Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Byddwch yn ddiogel ar noson tân gwyllt

Postiwyd

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar bobl ifanc i beidio â chwarae gyda thân gwyllt na chynnau coelcerthi.

 

Gydag phythefnos i fynd tan noson tân gwyllt mae’r gwasanaeth tân ac achub yn annog y cyhoedd i gymryd pwyll gyda thân gwyllt ac i fynychu nosweithiau tân gwyllt cymunedol.

 

Dywedodd Justin Evans, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: "Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae diogelwch yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom.  Nid oes modd gorbwysleisio mai'r ffordd orau i ostwng nifer yr anafiadau ar adeg noson tân gwyllt ydi mynd i arddangosfa gymunedol wedi’i threfnu.  Dyma'r arddangosfeydd mwyaf diogel, sydd â’r cyfleusterau gorau a lle cewch y gwerth gorau am eich arian. Ar adeg noson tân gwyllt, mae pobl oedrannus a pherchnogion anifeiliaid anwes yn pryderu fwy, felly trwy fynd i arddangosfa gymunedol, mae modd lleihau'r pryder hwn.

 

“Ewch i’n gwefan neu’n tudalennau Facebook i gael rhestr o’r nosweithiau cymunedol ledled y gogledd.

 

"Os oes raid i chi ddefnyddio tân gwyllt eich hun, dilynwch y rheolau tân gwyllt."

 

Y Rheolau Tân Gwyllt

 

- Prynwch dân gwyllt sydd â BS 7114 arnynt yn unig.

- Peidiwch ag yfed alcohol os byddwch chi'n cynnau tân gwyllt.

- Cadwch y tân gwyllt mewn bocs a chaead arno.

- Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd ar bob tân gwyllt.

- Taniwch nhw hyd braich i ffwrdd, gan ddefnyddio tapr.

- Sefwch yn ddigon pell yn ôl.

- Peidiwch byth â mynd yn agos at dân gwyllt sydd wedi’i gynnau.  Hyd yn oed os nad ydi o wedi tanio, mae'n dal yn bosib iddo ffrwydro.

- Peidiwch byth â rhoi tân gwyllt yn eich poced, na'i daflu.

- Dylid goruchwylio plant os ydynt yn agos at dân gwyllt.

- Taniwch ffyn gwreichion un ar y tro, a gwisgwch fenig.

- Peidiwch byth â rhoi ffyn gwreichion i blant dan bum mlwydd oed.

- Cadwch anifeiliaid anwes yn y tŷ.


"Os byddwch chi'n trefnu noson tân gwyllt, rhowch wybod i Ystafell Reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru trwy ffonio 01931 522 006."

 

Os ydych chi’n ymwybodol bod pobl yn camddefnyddio tân gwyllt i achosi difrod i eiddo neu anafu rywun, ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu mewn argyfwng ffoniwch 999.  

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen