Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yw’r sefydliad ‘Dementia-Gyfeillgar’ cyntaf yng Ngogledd Cymru

Postiwyd

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yw’r sefydliad cyntaf yng Ngogledd Cymru i  ‘Weithio tuag at ddod yn sefydliad Dementia-Gyfeillgar’ ac y mae wedi derbyn cydnabyddiaeth fel rhan o raglen genedlaethol i greu cymunedau dementia-gyfeillgar ledled y DU.

                                                                

I dderbyn y gydnabyddiaeth hon roedd yn rhaid i’r Gwasanaeth arddangos ei ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Alzheimer’s i helpu pobl sydd yn byw â dementia a sicrhau bod staff y deall y ffordd orau i gefnogi’r rhai sydd yn dioddef o symptomau’r salwch.

 

Mae Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn egluro: “ Mae’n wych gweld ein partneriaeth gyda’r Gymdeithas Alzheimer’s yn cael ei chydnabod yn y modd hwn, wrth i ni ymrwymo i weithio gyda thrigolion a all fod yn agored i beryglon a’r asiantaethau sy’n eu cefnogi i helpu i amddiffyn ein cymunedau.

 

“Mae’n bosib bod pobl â dementia mewn mwy o berygl o dân oherwydd eu bod yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio, ac oherwydd problemau gyda’r cof tymor byr a medrusrwydd corfforol.  Fe all dryswch neu anghofio sut i ddefnyddio offer hefyd achosi problemau, ac  maent yn ei chael hi’n anoddach i fynd allan neu ddeall beth sy’n mynd ymlaen mewn achos o dân. 

 

“Mae sicrhau bod staff yn deall y problemau y mae pobl â dementia yn eu hwynebu, a chael system atgyfeirio weithredol yn ei lle yn ein helpu ni i gymryd camau i wneud gwahaniaeth mawr i gadw  pobl sydd yn byw â dementia yn ddiogel.

 

'Mae iechyd, diogelwch a lles pobl â dementia yn bwysig iawn i ni ac rydym yn falch ein bod yn gweithio gyda’r Gymdeithas Alzheimer’s i gefnogi pobl sydd yn byw â dementia ynghyd â’u teuluoedd.”

 

Y Rheolwr Partneriaethau ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint, Mike White, sydd wedi bod yn arwain ar y gwaith hwn ac y mae wedi bod yn cydweithio  gyda Jo Lane, Cydlynydd Cymunedau Dementia-Gyfeillgar y Gymdeithas  Alzheimer’s  i sefydlu partneriaethau a darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia i staff.

 

Meddai Mike: “Fel sefydliad, rydym yn cydnabod gwerth bod yn sefydliad dementia-gyfeillgar.  Gyda chyfran uchel iawn o’r bobl hŷn sydd mewn perygl uwch o ddioddef tân yn y cartref hefyd yn byw gyda dementia mae’n angenrheidiol ein bod yn gweithio’n agos gyda sefydliadau dementia-gyfeillgar eraill yn y dyfodol.  

 

“Fel partneriaeth weithredol, rydym yn atgyfeirio unigolion a fyddai’n elwa o’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan sefydliadau eraill – yn ystod archwiliad diogelwch yn y cartref, os credwn y byddai’r unigolyn yn elwa o gyngor gan y Gymdeithas Alzheimer’s, byddem yn eu hatgyfeirio atynt.  Fe all y Gymdeithas Alzheimer’s hefyd atgyfeirio cleientiaid a fyddai’n elwa o archwiliad diogelwch yn y cartref atom ni, er mwyn eu cadw mor ddiogel â phosib yn y cartref.  Mae pawb yn wahanol ac felly hefyd eu hanghenion. Mae pob ymweliad yn benodol i anghenion a dymuniadau’r unigolyn.

 

“Mae nifer o’n staff wedi mynychu sesiynau ymwybyddiaeth dementia i ddeall dementia yn well a hefyd i weld sut y gallant gefnogi unigolion gyda’r cyflwr. Byddwn yn cyflwyno’r sesiynau hyn i ychwaneg o staff dros y misoedd nesaf, a hefyd sicrhau bod ystyried pobl â dementia wedi ei gynnwys yn ein prosesau a’n gweithdrefnau.”

 

Fe ychwanegodd Jo Lane, Cydlynydd Cymunedau Dementia-Gyfeillgar y Gymdeithas Alzheimer’s: “Rydym yn falch o gadarnhau mai Gwasanaeth Tân ac Achub gogledd Cymru yw’r sefydliad cyntaf i ennill y statws ‘gweithio tuag at ddod yn sefydliad dementia-gyfeillgar’ yng Ngogledd Cymru.

 

“Y mae hyn yn golygu bod Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru wedi cyflwyno newidiadau i wneud yn siŵr bod gan y gwasanaeth tân ac achub yng Ngogledd Cymru ddealltwriaeth dda o ddementia, sut mae’n effeithio ar bobl a sut y gallant barhau i gefnogi pobl â dementia yn y gymuned, a bydd yn parhau i gyflwyno newidiadau yn y dyfodol.

 

“Mae Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru wedi bodloni’r meini prawf Sylfaenol ac y mae wedi cael cydnabyddiaeth gan y Gymdeithas Alzheimer’s.

 

“Edrychwn ymlaen at gael parhau i weithio gyda hwy yn y dyfodol i gefnogi eu gwaith da.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen