Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd am ddiogelwch wrth goginio ar ôl tân mewn cegin ym Mochdre

Postiwyd

 

Mae Uwch Swyddog Diogelwch Tân yn apelio ar drigolion i fod yn ofalus yn y gegin yn dilyn digwyddiad neithiwr.

 

Aeth dau beiriant o Fae Colwyn at dân mewn eiddo ar Rodfa Tan yr Allt, Mochdre am 10.23pm nos Iau 8fed Medi.

 

Cafodd dyn wedi’i anafu ei gario allan gan y criwiau a rhoddwyd ocisgen iddo yn y fan a’r lle cyn iddo gael ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans.

 

Dywedodd Gwyn Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae coginio yn un o’r prif bethau sy’n achosi tanau damweiniol yng Ngogledd Cymru, a dro ar ôl tro rydym yn mynd at danau mewn tai sydd wedi cychwyn yn y gegin – mae mor hawdd anghofio eich bod wrthi’n gwneud bwyd, yn enwedig os ydych wedi blino, os oes rhywbeth yn tynnu eich sylw neu os ydych wedi bod yn yfed. Ond gall y canlyniadau fod yn drychinebus.

 

"Anghofio diffodd yr hob, gadael bwyd yn y microdon am ormod o amser, gorboethi sosban sglodion, llosgi tost neu adael y popty ymlaen – gallai pob un o’r rhain fod yn drychinebus yn y gegin ac arwain at anafiadau difrifol neu, yn fwy difrifol byth, at ladd rhywun.”

 

Dyma gynghorion Gwyn i fod yn ddiogel yn y gegin:

- Os ydych yn gadael yr ystafell, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres

- Peidiwch â defnyddio matsis na thaniwr i danio cwcer nwy. Mae dyfeisiau sbarcio’n fwy diogel

- Gwnewch yn siŵr nad yw coesau unrhyw sosbenni yn wynebu dros ymyl y cwcer

- Cadwch y popty, yr hob a’r gril yn lân – os oes saim wedi hel, gall fynd ar dân

- Peidiwch byth â hongian unrhyw beth i sychu uwchben y cwcer

- Cymerwch ofal os ydych yn gwisgo dillad llac oherwydd gallai fynd ar dân yn hawdd

- Pan fyddwch wedi gorffen coginio, gwnewch yn siŵr fod popeth wedi diffodd

- Diffoddwch offer trydanol pan nad yw’n cael ei ddefnyddio

- Peidiwch â defnyddio sosban tshios – defnyddiwch beiriant ffrio dan reolaeth thermostat neu tsips popty

- Trefnwch i osod larymau mwg – maen nhw ar gael yn rhad ac am ddim a gallent achub eich bywyd

- Peidiwch byth â rhedeg yn ôl i mewn i’r adeilad. Pan fyddwch allan, arhoswch allan! Gallai anadlu mwg effeithio’n ddifrifol ar eich siawns o adael yr adeilad yr ail dro.

- Gofyn am drwbl yw coginio ar ôl ichi fod yn yfed. Mae tanau di-ri yn cael eu hachosi bob blwyddyn gan bobl sy’n dod adref o’r dafarn ac yn penderfynu coginio tamaid i’w fwyta cyn mynd i’r gwely. Dewiswch yr opsiwn diogel a pharatoi tamaid cyn mynd allan neu nôl tecawê ar y ffordd adref.

 

Ychwanegodd Gwyn:

“Mae larymau mwg yn arbed bywydau. Byddwn yn gofyn i bawb feddwl am aelodau oedrannus neu fregus o’r teulu neu gymdogion, a gofalu eu bod nhwythau’n ddiogel hefyd. Gall y rhybudd cynnar a roddir gan larwm mwg roi munudau hollbwysig i’w helpu i ddianc yn ddianaf.

 

“Yn ffodus, roedd yna larwm mwg yn yr eiddo yma, a seiniodd i roi gwybod i’r preswyliwr fod yna dân.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen