Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Diwrnod Cofrestru fy Nghyfarpar

Postiwyd

Wrth gefnogi Diwrnod Cofrestru fy Nghyfarpar ar 24 Ionawr 2019, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn awyddus i atgoffa trigolion lleol i gymryd ychydig o funudau ar www.registermyappliance.org.uk i gofrestru’r eitemau o gyfarpar mawr y maent yn dibynnu arnyn nhw bob dydd i ddelio gyda thasgau hanfodol, oeri bwyd a choginio ar gyfer eu teuluoedd.   

Gyda llai na thraean o’r nwyddau gwyn mawr hyn wedi eu cofrestru pan brynwyd nhw (31% ar gyfartaledd[1]), mae llawer o weithgynhyrchwyr arweiniol yn cynnig gwobrau neu gymhellion i annog perchnogion i  sicrhau bod eu oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau golchi, peiriannau sychu a chyfarpar coginio wedi eu cofnodi, rhag ofn y bydd angen trwsio er diogelwch rhyw dro.

Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr Peiriannau Domestig (AMDEA) wedi edrych yn benodol ar berchnogaeth luosog yn gofyn lle mae un, neu hyd at bedwar, o bob math o ofer yn cael eu defnyddio mewn cartrefi. Gan nad ydym o reidrwydd yn dadgomsiynu hen offer pan brynwn un newydd, mae hyn wedi caniatáu amcangyfrifon newydd a chywirach o’r nifer enfawr o nwyddau gwyn mawr sy’n rhedeg ar hyn o bryd ar aelwydydd y DU.

Rydym wedi mynd mor ddibynnol ar ein rhewgelloedd, efallai oherwydd eu bod yn cynnig manteision coginio yn y cartref a llai o wastraff  bwyd, fel bod mwy na 2 filiwn[2] nawr ym meddiant aelwydydd gyda phedwar rhewgell. Os ydych chi’n meddwl tybed pwy sydd gan le i hyn, mae bron i draeaon (29%) o’r aelwydydd yn cadw rhewgell yn y modurdy neu’r sied.

Mae porth gwe Cofrestru fy Nghyfarpar yn fenter ddiogelwch a luniwyd gan AMDEA i’w gwneud yn gyflymach ac yn haws i gofrestru mwy na chwe deg brand arweiniol o offer, yn uniongyrchol gyda’r gweithgynhyrchydd.

Mae dwy ran o dair o bobl (67%) heb gofrestru offer hŷn a brynwyd rhyw ddwy flynedd yn ôl, wedi eu canfod yn eu cartefi pan symudason nhw yno, wedi eu cael gan deulu neu ffrindiau, neu wedi eu prynu ail-law.

Meddai Justin Evans, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: “Rydym yn gwybod bod offer yn cael ei gadw am lawer o flynyddoedd ac mai ychydig iawn o bobl sy’n gwybod y medrent gofrestu modelau hŷn. Dyma’r peiriannau sy’n anodd eu holrhain os oes angen trwsio er diogelwch a dim ond eu perchnogion presennol a all adael i’r gweithgynyrchwyr wybod eu bod ganddynt.”

Mewn nifer fechan o achosion, gall gweithgynhyrchydd adnabod problemau gyda model ar ôl iddo gael ei ddefnyddio am beth amser. Mae angen iddyn nhw wedyn gysylltu â’r perchennog i gywiro pethau cyn gynted ag y bo modd. Fel rheol, bydd ymweliad â’r cartref gan dechnegydd yn dileu unrhyw risg, ond gall fod yn anodd olrhain cwsmeriaid, yn enwedig os prynwyd yr eitem beth amser yn ôl.

Pan ystyriodd ymatebwyr restr o naw cam y maent yn eu cymryd i sicrhau diogelwch eu cartref, roedd sicrhau bod offer wedi ei gofrestru gyda’r gweithgynhyrchydd yn agos at y gwaelod, yn rhif wyth, yn ail i ddenfyddio camerâu diogelwch.

 

[1] Mae’r holl ffigurau, oni nodir fel arall, gan YouGov Plc.  Maint y sampl oedd 2040 o oedolion. Ymgymerwyd â gwaith maes rhwng 12-13eg Rhagfyr 2018.  Ymgymerwyd â’r arolwg arlein. Mae’r ffigurau wedi eu pwyso ac yn cynrychioli holl oedolion y DU (18+ oed)

[2] [2] AMDEA, yn defnyddio canrannau arolwg YouGov 2018 ar gyfer perchnogaeth cyfarpar i’r 27.2m o aelwydydd a adroddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol 2017  

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen