Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad ar ymgynghoriad cyhoeddus yr Adolygiad Darpariaeth Brys

Postiwyd

Cyflwynwyd adroddiad ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus i aelodau'r Awdurdod Tân ac Achub Llawn mewn cyfarfod cafodd ei gynnal yn gynharach heddiw (Dydd Llun 16 Hydref).

Cwblhaodd 1,776 o bobl yr holiadur a casglwyd adborth gan y rhai sy'n byw, gweithio a theithio yng Ngogledd Cymru ynghylch darparu gwasanaeth brys yn y dyfodol.

 

Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar agor rhwng 21 Gorffennaf 2023 a 30 Medi 2023 a gellir dod o hyd i fanylion yr opsiynau a gyflwynwyd ar wefan y gwasanaeth tân ac achub www.tangogleddcymru.llyw.cymru.

 

Yn seiliedig ar adborth y cyhoedd i’r ymgynghoriad, cytunodd aelodau’r Awdurdod Tân ac Achub heddiw â’r argymhelliad gan Weithgor Aelodau Adolygu Gwasanaethau Brys y dylai swyddogion barhau i weithio ar ddatblygu Opsiwn 1 gan ystyried y pwyntiau a godwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad, a dylai'r Awdurdod roi'r gorau i weithio ar Opsiynau 2 a 3 a gyflwynwyd fel rhan o'r Adolygiad Darpariaeth Brys.

 

Dywedodd Dylan Rees, Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub: “Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad hwn. Cawsom ymateb gwych gan bobl a gwblhaodd yr holiadur yn ogystal â mynychu’r digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ar draws Gogledd Cymru, er mwyn cofnodi eu barn ar y tri opsiwn a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad.

 

“Yn y cyfarfod y bore yma, adroddodd Aelodau’r Awdurdod eu bod yn teimlo bod yr ymgynghoriad wedi bod yn hynod drylwyr a’i fod wedi’i ddadansoddi’n fanwl. Cytunodd yr Aelodau, o ganlyniad i’r safbwyntiau a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad, y bydd y ffocws wrth symud ymlaen ar ddatblygu Opsiwn 1 sef yr unig opsiwn nad yw’n cynnwys lleihau swyddi diffoddwyr tân .”

 

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Dawn Docx: “Byddwn nawr yn rhoi ein hymdrechion a’n hadnoddau ar ddatblygu Opsiwn 1 ymhellach a hoffwn roi sicrwydd y byddwn yn gweithio gydag aelodau o Undeb y Brigadau Tân, ar lefel leol a rhanbarthol, i ganfod consensws ar y ffordd ymlaen.

 

“Mae’n galonogol bod lefel yr ymateb i’r ymgynghoriad gan bawb a gymerodd ran yn dangos cymaint o gefnogaeth ac yn cydnabod gwerth ein gwasanaeth tân ac achub. Yn yr un modd, mae canolbwyntio ar ddatblygu Opsiwn 1 ymhellach yn y dyfodol yn cynnig y potensial ar gyfer gwella ein gwasanaethau a ddarperir i bobl Gogledd Cymru yn y dyfodol.”

 

Cynhelir cyfarfod penderfynu terfynol yr Awdurdod Tân ac Achub ar 18 Rhagfyr a bydd recordiad o’r cyfarfod hwn ar gael ar y wefan www.tangogleddcymru.llyw.cymru, i’r rhai sydd â diddordeb mewn clywed y drafodaeth am sut mae’r penderfyniad yn cael ei wneud.

 


Ar ôl i'r penderfyniad terfynol gael ei wneud, byddai unrhyw newidiadau i ddarpariaeth frys y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Ngogledd Cymru yn digwydd fesul cam, fel rhan o  Gynllun Rheoli Risg Cymunedol 2024/29.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen