Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gweithio mewn partneriaeth er mwyn helpu i amddiffyn ein cymunedau

Postiwyd

Mae staff o Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i gynnig archwiliadau diogelwch yn y cartref i bobl sydd mewn perygl o ddioddef tanau yn y cartref.

 

Mae’r peilot, sydd ar waith ym Mlaenau Ffestiniog, Porthmadog a Thywyn ar hyn o bryd, yn ymledu i Fangor ac ynys Môn ym mis Medi. Fel rhan o’r peilot mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn cwblhau archwiliadau sydd yn cynnwys rhoi cyngor ar ddiogelwch a gosod neu brofi larymau mwg.

 

Mae’r archwiliadau hyn yn cael eu cynnig fel rhan o ddyletswyddau Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu pan fo hynny’n briodol.

 

Mae’r aelodau staff o Heddlu Gogledd Cymru sydd yn rhan o’r peilot wedi cael hyfforddiant gan eu cydweithwyr yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r peilot hwn ymhlith nifer o brosiectau peilot eraill sydd gennym ar y gweill mewn partneriaeth â’n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys i gadw ein cymunedau’n ddiogel.

 

“Mae buddion amlwg i gydweithio yn y modd hwn gyda gwasanaethau brys a chyhoeddus eraill, a hynny o safbwynt arbed arian ac mewn perthynas â gwella ein gwasanaethau yn y gymuned.

 

“Fe all yr archwiliadau hyn arbed bywydau. Rydym wedi bod yn llygad dystion i gymaint o danau trychinebus a allai fod wedi cael eu hatal drwy gymryd ychydig o ragofalon syml.

 

“Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ein cefnogi i rannu ein negeseuon pwysig ynglŷn â diogelwch tân tra bod staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael hyfforddiant ar sut i gwblhau archwiliadau atal troseddau yn ein cymunedau, fel rhan o Archwiliadau Diogelwch yn y Cartref mwy integredig.”

 

Fe ychwanegodd y Rhingyll Paul Wycherley o Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o addasu ein dulliau gwaith i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’r cyhoedd.

 

“Mae’r prosiect peilot hwn yn enghraifft wych o’r modd yr ydym wedi dod o hyd i ffyrdd o weithio mewn partneriaeth neu weithio ar ran ein cydweithwyr o wasanaethau goleuadau glas eraill i amddiffyn ein cymunedau.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen