Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dweud Nid Difaru

Heddiw mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi lansio ymgyrch yn Llandudno sydd yn erfyn ar drigolion i helpu i adnabod pobl yn y gymuned sydd mewn mwy o berygl o ddioddef tân yn y cartref.

Mae Kevin Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych yn egluro:

“Yn ogystal ag ymateb i danau, rydym hefyd yn gweithio i atal tanau rhag digwydd yn y lle cyntaf - ac rydym angen help gan drigolion lleol i gyflawni hyn.

“Rydym ni’n gofyn i drigolion Llandudno gefnogi’n hymgyrch 'Dweud Nid Difaru'.

“Rydym ni’n llwyr ymwybodol bod aelodau’r gymuned sydd mewn mwy o berygl o ddioddef tân hefyd yn bobl fregus iawn, un ai oherwydd y ffordd y maent yn dewis byw eu bywyd neu oherwydd eu hamodau byw.

“Yn aml iawn mae pobl yn anwybyddu arwyddion damwain sydd yn siŵr o ddigwydd. 

“Felly rydym ni eisiau i bobl gysylltu gyda ni os ydynt yn adnabod rhywun sydd mewn perygl fel y gallwn ni gymryd camau i helpu i atal tân rhag digwydd yn y gobaith o achub bywydau."

firefighter

Beth ydi'r arwyddion y dylech chi fod yn wyliadwrus ohonynt?

“Mae’r arwyddion y dylai pobl fod yn wyliadwrus ohonynt yn cynnwys, er enghraifft, ysmygu  yn y gwely, anghofio am fwyd sydd yn coginio, celcio, rhywun sydd yn dod adref yn aml ar ôl bod yn yfed a cheisio coginio - mae’r rhain i gyd yn cynyddu’r perygl o dân.

“Peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion – os ydych chi’n credu bod rhywun mewn perygl yna codwch y ffôn a rhowch wybod i ni. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei drin yn gyfrinachol.

“Peidiwch a gadael i rywun yr ydych chi’n ei adnabod fod y person  nesaf i farw mewn tân. Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn achub bywyd.”

banner cym

Gyda'n gilydd gallwn achub bywydau

Os ydych chi'n amau bod rhywun yn ardal Llandudno mewn mwy o berygl o ddioddef tân cofiwch Ddweud Nid Difaru  

Ffoniwch ni ar 01745 352777

Neu anfonwch ebost i: ConwyOffice@gwastan-gogcymru.org.uk

FF pic

Os ydych chi'n byw yn ardal Llandudno - d'wedwch wrthym ni os ydych chi'n meddwl bod rhywun mewn perygl

Cymrwch ran yn ein cystadleuaeth ar Twitter

Bydd y cymeriad bach yma'n ymweld â nifer o lefydd yn #Llandudno yn ystod yr ymgyrch #DweudNidDifaru i helpu i godi ymwybyddiaeth.

Dilynwch ni ar Twitter i gymryd rhan yn y gystadleuaeth am gyfle i ennill talebau archfarchnad lleol.

Pob lwc

larwm mwg

Helpwch ni trwy rannu'n negeseoun #DweudNidDifaru

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen