Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn helpu i ddiogelu busnesau yn well

Postiwyd

 

 

Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn cynnig negeseuon diogelwch i fusnesau rannu gyda’u staff yn ystod Wythnos Diogelwch i Fusnesau Cymdeithas y Prif Ddiffoddwyr Tân (CFOA) sy’n digwydd yr wythnos hon (5ed I 11eg Medi 2016.)

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Mae’r gweithgareddau ar gyfer yr wythnos hon wedi eu trefnu ar adeg pan fydd nifer o fusnesau yn recriwtio mwy o staff cyn cyfnod y Nadolig.

 

“Mae’n bosib na fydd y recriwtiaid newydd hyn yr un mor ymwybodol o ddiogelwch tân â staff parhaol, ac mae’n bosib na fyddant yn gwybod sut i amddiffyn cwsmeriaid, cydweithwyr a hwy eu hunain.

 

“Mae hefyd yn gyfle da i atgoffa gweithwyr o bwysigrwydd asesiadau risgiau tân a gwneud yn siŵr bod staff presennol yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch tân.”

 

Mae’n allweddol bwysig ein bod yn helpu busnesau i reoli risgiau tân a pheryglon i ddiogelu rhag colledion masnachol ac ariannol, yn enwedig yn yr oes sydd ohoni lle mae cynnydd a chynaladwyedd yn cael blaenoriaeth.

 

Fe all tân amharu’n sylweddol ar fusnesau - mae’n haws dod dros dân os ydy’r risgiau wedi eu canfod, ac os ydy trefniadau addas wedi cael eu rhoi ar waith i atal tanau rhag cynnau yn y lle cyntaf, neu liniaru’r effaith y maent yn debygol o’i gael.

 

Mae gwasanaethau tân ac achub ar draws Prydain wedi trefnu llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddenu sylw busnesau yn eu cymunedau, er mwyn gweithio gyda hwy i helpu i wella eu hymwybyddiaeth o ddiogelwch tân ac atal tanau bwriadol.

 

Yng Ngogledd Cymru bydd staff o’r Adran Diogelwch Tân i Fusnesau a’r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol (ART) yn mynd draw i Barc Busnes Lôn Parcwr, Rhuthun ac Ystadau Diwydiannol Peblig a Chibyn yng Nghaernarfon. Bydd staff hefyd yn ymuno â Swyddogion Cydymffurfiaeth a chriwiau gweithredol ar safleoedd diwydiannol yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam i wneud yn siŵr bod yr holl fusnesau yno yn ddiogel a bod peryglon ar y safleoedd hyn yn cael eu hamlygu a’u cofnodi, a bod camau yn cael eu rhoi ar waith i atal tanau o ganlyniad.

 

 

Meddai Llywydd Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân , Paul Hancock "Mae wythnos Diogelwch i Fusnesau yn gyfle i ni atgoffa busnesau bod y gwasanaeth tân ac achub yma i gynnig cyngor a chymorth ar ddiogelu’r gweithle rhag tân.

 

“Gofynnwn i gyflogwyr roi blaenoriaeth i ddiogelwch tân a chysylltu gyda ni os nad ydynt wedi mynd i’r afael â threfniadau sydd wedi eu hadolygu yn y gorffennol a hyfforddi staff yn rheolaidd.  Gallwch wynebu dirwy drwy beidio â chydymffurfio â’r gyfraith, neu, os bydd y gwaethaf yn digwydd, fe all pobl golli eu bywydau.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen