Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlygu pwysigrwydd diogelwch trydan wedi i beiriant golchi llestri fynd ar dân yn Abergele

Postiwyd

Mae tân a achoswyd gan beiriant golchi llestri yn Abergele ddoe wedi cymell apêl gan swyddogion o’r gwasanaeth tân ac achub ar i drigolion sicrhau bod eu holl eitemau trydanol a nwyddau gwyn mewn cyflwr gweithredol da.

Galwyd diffoddwyr tân o Abergele i Ryd y Foel, Abergele am 10.34 o’r gloch ddoe, 30ain Ionawr i ddelio gyda thân mewn cegin. Fe ddefnyddiodd y criwiau bibell dro a phedair set o offer anadlu i ymladd y tân. Fe achosodd y tân rywfaint o ddifrod tân a difrod mwg sylweddol i’r gegin. Cafodd y preswylydd ei chludo i’r ysbyty am archwiliad rhagofalus. Cafodd y tân ei achosi gan nam trydanol yn y peiriant golchi llestri.

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: “Yn aml iawn yn ystod tanau rydym yn dod ar draws eitemau sydd wedi cael eu galw’n ôl ond sydd yn dal i gael eu defnyddio gan drigolion.

“Rydym yn apelio ar i drigolion sicrhau bod eu holl eitemau trydanol mewn cyflwr gweithredol da, a’u bod yn edrych ar y rhestr adalw rhag ofn bod cyfarpar wedi cael eu galw’n ôl. 

“Mae mwyafrif yr eitemau yn eich cartref yn ddiogel ond dylech wirio’n rheolaidd rhag ofn bod darn o gyfarpar yn eich cartref wedi cael ei alw’n ôl.

“I wirio eitemau sydd wedi cael eu galw’n ôl ewch i www.electricalsafetyfirst.org.uk

“Os ydych chi’n poeni am eitem sydd heb ymddangos ar y rhestr adalw, dylech roi’r gorau i’w ddefnyddio ar unwaith a rhannu’ch pryder gyda’r gwerthwr, y gwneuthurwr neu’ch swyddfa Safonau Masnachu leol.

“Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru eitemau newydd, er mwyn galluogi i’r gwneuthurwyr gysylltu gyda chi os oes problem. Ewch i www.registermyappliance.org.uk  am ragor o wybodaeth ac i gofrestru eitemau trydanol. 

"Hefyd, mae’n rhaid defnyddio cyfarpar trydanol yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr , ac fe ddylai trigolion gymryd camau syml i leihau’r risg o dân trydanol - peidiwch â gorlwytho socedi, gwiriwch wifrau’n rheolaidd rhag ofn eu bod wedi treulio, datgysylltwch blygiau cyfarpar pan nad ydych yn eu defnyddio, cadwch beiriannau mewn cyflwr glân ac mewn cyflwr gweithredol da a datodwch geblau estyn yn llawn cyn eu defnyddio. 

“Ein cyngor yw byddwch mor barod â phosibl rhag tân, trwy wneud yn siŵr bod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a llwybrau dianc clir a all eich galluogi chi a’ch teulu i fynd allan o’ch cartref mor gyflym â phosib.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen