Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

#DiogeluParchuMwynhau – Ymgyrch Bang 2023

Postiwyd

Gyda Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt ar y gorwel, rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i helpu i sicrhau bod pawb yn dathlu mewn ffordd ddiogel a chyfrifol.

Mae ein Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn chwarae rhan allweddol yn yr ymgyrch #OpBang sy'n canolbwyntio ar leihau gwahanol fathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys cynnau tanau'n fwriadol.

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn disgwyl nosweithiau mwy prysur nag arfer a thra bod hyn yn gyfnod o hwyl i lawer, gall fod yn gyfnod pryderus i eraill yn y gymuned.

Bob blwyddyn mae'r heddlu yn gweld ymddygiad gwrthgymdeithasol, felly mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog rhieni a gofalwyr i gymryd diddordeb yng nghynlluniau eu plant er mwyn sicrhau eu bod yn ymddwyn yn gyfrifol heb achosi problemau yn y gymuned. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith tymor hir ar fywyd person ifanc, ac ar y rhai sy'n cael eu heffeithio gan eu hymddygiad.

Mae #YmgyrchBang yn ymgyrch flynyddol rhwng partneriaid ac awdurdodau lleol sy’n helpu lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol dros yr wythnosau sydd i ddod.

Er mwyn paratoi ar gyfer #YmgyrchBang mae swyddogion o Dimau Plismona’r Gymdogaeth ar draws Gogledd Cymru wedi bod yn ymgysylltu gyda phobl mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid yn trefnu gweithgareddau gyda help arian o Ymddiriedaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT).

Bydd gwaith dros y cyfnod hefyd yn cynnwys hyrwyddo negeseuon allweddol am fod yn ystyrlon a pharchus i bob aelod o'r gymuned gan atgyfnerthu na fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei oddef, yn ogystal â negeseuon diogelwch i blant.

Mae perchnogion siopau hefyd yn cael eu hannog i beidio â gwerthu blawd ac wyau i blant hyd at 31 Hydref.

Dywedodd Geraint Richards o Heddlu Gogledd Cymru "Gobeithio y bydd pobl yn ymddwyn yn gyfrifol ar Noson Tân Gwyllt eleni fel y maent wedi gwneud ar nosweithiau blaenorol. Gwyddom fod y mwyafrif o bobl yn mwynhau'r cyfnod hwn mewn modd call ac nid ydym yn ceisio sbwylio eu hwyl ond yn anffodus mae lleiafrif yn gweld y dathliadau yn ffordd o droseddu a gweithredu'n wrthgymdeithasol. Rydym am weithio gydag ein cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn gallu mwynhau eu hunain yn ddiogel.

“Mae ein timau ac ein partneriaid yn gweithio ar draws yr ardal - yn helpu addysgu, sicrhau a chadw ein cymunedau yn ddiogel. Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf cofrestrwch er mwy derbyn Rhybuddion Cymunedol.

 Hafan - Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru

Mae'r galw ar y gwasanaethau yn codi yn sylweddol yn ystod cyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt. Er mwyn cadw ein llinellau yn glir ar gyfer y mwyaf anghenus gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â'r asiantaeth fwyaf perthnasol ac yn defnyddio'r dull cysylltu mwyaf priodol.

  • Mae gofidion ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch cyhoeddus yn fater i'r heddlu. Os nad yw'n argyfwng cysylltwch â ni drwy'r wefan - Hafan | Heddlu Gogledd Cymru. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
  • Dylai cwynion am sŵn, gwerthu tân gwyllt a nwyddau eraill ynghyd â phryderon am ollwng sbwriel gael eu gwneud i'r awdurdod lleol drwy Ein partneriaid | Heddlu Gogledd Cymru

Ychwanegodd yr Arolygydd Richards: “Rydym wedi cynllunio posteri ar gyfer pobl i ddangos yn eu ffenestri, felly lawrlwythwch rhain o'n gwefan a'u hargraffu ar gyfer perthnasau a chymdogion hŷn.  Os gwelwch boster yn cael ei ddangos yn gofyn i blant sy'n chwarae cast neu geiniog i beidio â galw, parchwch eu dymuniad i gael llonydd."

Mwynhewch Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn ddiogel. Cadwch yn ddiogel a gofalwch am eich gilydd. 

Mae rhagor o wybodaeth am PACT ar gael ar drwy: Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (pactnorthwales.co.uk)

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen