Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

‘Arafwch ac Arbedwch fywyd’ – Wythnos Diogelwch y Ffyrdd

Postiwyd

Mae’r gwasanaethau brys ar draws Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Diogelwch y Ffyrdd cenedlaethol yr elusen Brake unwaith eto eleni drwy ofyn i yrwyr ‘Arafu, ac Arbedwch Fywyd.’

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar yrwyr i gefnogi wythnos diogelwch y ffyrdd mwyaf y DU drwy ymrwymo i arafu a meddwl am ganlyniadau gyrru’n rhy gyflym.

 

Fydd yr ymgyrch, sy’n cael ei gynnal o’r 20fed hyd at y 26ain o Dachwedd, yn gweld swyddogion o Uned Plismona’r Ffyrdd yn defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol er mwyn hybu un neges ‘5 Angheuol’ pob diwrnod drwy ddefnyddio’r hashnodau #Arafwch ac #WythnosDiogelwchyFfyrdd

 

Meddai’r Arolygydd Dave Cust o Uned Plismona’r Ffyrdd, Heddlu Gogledd Cymru: “Mae Wythnos Diogelwch y Ffyrdd yn gyfle i’r heddlu, partneriaid a’r cyhoedd i gydweithio’n agosach er mwyn ceisio lleihau’r nifer o wrthdrawiadau angheuol a difrifol ar ein ffyrdd.

 

“Thema’r wythnos eleni yw goryrru ac yn syml mae’r ymgyrch yn gofyn i bobl ‘arafu er mwyn arbed bywyd.’ Mae goryrru yn fater sy’n pryderu nifer o gymunedau ac yn un yr ydym yn ei gymryd yn ddifrifol.

 

“Mae ymgyrchoedd fel hyn yn rhoi cyfle gwych i ni godi ymwybyddiaeth o beryglon goryrru ac i atgoffa pobl fod swyddogion yn chwilio am unrhyw un sy’n peryglu bywyd eu hunain a phobl eraill. Mi fydd y rhai sy’n anwybyddu’r gyfraith yn cael eu cosbi.

 

“Mae gennym strategaeth ar gyfer delio a’r pum trosedd sy’n achosi’r mwyaf o anafiadau a marwolaethau ar y ffyrdd, neu ‘y 5 Angheuol’ sef goryrru, gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, peidio gwisgo gwregys diogelwch, defnyddio ffôn symudol a gyrru’n beryglus. Mae pobl sy’n cyflawni un o’r ‘5 angheuol’ yn fwy tebygol o fod mewn gwrthdrawiad angheuol na’r rhai sydd ddim felly fe fyddem yn defnyddio’r wythnos er mwyn codi ymwybyddiaeth bellach.

 

Fe ychwanegodd: “Rydym wedi ymrwymo i wneud ein ffyrdd yn ddiogelach i bawb ac fe fyddem yn parhau i dargedu’r modurwyr anghyfrifol, sydd nid yn unig yn peryglu bywyd eu hunain, ond bywydau pobl eraill hefyd.

 

“Rydym yn falch o fod yn cefnogi Wythnos Diogelwch y Ffyrdd unwaith eto ac mi fydd ein swyddogion yn cydweithio â phartneriaid a chydweithwyr drwy ganolbwyntio ar addysgu, ymgysylltu ac erlyn.”

 

Meddai Jane Honey, Dirprwy Bennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Fel diffoddwyr tân, rydym wedi bod yn dyst i wrthdrawiadau dychrynllyd.

 

“Gall ein ffyrdd fod yn llefydd peryglus iawn, sy’n arwain at wrthdrawiadau difrifol neu angheuol, ond drwy newid ymddygiad fe allem helpu wneud ein pentrefi, trefi a dinasoedd yn llefydd diogelach. Mae pob gweithred rydym yn ei wneud, unai fel gyrrwr neu deithiwr, yn gallu newid siwrne a dyfodol teulu. Rydym yn cefnogi’r ymgyrch eleni ac yn erfyn ar bawb i arafu er mwyn arbed bywyd.”

 

Meddai Dermot O’Leary, Pencampwr Diogelwch y Ffyrdd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru sydd wedi’i leoli yn Y Rhyl: “Rydym yn gweld yn uniongyrchol y llanast sy’n cael ei achosi gan wrthdrawiadau, a’r effaith mae hyn yn ei gael ar deuluoedd a’r gymuned leol.

“Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cefnogi’r ymgyrch yma ac mi fyddem yn cydweithio ân bartneriaid yn y gwasanaethau brys er mwyn cyfleu’r neges holl bwysig yma i gymaint o bobl ag sy’n bosib yn ystod Wythnos Diogelwch y Ffyrdd.”

 

Mae Wythnos Diogelwch y Ffyrdd yn ymgyrch flynyddol sy’n cael ei gydlynu ar draws y DU gan yr elusen Brake. Am ragor o wybodaeth ewch ar eu gwefan (www.brake.org.uk)

 

Plîs dilynwch Uned Plismona’r Ffyrdd ar rwydweithiau cymdeithasol drwy Twitter @NWPRPU a Facebook <https://www.facebook.com/NWPRPU/>

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen