Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru yn lansio fideos newydd i amlygu rôl y Diffoddwr Tân Ar Alwad

Postiwyd

Heddiw mae’r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru wedi lansio cyfres o fideos sydd yn cynnwys Diffoddwyr Tân System Dyletswydd Rhan Amser neu Ar Alwad i annog eraill o bob cwr o’r wlad i ystyried yr her o helpu’r gymuned.

 

Mae’r fideos yn helpu i roi gwell dealltwriaeth i bobl ynglŷn â rôl y diffoddwr tân ac maent yn cynnwys llawer o wybodaeth bwysig i helpu pobl sydd yn awyddus i ymgeisio yn ogystal â chyfweliadau ysbrydoledig gyda phobl sydd eisoes yn gweithio yn y rôl ledled Cymru.

 

Meddai’r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gary Brandrick o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym yn falch iawn o gael lansio’r fideos yma sydd yn rhoi mewnwelediad i rôl y Diffoddwr Tân Rhan Amser neu Ar Alwad trwy lygaid pobl sydd eisoes yn gwneud y gwaith.

 

“Mae’r diffoddwyr tân yma yn darparu gwasanaeth tân ac argyfwng hanfodol yn eu gorsafoedd tân lleol. Maent yn cynrychioli amrywiaeth eang o bobol gan gynnwys adeiladwyr, perchnogion siop, nyrsys, gweithwyr ffatri, rhieni sydd yn aros gartref neu bobl sydd yn gweithio o’r cartref. Yn ogystal â’u gwaith arferol maent hefyd yn ar gael i fynychu digwyddiadau brys yn ôl y galw.

 

“Golyga hyn y gallant fod wrth eu gwaith arferol hyd nes y byddant yn derbyn galwad gan y gwasanaeth tân ac achub trwy declyn rhybuddio, ac wedyn maent yn newid i fod yn ddiffoddwyr tân proffesiynol – unigolion sgilgar sydd wedi eu hyfforddi’n llawn ac sydd yn achub bywydau ac eiddo rhag tân.

 

“Mae gwahanol gyfleoedd ar gael i Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad ledled Cymru, ac mae pob Gwasanaeth yn recriwtio mewn lleoliadau niferus yn ôl y galw.

 

“Rwyf yn siŵr y bydd y fideos yma’n ysbrydoli darpar ddiffoddwyr tân o bob cwr o’r rhanbarth a hoffwn ddiolch yn bersonol i’r aelodau staff hynny sydd wedi rhannu ei profiadau. Maent yn falch iawn o’r gwaith y maent yn ei wneud i ni ac yn yr un modd rydym ninnau’n falch iawn o’u cyfraniad gwerthfawr hwy.”

 

Mae’r fideos yn ymdrin â phynciau eang gan gynnwys Beth mae Diffoddwyr Tân RDS neu Ar Alwad yn ei wneud, Pa rinweddau a sgiliau sydd eu hangen i ymgymryd â’r rôl, Sut maent yn cael eu gwerthfawrogi yn eu cymunedau ac yn y gwasanaeth tân ac achub. Mae yna hefyd fideo i gyflogwyr sydd yn darparu rhagor o wybodaeth ar ryddhau staff i fod yn Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.

 

Meddai’r Prif Swyddog Cynorthwyol Dros Dro Kevin Jones, o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Mae’r staff sydd yn ymddangos yn y fideos yma a’u cyd-Ddiffoddwyr Tân Rhan Amser o bob cwr o Gymru wedi ymrwymo i helpu eu cymunedau lleol.

 

“Maent yn darparu arbenigedd yn ystod amrywiaeth eang o ddigwyddiadau brys, gan gynnwys tanau mewn cartrefi, llifogydd, tanau glaswellt a damweiniau amaethyddol. Mae ein criwiau hefyd yn cael eu galw at wrthdrawiadau traffig i achub unigolion, darparu triniaeth feddygol a gofal i gleifion a diogelu’r safleoedd.

  

“Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu hŷn, brwdfrydig, heini a dangos ymrwymiad ac ymroddiad. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn cael eu cyflogi i amddiffyn pawb yn y gymuned, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir i gynrychioli’r bobl yr ydym ni’n eu gwasanaethu.

 

“Os ydy’ch cais i fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yn lwyddiannus, byddwch yn dod yn aelod o dîm sgilgar iawn. Fel cyflogwr byddwn yn buddsoddi ynoch chi, sydd yn golygu y byddwch yn derbyn hyfforddiant ar ddechrau a thrwy gydol eich gyrfa fel Diffoddwr Tân Ar Alwad.

 

“Mae atal tanau yn rhan bwysig iawn o waith y Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae ein Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn chwarae rôl ragweithiol yn y gwaith o gynnal Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref a darparu cyngor diogelwch yn eu cymunedau.

 

“Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn dysgu mwy wrth wylio’r fideos yma ac y byddant yn cael eu hysbrydoli i ymuno gyda ni i amddiffyn ein cymunedau.”

 

Fe ychwanegodd Gareth Davies, Rheolwr Maes o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

 

“Mae diffodd tanau yn gwbl wahanol i unrhyw swydd arall.

 

“Mae’n anrhagweladwy, cyffrous a boddhaol, ac mae darparu gwasanaeth hanfodol i’r gymuned leol yn rhoi llawer iawn o bleser a pharch i bobl.

 

“Byddwch yn dysgu sgiliau newydd yn ystod eich gyrfa megis cymorth cyntaf, gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd a diogelwch tân, a bydd cyfle hefyd i chi ddysgu sgiliau eraill megis gyrru Cerbydau Nwyddau Mawr (LGV). Ochr yn ochr â’r sgiliau hyn, bydd cyfleoedd datblygu niferus ar gael a all eich helpu yn eich prif gyflogaeth.”

 

“Rwyf yn annog pawb i wylio’r fideos i gael gwybod mwy am waith y diffoddwyr tân yma – mae’n rôl hollol unigryw, ac mae’n bosib mai dyma’r rôl i chi.”

 

I wylio’r fideos ac i gael gwybod mwy am y cyfleoedd recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân RDS neu Ar Alwad sydd ar gael yn y tair ardal Gwasanaeth ewch i’r tudalennau recriwtio ar wefannau’r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru.

 

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru – www.gwastan-gogcymru.org.uk

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru – www.tancgc.gov.uk

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru – www.decymru-tan.gov.uk

 

 

I wylio clip byr sy’n hybu’r fideos cliciwch yma ac i wylio’r fideos yn eu cyfanrwydd cliciwch yma.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen