Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Tîm Cymorth Cymunedol wedi helpu dros 1,000 ers ei lansiad

Postiwyd

Yn Awst 2016 fe gydweithiodd y gwasanaethu brys yng Ngogledd Cymru ar fenter newydd gyda’r nod o gadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi.

Erbyn hyn mae’r Tîm Cymorth Cymunedol wedi helpu dros fil o bobl. Mae’r peilot ar waith yng Nghonwy a Sir Ddinbych lle mae tîm o staff arbenigol yn cydweithio i ymateb i bobl fregus sydd wedi cael codwm yn y cartref.

Nod y fenter yw gostwng nifer y bobl sydd yn cael eu hanfon i’r ysbyty yn dilyn codwm, a thrwy hyn leddfu’r pwysau a’r galw ar y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaethau meddygol.

Mae’r tîm yn cynnwys aelodau staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru sydd wedi eu hyfforddi’n llawn ac sydd gan y gallu i ddarparu gwasanaeth rhagorol a gwell profiad i’r claf.

Meddai Kevin Roberts, Uwch Reolwr Diogelwch Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym yn hapus iawn gyda datblygiad y fenter ac yn hynod falch o’r tîm am gynorthwyo dros fil o bobl.

“Mae buddion amlwg o gydweithio gyda gwasanaethau brys a chyhoeddus eraill, a hynny yn nhermau arian parod ac mewn perthynas â darparu gwell gwasanaeth i’m cymunedau.

“Trwy ymateb fel tîm arbenigol i godymau dianaf yn y modd hwn rydym yn gobeithio y gallwn leddfu rhywfaint o’r pwysau yn ogystal â darparu gwasanaeth gwell.”

Meddai Liz Hughes, Rheolwr Gweithrediadau Ambiwlans yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae’r Tîm Cymorth Cymunedol yn enghraifft berffaith o’r modd y gall y gwasanaethau ambiwlans gydweithio i wella gofal y claf a diogelu’r gymuned yn well. “Mae’r cynllun hefyd yn helpu i leihau nifer y bobl sydd yn gorfod mynd i’r ysbyty, ac mae hyn yn helpu i leddfu’r pwysau a’r galw ar y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaethau meddygol – mae mawr angen y gefnogaeth yma arnom yn enwedig yng nghanol cyfnod prysur y gaeaf.

“Da iawn i’r tîm am helpu dros 1,000 o gleifion.”

Meddai Mrs Eileen Harrop, a welodd y tîm yn cynorthwyo’i gŵr: “ Am Wasanaeth penigamp. Mae’n well nag aros am Ambiwlans. Roedd y tîm wedi ein cyrraedd ni mewn llai nag awr. Doedd dim angen ambiwlans arnom ni gan nad ydi Rodney erioed wedi cael araf wrth gwympo ac felly mae’n caniatáu i adnoddau hanfodol gael eu hanfon at alwadau blaenoriaeth uwch.”

Mae’r fenter yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â’r tri gwasanaeth brys, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Glaw Gofal a Gwasanaeth Monitro Galwadau Rhanbarth Gogledd Cymru.

Mae aelodau’r tîm yn gweithio patrwm sifft yn ystod y cyfnodau prysuraf rhwng 7am – 11pm. Maent yn ymateb mewn cerbyd sydd wedi ei frandio’n arbennig a chydag offer arbenigol angenrheidiol, gan gynnwys dyfeisiadau codi er mwyn codi cleifion yn ôl i safle eisteddog yn ddiogel.

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei anfon trwy ystafell reoli’r Gwasanaeth Ambiwlans, ac felly nid oes yn rhaid i’r cyhoedd wneud dim byd yn wahanol, fodd bynnag bydd y Tîm Cymorth Cymunedol yn cael eu hanfon yn lle ambiwlans pan fydd hynny’n addas. Mae’r fenter hon ac eraill eisoes wedi derbyn cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru 2016 yn y categori ‘Cydweithio’ a oedd yn dathlu llwyddiant Tîm Prosiect Atal ac Ymateb y Tri Gwasanaeth.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen