Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân ger Aberdyfi

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân wrthi’n delio gyda thân mewn adeilad ger Aberdyfi ar ôl cael eu galw at y digwyddiad am 12.40 o’r gloch heddiw (Dydd Gwener 16eg Chwefror).  

Mae sawl injan dân yn bresennol o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Roedd yr adeilad, sydd wedi cael ei rannu’n fflatiau, yn wenfflam erbyn i’r  diffoddwyr tân gyrraedd, ac maent wrthi’n ymladd y tân sydd wedi effeithio ar do’r adeilad.

Mae disgwyl i’r criwiau aros ar y safle am beth amser hyd nes y bydd y tân dan reolaeth.

Nid yw achos y tân wedi ei gadarnhau eto.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen