded.

Pa fath o dân gwyllt ddylech chi brynu

Mae sawl math gwahanol o dân gwyllt.  Mae gan y cyhoedd yr hawl i brynu a chynnau mwyafrif y tân gwyllt Categori 1 i 3.  Mae'r rhain yn cynnwys tân gwyllt y gellir eu tanio tu mewn, yn yr ardd ac yn ystod arddangosfeydd.

Darllenwch y bocs yn ofalus a gwnewch yn siŵr bod y tân gwyllt yr ydych wedi ei brynu yn addas ar gyfer eich lleoliad.

Mae rhai mathau o dân gwyllt sydd ar gael i'w prynu a'u defnyddio gan bobl broffesiynol yn unig. Mae'r rhain yn cynnwys: bomiau awyr, ffrwydron awyr, morterau, clecars, rocedi bychan, tân gwyllt crwydrol; rhai mathau o dân gwyllt categori 2 a 3 sydd yn fwy na'r maint penodedig; a thân gwyllt Categori 4.

Cynnau tân gwyllt

Dim ond un person ddylai fod yn gyfrifol am y tân gwyllt. Os mai chi sy'n gyfrifol, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd y rhagofalol angenrheidiol.  Darllenwch y cyfarwyddiadau yng ngolau dydd a pheidiwch ag yfed alcohol hyd nes eich bod wedi gorffen cynnau'r tân gwyllt.  Gwnewch baratoadau ymlaen llaw, ac yng ngolau dydd neu gyda thortsh (nid â fflam noeth).

Ar y noson  byddwch angen:

  • tortsh
  • bwced o ddŵr.
  • menig ac offer i amddiffyn eich llygaid.
  • bwced o bridd i roi'r tân gwyllt ynddo.
  • offer addas os ydych yn bwriadu tanion Olwynion Catrin neu lansio rocedi.

Os ydych chi’n bwriadu cynnau tân gwyllt i ddathlu achlysur, dilynwch y cod tân gwyllt.

 Dilynwch y cod tân gwyllt bob amser

  • Safwch yn ddigon pell yn ôl
  • Cadwch anifeiliaid anwes yn y tŷ
  • Cadwch dân gwyllt mewn bocs caeedig
  • Prynwch dân gwyllt gyda marc CE arnynt
  • Taniwch hwy hyd braich gan ddefnyddio tapr
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau unigol ar gyfer y  tân gwyllt
  • Peidiwch byth â rhoi sbarcler i blentyn dan bump oed
  • Peidiwch ag yfed alcohol os ydych chi’n tanio tân gwyllt
  • Goruchwyliwch blant os oes tân gwyllt gerllaw
  • Taniwch sbarclers un ar y tro a gwisgwch fenig
  • Peidiwch byth â chadw tân gwyllt yn eich poced na’u taflu
  • Peidiwch byth â mynd yn ôl at dân gwyllt ar ôl ei danio -fe all ffrwydro hyd yn oed os nad ydyw wedi gweithio

Tân gwyllt a’r gyfraith

Mae rheolau ynglŷn â phryd y gellir gwerthu tân gwyllt ac i bwy - yn ogystal â phryd y gellir eu tanio.

Os ydych chi dan 18, allwch chi ddim:

  • Prynu’r math o dân gwyllt sydd ar werth i oedolion yn unig
  • Mynd â thân gwyllt i fannau cyhoeddus
  • Os gwnewch chi, fe allwch gael dirwy o £80 gan yr heddlu yn y fan a’r lle

Mae yn erbyn y gyfraith:

  • Cynnau neu daflu tân gwyllt yn y stryd neu mewn man cyhoeddus arall
  • Cynnau tân gwyllt rhwng 11.00 pm a 7.00 am - ac eithrio yn ystod dathliadau penodol
  • Os ydych chi’n euog fe allwch gael dirwy o hyd at £5,000 neu hyd at dri mis o garchar. Fe allwch hefyd dderbyn tâl o £80 yn y fan a’r lle.

Pryd gewch chi ddathlu gyda thân gwyllt?

Cewch danio tân gwyllt:

  • Tan hanner nos ar Noson Tân Gwyllt
  • Tan 1.00 am ar Nos Galan, Diwali a’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

 Canhwyllau

Os ydych chi’n bwriadu tanio canhwyllau fel rhan o’ch dathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd, dilynwch y cyngor isod rhag tân:

Canhwyllau

  • Rhowch ganhwyllau te a goleuadau nos mewn daliwr canhwyllau pwrpasol - fe allant doddi ddefnyddiau plastig
  • Diffoddwch ganhwyllau cyn gadael yr ystafell
  • Cadwch ganhwyllau ymhell o ddodrefn meddal a dillad
  • Cadwch ganhwyllau, matsis a thanwyr ymhell o gyrraedd plant
  • Rhowch ganhwyllau addunedol neu arogl mewn daliwr metel neu wydr gan eu bod yn troi’n hylif er mwyn rhyddhau’r arogl

Llusernau Tsieineaidd

Cyn eu tanio ystyriwch yr amgylchedd lleol a’u llwybr teithio/glanio.

Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n argymell eich bod yn eu defnyddio.

Maent ganddynt fflam noeth ac felly maent yn peri risg i fywyd ac eiddo.

Maent hefyd yn peryglu da byw. Yn aml iawn mae anifeiliaid yn cael eu lladd a’u hanfu o ganlyniad i fwyta darnau metel o’r llusernau hyn wedi iddynt lanio mewn caeau a chael eu cynaeafu gyda’r gwair. Maent hefyd yn gallu cael eu lladd neu eu hanafu o ganlyniad i fynd yn sownd mewn llusernau sydd wedi glanio mewn caeau. Mae Gwylwyr y Glannau hefyd wedi gweld y llusernau hyn yn yr awyr ac wedi anfon adnoddau allan y  ddiangen am eu bod wedi eu camgymryd am fflerau argyfwng.

 

 

Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dymuno Blwyddyn Newydd Tsieineaidd hapus a diogel i bawb.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen