Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Digwyddiad yng Nghanolfan Hamdden Llangefni

Postiwyd

 

 

Mae’r gwasanaethau brys wedi cael eu galw i ddigwyddiad mewn canolfan hamdden yn Llangefni, Ynys Môn.

 

Fe anfonodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru injan dân o Langefni  i Ganolfan Hamdden Plas Arthur am  10.57 o’r gloch y bore yma (dydd Mercher 8fed Chwefror).

 

Roedd staff o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru hefyd yn bresennol.

 

Roedd grŵp o blant  ysgol wedi mynd yn wael wrth nofio yn y pwll nofio yn y ganolfan hamdden.

 

Nid yw’r plant yn ddifrifol wael ac maent  yn cael triniaeth ragofalol gan staff y gwasanaeth ambiwlans.

 

Bydd y gwasanaethau brys yn aros ar y safle tra bod asesiadau pellach yn cael eu cwblhau i weld beth a achosodd y digwyddiad. 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen