Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn 2017

Postiwyd

 

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i bobl gadw llygaid ar berthnasau a chymdogion hŷn ar Ddiwrnod Pobl Hŷn 2016 sydd yn digwydd y penwythnos hwn (Dydd Sul 1af Hydref).

 

Mae Diwrnod Pobl Hŷn yn ddiwrnod rhyngwladol sydd yn cydnabod a  dathlu llwyddiant a chyfraniad pobl hŷn yn ein cymdeithas.

 

Dengys ystadegau bod pobl dros 65 mlwydd oed yn fwy tebygol o farw mewn tân yn y cartref. A chyda poblogaeth sydd yn mynd yn hŷn  mae’n debygol y bydd achosion yn cynyddu.   Yn ôl yr ystadegau mae tua 157,000 o bobl 65 neu hŷn yn byw yng Ngogledd Cymru, ac mae tua 7,300 o'r rhain yn 90 neu hŷn. Ond erbyn 2037, tybir y bydd y ffigwr hwn yn nes at 213,500 ac y bydd bron i 22,000 yn 90 neu hŷn.

 

Y llynedd, roedd 41% o'r tanau yr aeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru atynt yn ymwneud â phobl dros 60,

 

Er mai pobl hŷn sydd fwyaf mewn perygl o dân y mae rhai rhagofalon syml y gallant eu dilyn er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cadw mor ddiogel â phosibl. 

 

Mae staff o’r Gwasanaeth wedi trefnu i gymryd rhan mewn llu o ddigwyddiadau i hybu diogelwch tân ymhlith pobl hŷn, gan gynnwys digwyddiad yn Venue Cymru heddiw, digwyddiad i bobl hŷn yng Nghei Conna yfory a digwyddiad Age Cymru ym Mangor yr wythnos nesaf. 

 

Meddai Paul Scott, Pennaeth Diogelwch Cymunedol. "Mae larymau mwg yn arbed bywydau, felly gwnewch yn siŵr bod gan ffrindiau a chymdogion hŷn larymau mwg, a chofiwch eu cynnal a’u cadw a’u profi’n rheolaidd.

“Os ydych yn ymweld â pherthnasau neu ffrindiau hŷn neu os oes gennych chi funud i alw i weld eich cymdogion profwch eu larymau mwg tra’r ydych chi yno.  Mae larymau mwg gweithredol yn rhoi cyfle i bobl ddianc o’r cartref os bydd tân.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen