Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân trasig yn Acrefair yn amlygu pwysigrwydd diogelwch trydanol a larymau mwg

Postiwyd

Mae peryglon tanau trydanol yn cael eu hamlygu yn dilyn tân mewn eiddo yn Acrefair, ger Wrecsam dros y penwythnos lle bu farw dynes yn anffodus.

Mae’r rhybudd hwn yn cyd-fynd ag Wythnos Diogelwch Tanau Trydanol (19-25 Tachwedd),ac mae’r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru wedi ymuno i hyrwyddo ymgyrch newydd sydd yn canolbwyntio ar ddiogelwch cyfarpar trydanol yn y cartref.

Cafodd criwiau o Johnstown a Wrecsam eu galw at dân mewn tŷ yng Ngwynant, Acrefair am 00.52 o’r gloch ddydd Sul Tachwedd 18fed.  Fe ddefnyddiodd y criwiau bedair set o offer anadlu a dwy bibell dŵr i daclo’r tân a achosodd ddifrod tân i 30% o’r gegin, difrod gwres difrifol  i weddill y gegin a difrod mwg 100% drwy weddill yr eiddo. 

Cafodd dyn a dynes eu cludo i’r ysbyty ond yn anffodus bu farw’r ddynes yn ddiweddarach.

Credir bod y tân wedi ei achosi gan broblem drydanol yn neu yn agos at yr oergell. 

Meddai Justin Evans, Pennaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “ Rwyf yn cydymdeimlo’n ddwys gyda theulu a ffrindiau’r rhai a oedd yn rhan o’r digwyddiad trasig hwn.

“Mae’r tân yma’n dangos pa mor beryglus ydi tanau trydanol - fe allant ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le.

“Dim ond ddoe roeddem yn lansio ein hymgyrch newydd i amlygu pwysigrwydd defnyddio nwyddau gwyn yn ddiogel fel rhan o Wythnos Diogelwch Trydanol.

“Ein cyngor ydi byddwch mor barod  â phosibl rhag tân, drwy sicrhau bod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a sicrhau bod gennych lwybrau dianc clir er mwyn eich galluogi chi a’ch teulu i fynd allan o’ch cartref mor gyflym â phosib.”

"Dyma gamau syml y gallwch chi eu cymryd i’ch helpu i atal tân trydanol yn eich cartref. Maent yn cynnwys:

- PEIDIO â gorlwytho socedi
- GWIRIO gwifrau yn rheolaidd rhag ofn eu bod wedi gwisgo neu dreulio

- TYNNU Plygiau cyfarpar pan nad ydych yn eu defnyddio
- CADW Cyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da

- DATOD lidiau estyn yn llawn cyn eu defnyddio.

- DILYN cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar ddefnyddio ac edrych ar ôl eich cyfarpar.  Cofrestrwch eich cyfarpar yn www.registermyappliance.org.uk, er mwyn i wneuthurwyr allu cysylltu gyda chi os oes nam ar y cyfarpar, neu os caiff y cyfarpar ei alw’n ôl. Mae cyngor pellach gan wneuthurwyr ar ddiffygion, neu gyfarpar sydd wedi cael eu galw’n ôl, ar gael ar wefan Electrical Safety First  www.electricalsafetyfirst.org.uk

“I gael gwybod mwy am ein hymgyrch Diogelwch Nwyddau Gwyn ac i roi cynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampau’ ar ein gwefan ac ar ein tudalen Facebook – ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk am ragor o wybodaeth.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen