Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gweithio gyda’n gilydd i amddiffyn trigolion y rhanbarth yn ystod tywydd garw

Postiwyd

Wythnos yn ôl i heddiw bu staff yr ystafell reoli, criwiau a swyddogion yn gweithio yn ddiflino ar draws y rhanbarth er mwyn rhoi cysur i’n cymunedau yn ystod llifogydd trallodus Storm Babet.

Yn dilyn ymlaen o hyn, bu staff o’r Gwasanaeth yn cymryd rhan mewn ymarferion Cymru gyfan o amgylch ardal Caerdydd ddydd Mercher a dydd Iau fel rhan o’n gwaith paratoi ar gyfer llifogydd.

Justin Evans, Rheolwr Ardal Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru oedd y rheolwr strategol ar ddyletswydd yn ystod llifogydd yr wythnos ddiwethaf. Eglurodd: "Ar anterth y gweithgarwch roedd gennym rybuddion llifogydd ar draws ardal y Gwasanaeth gan gynnwys rhybuddion gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Afon Alun, Clwyd, Gele, Elwy, Dyfrdwy Uchaf a Dalgylch Mawddach ac Wnion.

"Roedd tarfu sylweddol ar y rhwydwaith ffyrdd, yn enwedig yn ardaloedd Sir y Fflint, ac roedd gennym bocedi o eiddo preswyl yr oedd dŵr wedi llifo i mewn iddynt ac effeithio arnynt.

"Daethpwyd â staff ychwanegol i’n hystafell reoli i gynorthwyo i reoli nifer y galwadau - cafodd dros 300 o ddigwyddiadau eu cofnodi ar ein system rheoli digwyddiadau gyda swyddogion a pheiriannau yn mynychu 44 o ddigwyddiadau. Roedd swyddogion yn unig wedi mynychu 19 o ddigwyddiadau eraill hefyd. Digwyddodd llawer o'r galwadau hyn am gymorth ar yr un pryd ac roedd yn heriol eu cyrraedd gyda llawer o ffyrdd a llwybrau mynediad ar gau.

"Cyrhaeddodd y galwadau eu hanterth nos Wener a lleihau wrth iddi nosi - roedd hyn yn cyd-fynd â symudiadau disgwyliedig pobl. Er gwaethaf ceisiadau cyson gennym ni a’n hasiantaethau partner, roedd gyrwyr yn dal i fynd i ardaloedd lle roedd llifogydd, hyd yn oed wrth i amodau’r tywydd waethygu. Gwnaethom ymateb i tua 25 o gerbydau a oedd wedi’u dal mewn llifogydd, gan gynorthwyo i achub a symud pobl o ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.

"Roedd llawer o’r digwyddiadau hyn yn golygu bod angen ailddefnyddio’r un adnoddau arbenigol dros gyfnod maith - felly roedd yn dipyn o gamp i’r rhai a gymerodd ran.

"Bu’r Ystafell Reoli yn rheoli llif gwybodaeth a phenderfyniadau allweddol gydag ymdeimlad o frys digynnwrf - mae’n eithaf amserol bod eu gwaith yn cael ei ddathlu’r wythnos hon yn ystod Wythnos Ryngwladol Ystafelloedd Rheoli.

"Roedd negeseuon rheolaidd o gyngor a chysur yn cael eu rhannu drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â swyddogion yn cymryd rhan mewn cyfweliadau darlledu i’r BBC. Buom yn cyfathrebu’n rheolaidd â’n partneriaid drwy’r Grŵp Cydlynu Technegol gyda negeseuon clir a chyson yn cael eu cyhoeddi a’u rhannu gan y partneriaid fu’n cymryd rhan.

"Wrth gwrs, roedd rhai achlysuron lle byddai pobl yn dymuno y byddem wedi gallu gwneud mwy. Elfen allweddol yn ein hymateb oedd yr empathi a gafodd ei ddangos gan ein staff, a sicrhau bod ein hadnoddau’n cael eu defnyddio mewn mannau lle bydden nhw’n gwneud gwahaniaeth go iawn.

“Effeithiwyd ar ein heiddo ein hunain hefyd gan y llifogydd - yng Ngorsaf Dân Bae Colwyn. Cafodd effaith y llifogydd yn yr Orsaf ei lliniaru gan aelodau staff nad oeddent ar ddyletswydd ac rydym yn gweithio gyda’r awdurdod lleol i glirio gyli draenio sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r Orsaf.

“Yn ogystal â’r pwysau oherwydd effeithiau’r tywydd, fe wnaethom hefyd ymateb i nifer o ddigwyddiadau eraill.

“Da iawn a diolch i’n staff a’n holl bartneriaid aml-asiantaeth ar draws Gogledd Cymru a weithiodd gyda ni i ddiogelu ein cymunedau.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen